Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Cronicl 9

9
1A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.
2Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid. 3Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse: 4Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda. 5Ac o’r Siloniaid; Asaia y cyntaf-anedig, a’i feibion. 6Ac o feibion Sera; Jeuel, a’u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain. 7Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua, 8Ibneia hefyd mab Jeroham, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija; 9A’u brodyr yn ôl eu cenedlaethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau-cenedl ar dŷ eu tadau.
10Ac o’r offeiriaid; Jedaia, a Jehoiarib, a Jachin, 11Asareia hefyd mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ Dduw; 12Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malceia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer. 13A’u brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ Dduw. 14Ac o’r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari, 15Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff; 16Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid. 17Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a’u brodyr; Salum ydoedd bennaf; 18A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion. 19Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau hwynt ar lu yr Arglwydd, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn. 20Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r Arglwydd ydoedd gydag ef. 21Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod. 22Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt-hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd. 23Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr Arglwydd, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau. 24Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau. 25A’u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt. 26Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.
27Ac o amgylch tŷ Dduw y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore. 28Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan. 29A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a’r gwin, a’r olew, a’r thus, a’r aroglau peraidd. 30Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd. 31A Matitheia, un o’r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf-anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell. 32Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i’w ddarparu bob Saboth. 33A dyma y cantorion, pennau-cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos. 34Dyma bennau-cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.
35Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha: 36A’i fab cyntaf-anedig ef oedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab, 37A Gedor, ac Ahïo, a Sechareia a Micloth. 38A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr. 39Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal. 40A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha. 41A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas. 42Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa: 43A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. 44Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.

Dewis Presennol:

1 Cronicl 9: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda