Rhufeiniaid 6
6
1Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, Arhoswn mewn pechod fel y bo i ras amlhau? 2Na atto Duw. Ni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y byddwn fyw etto ynddo? 3Ai heb wybod yr ydych mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, i’w farwolaeth Ef y’n bedyddiwyd? 4Cyd-gladdwyd ni, gan hyny, gydag Ef trwy farwolaeth, er mwyn fel y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y byddai i ninnau hefyd rodio yn newydd-deb buchedd; 5canys os ein cyd-uno ag Ef a fu i ni trwy gyffelybiaeth Ei farwolaeth Ef, trwy gyffelybiaeth Ei adgyfodiad hefyd y byddwn felly; 6gan wybod hyn y bu i’n hen ddyn ni ei groes-hoelio gydag Ef, fel y dirymmid y corph pechadurus er mwyn na wasanaethom bechod mwyach, 7canys yr hwn a fu farw a ollyngwyd yn rhydd oddiwrth bechod. 8Ac os buom feirw gyda Christ, credwn y byddwn fyw hefyd gydag Ef, 9gan wybod nad yw Crist, ar ol Ei gyfodi o feirw, yn marw mwyach, marwolaeth nid arglwyddiaetha arno mwyach: 10canys yn yr hyn y bu Efe farw, i bechod y bu farw unwaith am oll; ond yn yr hyn y bu Efe fyw, 11byw y mae i Dduw; felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, ond yn fyw i Dduw yng Nghrist Iesu.
12Na theyrnased pechod, gan hyny, yn eich corph marwol fel yr ufuddhaoch i’w chwantau ef; 13ac na roddwch eich aelodau, yn arfau anghyfiawnder, i bechod; eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, fel rhai o feirw yn fyw, a’ch aelodau, 14yn arfau cyfiawnder i Dduw: canys pechod, arnoch chwi nid arglwyddiaetha, canys nid ydych tan y Gyfraith, eithr tan ras.
15Pa beth, gan hyny? Ai pechu a wnawn, o herwydd nad ydym tan y Gyfraith, eithr tan ras? 16Na atto Duw. Oni wyddoch mai i’r hwn y rhoddwch eich hunain yn weision er ufudd-dod, gweision ydych i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo, pa un bynnag ai gweision pechod i farwolaeth; neu weision ufudd-dod, i gyfiawnder? 17Ond diolch i Dduw, y buoch weision pechod, ond ufuddhasoch o’r galon i’r ffurf o ddysgad a draddodwyd i chwi; 18ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod y’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder. 19Yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd o herwydd gwendid eich cnawd; canys fel y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder er sancteiddiad. 20Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych tuag at gyfiawnder. 21Pa ffrwyth, gan hyny, oedd i chwi y pryd hwnw yn y pethau y mae arnoch yn awr gywilydd o’u plegid, canys eu diwedd hwy yw marwolaeth? 22Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae genych eich ffrwyth i sancteiddiad, 23a’r diwedd yn fywyd tragywyddol; canys cyflog pechod yw marwolaeth, ond dawn Duw yw bywyd tragywyddol yn Iesu Grist ein Harglwydd ni.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 6: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.