Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 16

16
1Gorchymynaf i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i’r eglwys y sydd yn Cenchrea, 2fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o’r saint, ac y cynnorthwyoch hi ym mha beth bynag y byddo rhaid iddi wrthych, canys hi hefyd a fu gymmorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
3Annerchwch Prisca ac Acwila, fy nghyd-weithwyr yn Iesu Grist, 4y rhai dros fy mywyd i a ddodasant i lawr eu gyddfau eu hunain; i’r rhai nid myfi yn unig sydd yn rhoddi diolch, eithr hefyd holl eglwysydd y cenhedloedd; 5annerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. Annerchwch Epenetus, fy anwylyd, yr hwn yw blaenffrwyth Asia i Grist. 6Annerchwch Mair, yr hon a roes lafur mawr arnoch. 7Annerchwch Andronicus ac Iwnias, fy ngheraint ac fy nghyd-garcharorion, y rhai ydynt hynod ym mhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt o’m blaen i yng Nghrist. 8Annerchwch Ampliatus, fy anwylyd yn yr Arglwydd. 9Annerchwch Wrbanus, ein cyd-weithiwr yng Nghrist; a Stachus, fy anwylyd. 10Annerchwch Apeles, y cymmeradwyedig yng Nghrist. Annerchwch y rhai sy o dylwyth Aristobwlus. 11Annerchwch Herodion, fy nghar. Annerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. 12Annerchwch Truphena a Truphosa, y rhai sy’n llafurio yn yr Arglwydd. Annerchwch Persis, yr anwylyd, yr hon a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd. 13Annerchwch Rwphus, yr etholedig yn yr Arglwydd, ac ei fam ef a minnau. 14Annerchwch Asuncritus, Phlegon, Hermes, Patrobus, Hermas, a’r brodyr sydd gyda hwynt. 15Annerchwch Philologus ac Iwlia, Nerëus a’i chwaer, ac Olumpas, a’r holl saint y sydd gyda hwynt. 16Annerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Eich annerch y mae holl eglwysi Crist.
17Ac attolygaf i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sy’n peri ymraniadau a thramgwyddau yn groes i’r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt; 18canys y cyfryw rai, ein Harglwydd Crist ni wasanaethant, eithr eu bol eu hunain; a thrwy eu gweniaith ac ymadrodd teg y twyllant galonnau y rhai di-ddrwg. 19Canys eich ufudd-dod chwi, at bawb y daeth. Ynoch chwi, gan hyny, yr wyf yn llawenychu; ond ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sy dda, ac yn wirion tuag at yr hyn sydd ddrwg. 20A Duw yr heddwch a ysiga Satan tan eich traed ar frys.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi.
21Eich annerch y mae Timothëus, fy nghydweithiwr, a Lwcius, ac Iason, a Sosipater, fy ngheraint. 22Eich annerch yr wyf fi Tertius, yr hwn a ’sgrifenais yr epistol hwn yn yr Arglwydd. 23Eich annerch y mae Gaius, fy lletywr i a’r holl eglwys. Eich annerch y mae Erastus, disdain y ddinas; a Cwartus, y brawd.
25I’r Hwn sydd abl i’ch cadarnhau yn ol fy efengyl, a phregethiad Iesu Grist, yn ol datguddiad y dirgelwch am yr hwn yn yr amseroedd tragywyddol yr oedd distawrwydd, ond a eglurwyd yn awr trwy’r Ysgrythyrau Prophwydol yn ol gorchymyn y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hyspys i’r holl genhedloedd er ufudd-dod ffydd; 26i’r unig Dduw doeth, trwy Iesu Grist, i’r Hwn bydded y gogoniant yn dragywydd. Amen.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 16: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda