Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Cronicl 15

15
1A Dafydd a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratôdd le i arch Duw, ac a osododd iddi babell. 2A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch Duw, ond i’r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr Arglwydd i ddwyn arch Duw, ac i weini iddo ef yn dragywydd. 3A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr Arglwydd i’w lle a baratoesai efe iddi hi. 4A Dafydd a gynullodd feibion Aaron, a’r Lefiaid. 5O feibion Cohath; Uriel y pennaf, a’i frodyr, cant ac ugain. 6O feibion Merari; Asaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant ac ugain. 7O feibion Gersom; Joel y pennaf, a’i frodyr, cant a deg ar hugain. 8O feibion Elisaffan; Semaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant. 9O feibion Hebron; Eliel y pennaf, a’i frodyr, pedwar ugain. 10O feibion Ussiel; Amminadab y pennaf, a’i frodyr, cant a deuddeg. 11A Dafydd a alwodd am Sadoc ac am Abiathar yr offeiriaid, ac am y Lefiaid, am Uriel, Asaia, a Joel, Semaia, ac Eliel, ac Amminadab, 12Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi sydd bennau-cenedl ymhlith y Lefiaid: ymsancteiddiwch chwi a’ch brodyr, fel y dygoch i fyny arch Arglwydd Dduw Israel i’r lle a baratoais iddi hi. 13Oherwydd nas gwnaethoch o’r dechreuad, y torrodd yr Arglwydd ein Duw arnom ni, oblegid na cheisiasom ef yn y modd y dylasem. 14Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymsancteiddiasant i ddwyn i fyny arch Arglwydd Dduw Israel. 15A meibion y Lefiaid a ddygasant arch Duw ar eu hysgwyddau, wrth drosolion, megis y gorchmynnodd Moses, yn ôl gair yr Arglwydd. 16A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd. 17Felly y Lefiaid a osodasant Heman mab Joel; ac o’i frodyr ef Asaff mab Berecheia; ac o feibion Merari eu brodyr, Ethan mab Cusaia. 18A chyda hwynt eu brodyr o’r ail radd, Sechareia, Ben, a Jaasiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, Eliab, a Benaia, a Maaseia, a Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed-edom, a Jehiel, y porthorion. 19Felly Heman, Asaff, ac Ethan, y cerddorion, oeddynt i leisio â symbalau pres. 20A Sechareia, ac Asiel, a Semiramoth, a Jehiel, ac Unni, ac Eliab, a Maaseia, a Benaia, a ganent nablau ar Alamoth. 21A Matitheia, ac Eliffele, a Micneia, ac Obed-edom, a Jehiel, ac Asaseia, oeddynt â thelynau ar y Seminith i ragori. 22Chenaneia hefyd oedd flaenor y Lefiaid ar y gân: efe a ddysgai eraill am y gân, canys cyfarwydd ydoedd. 23A Berecheia ac Elcana oedd borthorion i’r arch. 24A Sebaneia, a Jehosaffat, a Nathaneel, ac Amasai, a Sechareia, a Benaia, ac Elieser, yr offeiriaid, oedd yn lleisio mewn utgyrn o flaen arch Duw: Obed-edom hefyd a Jeheia oedd borthorion i’r arch.
25Felly Dafydd a henuriaid Israel, a thywysogion y miloedd, a aethant i ddwyn i fyny arch cyfamod yr Arglwydd o dŷ Obed-edom mewn llawenydd. 26A phan gynorthwyodd Duw y Lefiaid oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, hwy a offrymasant saith o fustych, a saith o hyrddod. 27A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a’r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a’r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gân, a’r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain. 28A holl Israel a ddygasant i fyny arch cyfamod yr Arglwydd â bloedd, â llais trwmped, ag utgyrn, ac â symbalau, yn lleisio gyda’r nablau a’r telynau.
29A phan ydoedd arch cyfamod yr Arglwydd yn dyfod i ddinas Dafydd, Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu Dafydd y brenin yn dawnsio ac yn chwarae: a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.

Dewis Presennol:

1 Cronicl 15: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda