Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 2

2
1Gan hyny, diesgus wyt, O ddyn, bob un y sy’n barnu, canys yn yr hyn y berni y llall, condemnio ti dy hun yr wyt, canys yr un pethau yr wyt ti y sy’n barnu, yn eu gwneuthur. 2A gwyddom fod barn Duw yn ol gwirionedd yn erbyn y rhai sy’n gwneuthur y fath bethau. 3Ac a dybi di hyn, O ddyn y sy’n barnu y rhai yn gwneuthur y fath bethau ac yn eu gwneuthur hwynt, y diengi di rhag barn Duw? 4Ai golud Ei ddaioni a’i ddioddefgarwch, a’i hwyrfrydigrwydd Ef a ddirmygi, gan fod heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys i edifeirwch, 5ond yn ol dy galedrwydd a’th galon ddiedifeiriol yr wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint yn nydd digofaint a datguddiad cyfiawn farn Duw, 6yr hwn a dal i bob un yn ol ei weithredoedd, 7sef i’r rhai sydd trwy amynedd yng ngweithred dda yn ceisio gogoniant ac anrhydedd ac anllygredigaeth, fywyd tragywyddol; 8ond i’r rhai cynhenus ac yn anufudd i’r gwirionedd, ond yn ufudd i anghyfiawnder, 9y bydd digofaint a llid, trallod ac ing ar bob enaid dyn sy’n gweithredu yr hyn sy ddrwg, 10yr Iwddew yn gyntaf a’r Groegwr hefyd; ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd i bob un sy’n gweithredu yr hyn sy dda, 11i’r Iwddew yn gyntaf a’r Groegwr hefyd, canys nid oes derbyn gwyneb gyda Duw. 12Canys cynnifer ag a bechasant heb y Gyfraith, heb y Gyfraith y derfydd am danynt; a chynnifer ag a bechasant tan y Gyfraith, trwy’r Gyfraith y bernir hwynt, 13canys nid gwrandawyr y Gyfraith sydd gyfiawn gyda Duw, ond gwneuthurwyr y Gyfraith a gyfiawnheir. 14Canys pan fo’r cenhedloedd, y rhai sydd heb y Gyfraith ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur pethau’r Gyfraith, y rhai hyn, heb y Gyfraith ganddynt, 15ydynt gyfraith iddynt eu hunain; y rhai sy’n dangos gwaith y Gyfraith wedi ei ysgrifenu yn eu calonnau, eu cydwybod hwy yn cyd-dystiolaethu; a’u meddyliau, rhyngddynt a hwy eu gilydd, yn cyhuddo neu yn esgusodi, yn y dydd pan y barna Duw y pethau cuddiedig gan ddynion, 16yn ol fy Efengyl, trwy Iesu Grist.
17A thydi, os Iwddew y’th enwir, ac ymorphwyso o honot ar y Gyfraith, 18ac yn ymffrostio yn Nuw, ac yn gwybod Ei ewyllys, ac yn darbod y pethau rhagorol, wedi dy ddysgu o’r Gyfraith; 19yn coelio dy hun yn dywysog i’r deillion, yn oleuni i’r rhai mewn tywyllwch, yn ddiwygiwr ynfydion, 20yn ddysgawdwr y rhai bach; a chenyt ffurf gwybodaeth a’r gwirionedd yn y Gyfraith; 21yr hwn, gan hyny, wyt yn dysgu arall, ai ti dy hun na ddysgi di? Yr hwn wyt yn pregethu peidio â lladratta, ai lladratta yr wyt? 22Yr hwn wyt yn dywedyd peidio â godinebu, ai godinebu yr wyt? Yr hwn wyt yn ffieiddio yr eulunod, ai yspeilio temlau yr wyt? 23Yr hwn, yn y Gyfraith yr ymffrosti, ai trwy droseddiad y Gyfraith y mae Duw yn cael Ei ddianrhydeddu genyt? 24canys enw Duw, o’ch plegid chwi y’i ceblir ym mhlith y cenhedloedd, fel y mae yn ysgrifenedig. 25Canys amdorriad yn wir sy’n llesau, os y Gyfraith a wnei; ond os troseddwr y Gyfraith wyt, dy amdorriad a aeth yn ddiamdorriad. 26Os y diamdorriad, gan hyny, a geidw ddeddfau’r Gyfraith, oni fydd i’w ddiamdorriad ef ei gyfrif yn amdorriad, 27a barnu o’r diamdorriad y sydd o naturiaeth, pan y Gyfraith a gyflawno efe, di yr hwn, ynghyda’r llythyren ac amdorriaeth, wyt yn droseddwr y Gyfraith? 28Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iwddew, na’r hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd sydd amdorriad; 29eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iwddew, ac amdorriad yw amdorriad y galon yn yr yspryd, nid yn y llythyren; clod yr hwn, nid o ddynion y mae, ond o Dduw.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 2: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda