Salmau 130
130
SALM CXXX
O’R DYFNDEROEDD.
‘Cân y Pererinion’
1O’r dyfnderoedd y galwaf arnat, O Iehofa.
2O Arglwydd, clyw fy llais,
Gwrando’n astud ar fy llef ymbilgar.
3Pe creffit Ti ar feiau dyn,
Pwy fedrai sefyll, O Arglwydd?
4Ond gyda Thi mae maddeuant fel y parcher Dy gyfraith.
5Gobeithiaf yn Iehofa,
Gobeithia fy enaid yn Ei addewid.
6Disgwyl fy enaid am Dduw yn fwy na’r gwylwyr am y bore.
7Disgwylied Israel wrth Iehofa;
Canys gyda Iehofa mae cariad,
Ac aml ymwared sydd gydag Ef.
8Ef a wared Israel o’i holl feiau.
salm cxxx
Nid oes undim yn y Salm i benderfynu ei chyfnod nac amgylchiadau ei chyfansoddi. Dyfynnir hi yn 2 Cron. 6:39-40.
Nodiadau
1, 2. O ddyfnderoedd dyfroedd a feddylir, canys hoff gan y Salmwyr ydyw cyffelybu eu gofidiau i ddyfroedd geirwon.
3, 4. Yr ystyr ydyw cymryd sylw manwl o feiau a’u gwylio’n ddi-feth, ond nid dyna arfer Duw. Ni fedrai neb sefyll mewn barn pe sylwid yn fanwl felly ar ei feiau. Oherwydd diofalwch copïydd a bod y gair yn debyg i’r gair am ‘barchu’ gadawyd ‘Dy gyfraith’ allan. Y mae maddau pechod yn ogystal a’i gosbi yn ennyn parch at gyfraith Duw.
5—8. Bu raid ad-drefnu ychydig ar y gwreiddiol. Gwylwyr y ddinas neu wylwyr y deml sydd ym meddwl y Salmydd. Aml ymwared oddi wrth effeithiau a thrallodau a ddilyn bechod sydd yn bennaf yn ei feddwl.
Pynciau i’w Trafod:
1. Awgrym y Salmydd yn adnod 3 ydyw nad ydyw Duw yn sylwi’n fanwl ar feiau dyn. Onid yn rhy fynych y darlunnir Duw heddiw fel Un sy’n craffu ar bechod ac yn ei lwyr ddial o’i weld? Oni fuoch chwi yn gyfarwydd unwaith â syniad felly? Pa ddrwg a wnaeth i chwi?
2. Pa un ai cosbi dyn am bechu ynteu maddau ei bechod sydd yn debycaf o ennyn ynddo barch at Dduw a’i ddeddfau?
Dewis Presennol:
Salmau 130: SLV
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Detholiad o'r Salmau gan Lewis Valentine. Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston ym mis Ebrill 1936.