Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 8

8
1Nid oes, gan hyny, yn awr ddim condemniad i’r rhai yng Nghrist Iesu, 2canys cyfraith Yspryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd oddiwrth gyfraith pechod a marwolaeth; 3canys yr hyn oedd ammhosibl i’r Gyfraith, gan ei bod yn wan trwy’r cnawd, Duw gan ddanfon Ei Fab Ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod, 4a gondemniodd bechod yn y cnawd, fel y byddai i ddeddf y Gyfraith ei chyflawni ynom ni, y rhai, nid yn ol y cnawd yr ym yn rhodio, ond yn ol yr Yspryd. 5Canys y rhai sydd yn ol y cnawd, pethau’r cnawd a syniant; ond y rhai yn ol yr Yspryd, bethau’r Yspryd. 6Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; ond syniad yr Yspryd, bywyd a thangnefedd yw; 7canys syniad y cnawd, gelyniaeth yn erbyn Duw yw, canys i gyfraith Dduw nid yw’n ymddarostwng, canys ni all er dim; 8a’r rhai sydd yn y cnawd, rhyngu bodd Duw ni allant. 9Ond chwychwi nid ydych yn y cnawd eithr yn yr Yspryd, os yw Yspryd Duw yn wir yn trigo ynoch. Ond os yw neb heb Yspryd Crist ganddo, hwnw nid yw yn eiddo Ef. 10Ond os yw Crist ynoch, y corph sydd farw o herwydd pechod, ond yr yspryd yn fywyd o herwydd cyfiawnder. 11Ac os Yspryd yr Hwn a gyfododd Iesu o feirw sy’n trigo ynoch, yr Hwn a gyfododd Crist Iesu o feirw a fywha hefyd eich cyrph marwol trwy Ei Yspryd Ef, yr Hwn sy’n trigo ynoch.
12Gan hyny, ynte, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, 13fel yn ol y cnawd y bo i ni fyw, canys os yn ol y cnawd yr ydych yn byw, ar fedr marw yr ydych; ond os trwy’r Yspryd y marwhewch weithredoedd y corph, byw fyddwch, 14canys y sawl sydd ag Yspryd Duw yn eu harwain, y rhai hyn yw meibion Duw; 15canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn er ofn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad, trwy’r Hwn y llefwn, Abba Dad. 16Y mae’r Yspryd Ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hyspryd ni mai plant Duw ydym; 17ac os plant, etifeddion hefyd; etifeddion yn wir i Dduw, ond cyd-etifeddion â Christ, os yn wir cyd-ddioddef gydag Ef yr ydym, fel y’n cyd-ogonedder hefyd.
18Canys cyfrif yr wyf nad o ddim gwerth yw dioddefiadau yr amser presennol mewn cymhariaeth â’r gogoniant ar fedr ei ddatguddio tuag attom. 19Canys awydd-fryd y greedigaeth, am ddatguddiad meibion Duw y mae’n disgwyl; 20canys i oferedd y bu i’r greedigaeth ei darostwng, nid o’i bodd, eithr oblegid yr Hwn a’i darostyngodd, 21mewn gobaith y bydd i’r greedigaeth ei hun ei rhyddhau o gaethiwed llygredigaeth i ryddid ogoneddus meibion Duw; 22canys gwyddom fod yr holl greedigaeth yn cydocheneidio, 23ac ynghyd mewn gwewyr hyd yn awr. Ac nid hyny yn unig, eithr hefyd a chenym flaen-ffrwyth yr Yspryd, nyni ein hunain hefyd ynom ein hunain a ocheneidiwn, gan ddisgwyl am y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph; canys trwy obaith y’n hachubwyd. 24Ond gobaith a welir nid yw obaith, canys yr hyn a wel neb, pwy sydd yn ei obeithio ef? 25Ond os yr hyn na welwn, yr ydym yn ei obeithio, trwy amynedd yr ym yn disgwyl am dano.
26A’r un ffunud y mae’r Yspryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid, canys pa beth a weddïem fel y dylem, nis gwyddom; eithr yr Yspryd Ei hun sy’n erfyn trosom ag ocheneidiau anrhaethadwy; 27a’r Hwn sy’n chwilio’r calonnau a ŵyr pa beth yw syniad yr Yspryd, gan mai yn ol Duw yr erfyn Efe dros y seintiau. 28A gwyddom mai i’r rhai sy’n caru Duw y mae pob peth yn cydweithio er daioni, y rhai sydd wedi eu galw yn ol Ei arfaeth; 29canys y rhai a rag-adnabu Efe, a rag-ordeiniodd Efe hefyd i fod yn un ffurf a delw Ei Fab, fel y byddai Efe yn gyntafanedig ym mhlith llawer o frodyr; 30ac y rhai a rag-ordeiniodd Efe, y rhai hyny a alwodd Efe hefyd; ac y rhai a alwodd Efe, y rhai hyny a gyfiawnhaodd Efe hefyd; ac y rhai a gyfiawnhaodd Efe, y rhai hyny a ogoneddodd Efe hefyd.
31Pa beth, gan hyny, a ddywedwn wrth y pethau hyn? 32Ai, Os Duw sydd trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Ië, yr Hwn nad arbedodd Ei Fab Ei hun, eithr trosom ni oll y traddododd Ef, pa wedd hefyd, ynghydag Ef, na ddyry bob peth i ni? 33Pwy a rydd ddim yn erbyn y rhai a etholwyd gan Dduw? Duw yw’r Hwn sy’n cyfiawnhau. 34Pwy yw’r hwn sy’n condemnio? Crist Iesu, yr Hwn a fu farw, ïe, yn hytrach yr Hwn a gyfodwyd o feirw, yr Hwn sydd ar ddeheulaw Duw, yr Hwn sydd hefyd yn erfyn trosom. 35Pwy a’n gwahana ni oddiwrth gariad Crist? Ai gorthrymder? Ai ing? Ai ymlid? Ai newyn? Ai noethni? 36Ai enbydrwydd? Ai cleddyf? Fel yr ysgrifenwyd,
“O’th achos Di y’n lleddir ar hyd y dydd,
Y’n cyfrifir fel defaid y lladdfa.”
37Eithr yn y pethau hyn oll y tra-gorchfygwn trwy yr Hwn a’n carodd ni, 38canys perswadiwyd fi na fydd na marwolaeth, na bywyd, nac angel, na thywysogaethau, na phethau presennol, 39na phethau i ddyfod, na galluoedd, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, yn abl i’n gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 8: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda