Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 1

1
1A Solomon mab Dafydd a ymgadarnhaodd yn ei deyrnas, a’r Arglwydd ei Dduw oedd gydag ef, ac a’i mawrhaodd ef yn ddirfawr. 2A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel, wrth dywysogion y miloedd a’r cannoedd, ac wrth y barnwyr, ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel, sef y pennau-cenedl. 3Felly Solomon a’r holl dyrfa gydag ef a aethant i’r uchelfa oedd yn Gibeon: canys yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, yr hon a wnaethai Moses gwas yr Arglwydd yn yr anialwch. 4Eithr arch Duw a ddygasai Dafydd i fyny o Ciriath-jearim, i’r lle a ddarparasai Dafydd iddi: canys efe a osodasai iddi hi babell yn Jerwsalem. 5Hefyd, yr allor bres a wnaethai Besaleel mab Uri, mab Hur, oedd yno o flaen pabell yr Arglwydd: a Solomon a’r dyrfa a’i hargeisiodd hi. 6A Solomon a aeth i fyny yno at yr allor bres, gerbron yr Arglwydd, yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod, a mil o boethoffrymau a offrymodd efe arni hi.
7Y noson honno yr ymddangosodd Duw i Solomon, ac y dywedodd wrtho ef, Gofyn yr hyn a roddaf i ti. 8A dywedodd Solomon wrth Dduw, Ti a wnaethost fawr drugaredd â’m tad Dafydd, ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef. 9Yn awr, O Arglwydd Dduw, sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear. 10Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn? 11A dywedodd Duw wrth Solomon, Oherwydd bod hyn yn dy feddwl di, ac na ofynnaist na chyfoeth, na golud, na gogoniant, nac einioes dy elynion, ac na ofynnaist lawer o ddyddiau chwaith; eithr gofyn ohonot i ti ddoethineb, a gwybodaeth, fel y bernit fy mhobl y’th osodais yn frenin arnynt: 12Doethineb a gwybodaeth a roddwyd i ti, cyfoeth hefyd, a golud, a gogoniant, a roddaf i ti, y rhai ni bu eu cyffelyb gan y brenhinoedd a fu o’th flaen di, ac ni bydd y cyffelyb i neb ar dy ôl di.
13A Solomon a ddaeth o’r uchelfa oedd yn Gibeon, i Jerwsalem, oddi gerbron pabell y cyfarfod, ac a deyrnasodd ar Israel. 14A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch, ac efe a’u gosododd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, ac yn Jerwsalem gyda’r brenin. 15A’r brenin a wnaeth yr arian a’r aur yn Jerwsalem cyn amled â’r cerrig, a chedrwydd a roddes efe fel y sycamorwydd o amldra, y rhai sydd yn tyfu yn y doldir. 16A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadwyr y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris. 17Canys deuent i fyny, a dygent o’r Aifft gerbyd am chwe chan darn o arian; a march am gant a hanner; ac felly y dygent i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria gyda hwynt.

Dewis Presennol:

2 Cronicl 1: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda