Salmau 65
65
SALM LXV
EMYN DIOLCHGARWCH.
‘O Lyfr Canu’r Pencerdd. Salmgan Dafydd.’
1I Ti, O Dduw, adroddir cân o fawl yn Sion,
Ac i Ti y telir addunedau yn Ieriwsalem.
2O Wrandawr gweddi, daw pob cnawd atat Ti.
3Y mae’n beiau yn rhy gryf i ni,
Tydi a all orchuddio ein pechodau.
4O mor hapus yw’r gŵr a ddewisi i drigo
Yn agos atat yn Dy gynteddau.
Llanwer ni â daioni Dy dŷ, Dy deml santaidd.
5Â phethau ofnadwy yn gyfiawn yr atebi ni,
O Dduw fy iechydwriaeth,
Gobaith holl gyrrau eithaf y ddaear,
A’r ynysoedd pell.
6Dy nerth Di sy’n sicrhau’r mynyddoedd,
Cadernid yw Dy wregys.
7Tydi sy’n gostegu rhuad moroedd, a rhuad eu tonnau,
A therfysg pobloedd.
8Ac ofn arwyddion Dy nerth
Sydd ar drigolion y cyrrau eithaf;
Tydi sydd yn peri i drigolion gwledydd
Codiad a machlud haul seinio cân.
9Ymweli â’r ddaear a’i dyfrhau hi,
A’i chyfoethogi yn fawr
Ag afon Duw sydd yn llawn dwfr.
Darperaist ŷd iddi. Fel hyn yr wyt Ti yn ei darparu: —
10Mwydo ei chwysau, a gwastatau ei rhychau,
Ei meddalu â chawodau, a bendithio ei chnwd.
11Coroni’r flwyddyn â’th ddaioni,
A braster sy’n diferu yn ôl Dy droed.
12Porfeydd yr anialwch sy’n diferu,
Llawenydd yw gwregys y bryniau.
13Defaid yw dillad y dolydd,
Ac ŷd yw gorchudd y dyffrynnoedd;
Bloeddiant yn llawen a chanant.
salm lxv
Emyn Diolchgarwch ydyw’r Salm am hyfrydwch addoliad y Deml, am amlygiadau o gadernid Duw yn natur, am gynhaeaf toreithiog. Y mae cnewyllyn y Salm yn hen iawn, a gellir ei chyfrif ymysg y Salmau cyntaf a ddefnyddid yn y Deml.
Nodiadau
1—4. ‘Pob cnawd’, nid ‘pob Iddew’ a feddylir, ond pob dyn. Ni chytunwn â’r duedd i wrthod pob cyfeiriad at apêl gyffredinol Duw at ddynion a’u hystyried fel ychwanegiadau diweddar. Y mae breintiau addoli yn y Deml ar gyfer pob addolwr, nid at freintiau yr offeiriaid y cyfeirir.
5—8. Pob amlygiad o allu a chadernid Duw yn natur ydyw’r pethau ofnadwy. Nid yn oriog a mympwyol yr amlygir hwynt, ond ‘yn gyfiawn’, er mwyn dwyn iechyd a gwaredigaeth i ddyn. Y môr a’r mynydd ydyw prif gynrychiolwyr Duw yn natur, ac fel tystion o nerth Duw creant ofn parchedig trwy’r byd.
9—13. Darlunnir Duw ei hunan yn dyfod i’r ddaear. Ei afon ef ydyw’r dyfroedd uwchlaw’r ffurfafen, ffynhonnell y glaw cynnar a diweddar. ‘Y braster’ ydyw’r cawodydd sy’n cynhyrchu cnydau toreithiog a diadellau bras. Naturiol i Gymro gymharu’r disgrifiad o fraster yn dilyn ôl troed Duw, â’r disgrifiad o Olwen yn ein llenyddiaeth ni, sef bod pedair meillionen wen yn tarddu pa le bynnag y dodai ei throed arno. Yn yr adnod olaf personolir y dolydd a darlunnir hwynt yn gwisgo amdanynt â defaid, a’r dyffrynnoedd yn eu gwisgo eu hun ag ŷd.
Pynciau i’w Trafod:
1. Y mae’n amlwg wrth adn. 2, 5, 8 fod y Salmydd hwn yn edrych tu hwnt i ffiniau ei genedl. A ellir crefydd genedlaethol?
2. Darlunnir yma amlygiadau o allu Duw yn natur yn ennyn parchedig ofn. A ydyw gwyddoniaeth a gwybodaeth o ddeddfau natur wedi difa hwn? Nid llais Duw ydyw’r daran i ni heddiw, — nid llid Duw ydyw’r fellten, ac ni chreant ynom barchedigaeth. A ydyw twf gwybodaeth felly yn llesteirio crefydd?
3. Yn 9-13 cysylltir ffrwythlonder y ddaear â phresenoldeb Duw. A oes unrhyw gysylltiad rhwng duwioldeb dyn â ffrwythlonder daear?
Dewis Presennol:
Salmau 65: SLV
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.