A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw,) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin. Ac o achos hyn y dyrchafodd efe ei law yn erbyn y brenin: Solomon a adeiladodd Milo, ac a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dad. A’r gŵr Jeroboam oedd rymus o nerth: a Solomon a ganfu y llanc hwnnw yn medru gwneuthur gwaith, ac a’i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff. A’r pryd hwnnw, a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem, y proffwyd Ahia y Siloniad a’i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes. Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef, ac a’i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau. Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, Wele fi yn rhwygo’r frenhiniaeth o law Solomon, a rhoddaf ddeg llwyth i ti: (Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:) Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a’m barnedigaethau, fel Dafydd ei dad. Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o’i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwas, yr hwn a ddewisais i, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a’m deddfau i: Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth. Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth; fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno. A thi a gymeraf fi, fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon; a thi a fyddi frenin ar Israel. Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a’m gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dŷ sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti. A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn; eto nid yn dragywydd. Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a ffodd i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon.
A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon? A’r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem, ar holl Israel, oedd ddeugain mlynedd. A Solomon a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.