Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 16

16
1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, Pa hyd y galeri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel? Llanw dy gorn ag olew, a dos; mi a’th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad: canys ymysg ei feibion ef y darperais i mi frenin. 2A Samuel a ddywedodd, Pa fodd yr af fi? os Saul a glyw, efe a’m lladd i. A dywedodd yr Arglwydd, Cymer anner-fuwch gyda thi, a dywed, Deuthum i aberthu i’r Arglwydd. 3A galw Jesse i’r aberth, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych: a thi a eneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt. 4A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr Arglwydd, ac a ddaeth i Bethlehem. A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef; ac a ddywedasant, Ai heddychlon dy ddyfodiad? 5Ac efe a ddywedodd, Heddychlon: deuthum i aberthu i’r Arglwydd: ymsancteiddiwch, a deuwch gyda mi i’r aberth. Ac efe a sancteiddiodd Jesse a’i feibion, ac a’u galwodd hwynt i’r aberth.
6A phan ddaethant, efe a edrychodd ar Eliab; ac a ddywedodd, Diau fod eneiniog yr Arglwydd ger ei fron ef. 7A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, Nac edrych ar ei wynepryd ef, nac ar uchder ei gorffolaeth ef: canys gwrthodais ef. Oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr Arglwydd a edrych ar y galon. 8Yna Jesse a alwodd Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith. 9Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith. 10Yna y parodd Jesse i’w saith mab ddyfod gerbron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr Arglwydd y rhai hyn. 11Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio’r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma. 12Ac efe a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef. Ac efe oedd writgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr Arglwydd, Cyfod, eneinia ef: canys dyma efe. 13Yna y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr Arglwydd ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama.
14Ond ysbryd yr Arglwydd a giliodd oddi wrth Saul; ac ysbryd drwg oddi wrth yr Arglwydd a’i blinodd ef. 15A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, Wele yn awr, drwg ysbryd oddi wrth Dduw sydd yn dy flino di. 16Dyweded, atolwg, ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron, am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn: a bydd, pan ddelo drwg ysbryd oddi wrth Dduw arnat ti, yna iddo ef ganu â’i law; a da fydd i ti. 17A dywedodd Saul wrth ei weision, Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda, a dygwch ef ataf fi. 18Ac un o’r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a’r Arglwydd sydd gydag ef.
19Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon ataf fi Dafydd dy fab, yr hwn sydd gyda’r praidd. 20A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara, a chostrelaid o win, a myn gafr, ac a’u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul. 21A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a’i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef. 22A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywedyd, Arhosed Dafydd, atolwg, ger fy mron i: canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg. 23A phan fyddai y drwg ysbryd oddi wrth Dduw ar Saul, y cymerai Dafydd delyn, ac y canai â’i ddwylo; a byddai esmwythdra i Saul; a da oedd hynny iddo, a’r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho.

Dewis Presennol:

1 Samuel 16: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda