Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 90

90
SALM XC
CARTREF DYN BRAU.
‘Gweddi Moses gŵr Duw’
1O Arglwydd, cartref ydwyt i ni,
Ymhob cenhedlaeth.
2Cyn geni’r mynyddoedd,
A chyn esgor ar y ddaear a’r byd.
O dragwyddoldeb i dragwyddoldeb yr wyt Ti.
3Troi ddyn yn ôl i’r llwch,
A gelwi ar feibion dynion i ddychwelyd.
4Yn wir, megis doe a aeth heibio,
Ydyw mil o flynyddoedd yn Dy olwg Di,
Rhyw ddarn o nos ydyw.
5Heui ddynion flwyddyn ar ôl blwyddyn,
Y maent fel glaswellt yn tarddu.
6Yn y bore y mae’n blodeuo ac yn tarddu,
Ond yn yr hwyr gwyw a chrin ydyw.
7Canys difethir ni gan dy ddicter,
A chan Dy lid y brawychir ni.
8Gosodaist ein beiau o’th flaen,
A’n dirgel bethau yng ngoleuni Dy wyneb.
9Cilio a wna ein holl ddyddiau;
Oherwydd Dy ddigofaint derfydd am danom:
Rhyw ochenaid yw ein blynyddoedd.
10Eithaf ein blynyddoedd yw deg mlynedd a thrigain,
Neu bedwar ugain mlynedd lle bo cryfder mawr;
Eto blinder ofer yw eu meithder,
Canys ciliant yn gyflym, a ninnau a ehedwn.
11Pwy sy’n teimlo holl nerth Dy soriant?
Pwy sy’n medru edrych ar Dy ddicter Di?
13O Iehofa, rho newid buan ar fyd,
A thosturia wrth Dy weision.
14Diwalla ni’n fuan â’th gariad
Fel y bo’n holl ddyddiau yn un cân fawr lawen.
15Rho inni lawenydd a fo cymaint â’r cystudd a roddaist,
A chymaint â’r drygfyd maith a welsom.
16Gad i’th weision Dy weld yn gweithio,
A boed Dy ogoniant ar eu plant.
17A bydded gras Iehofa ein Duw arnom:
A rho lwyddiant i’n llafur;
Ie, rho lwyddiant i’n llafur.
salm xc
Disgrifir y Salm hon yn y teitl fel Gweddi Moses, neu weddi ar batrwm gweddi Moses, a threwir ynddi dannau a drewir yn Deut. 32 a chredid gynt mai Moses oedd awdur y Pentateuch, ac ni ddiflannodd eto yr ymadrodd ‘Pum Llyfr Moses’. Fel ar bob Salm arall y mae’r dyfaliadau am ei hawdur yn amryfal, a chwiliwyd am dano ym mhob cyfnod o ddyddiau Ahab i ddyddiau’r Macabeaid. Ond bu myfyrio cyffelyb i fyfyrdod y Salm ym mhob cyfnod o oes dyn, a hyd yn oed heddiw gyda’n holl ymffrost yng ngallu dyn, “breuol yw dyn, a thragwyddol yw Duw”.
Nodiadau
1, 2. Y mae ‘cartref’ yma yn well na ‘noddfa’ a gynhigir gan rai. Y mae Duw yn gweithio cyn geni erioed y mynyddoedd tragwyddol.
3, 4. Gwêl Salm 146:4. Diau fod Gen. 3:13, hefyd ym meddwl yr awdur. Y mae’n anodd ymatal rhag derbyn cyfieithiad arall i adn. 3, sef “Na thro ddyn yn ôl i’r llwch, a dywedyd, ‘Dychwelwch feibion dynion’,” — ceir yr ystyr hon o gysylltu gair olaf 2 a’r adnod hon.
Darn o nos neu wyliadwriaeth nos; rhennid y nos i dair gwyliadwriaeth gan yr Hebreaid.
5, 6. Ar newid bychan y ceir yr ystyr ardderchog hon, a gellir bod yn weddol sicr mai dyma feddwl y bardd. Daw cnwd ar ôl cnwd o ddynion megis y daw twf o laswellt o’r ddaear, yn las ac iraidd yn y bore, ond dan wres yr haul crina’n fuan, a chyn freued a hynny yw einioes dyn.
7, 9. Fel y mae gwres yr haul yn difa’r glaswellt felly y mae gwres dicter Duw yn difa’r genedl. Gellir darllen ‘ein hieuenctid’ yn lle ‘ein dirgel bethau’ yn adn. 8. Ffafr Duw yn gyffredin yn y Salmau ydyw goleuni Ei wyneb, ond yma goleuni yn datguddio pechod ydyw, ac yn ei ysu fel y mae’r haul yn ysu y glaswellt.
‘Ochenaid’, nid ‘chwedl’ sydd gywir, a pheth sydd fyrrach?
10. Gwendid y blynyddoedd sy’n boen a blinder ac nid eu nerth, ac y mae gwarant dros ddarllen ‘meithder’. Cenedl o bobl iach a fyddai cenedl ac eithaf blynyddoedd ei phobl yn ddeg a thrigain.
12, 13.
Y mae nerth soriant Duw a maint ei ddicter yn fwy nag a brofodd Israel eto, er trymed a fu Ei law arni. Felly gweddïa’r Salmydd am newid buan ar fyd ac am dosturi. Nid oes gyfeiriad yma at adfer o gaethiwed.
14—17. Bu nos gofid yn hir ac ingol, felly gwawried dydd o lawenydd a gorfoledd, a pharhaed y dydd llawenydd hwnnw cyhyd â nos trallodion.
Yn 16 dymuno gweld Duw ar waith ac yn llawn egni yn dwyn i’r genedl ymwared a wna’r Salmydd.
Gras Iehofa ydyw Ei garedigrwydd tuag at Ei bobl, a llwyddiant i’w llafur yw ei ddymuniad.
Pynciau i’w Trafod:
1. Defnyddir y Salm hon yn y Gwasanaeth Claddu. A ydyw yn Salm addas i amgylchiad felly?
2. Y mae breuder bywyd yn hoff bwnc gan y beirdd, a meddyliwch am enghreifftiau o waith beirdd Cymru: —
“Breuach na bar o ewyn
Yn ei stad yw einioes dyn.” (Lewis Glyn Cothi).
“Truan mor wan yw’r einioes,
Trymed yw tor amod oes.” (Tudur Aled).
“A fo wychaf ei fuchedd
Ar awr bach yr â i’r bedd.” (William Llŷn).
Gellwch feddwl am ddegau o enghreifftiau eraill, a chymherwch hwynt â chynnwys y Salm hon.
3. Ai ymarferiad iach ydyw meddwl am freuder a thrueni einioes dyn? A ydyw einioes dyn mor druan a phictiwr trist y Salm hon ohoni?
4. Anogir ni gan Awstin i edrych ar fywyd yng ngoleuni tragwyddoldeb. A wna hynny rhyw wahaniaeth?

Dewis Presennol:

Salmau 90: SLV

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda