Rhufeiniaid 13
13
1Bydded pob enaid wedi ei ddarostwng i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod oddieithr oddiwrth Dduw; a’r rhai y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. 2Felly yr hwn sy’n ymosod yn erbyn yr awdurdod, ordinhad Duw y mae efe yn ei gwrthsefyll; a’r rhai a wrthsafant a dderbyniant iddynt eu hunain farn. 3Canys y llywodraethwyr, nid ydynt ofn i’r weithred dda, ond i’r ddrwg. A ewyllysi di nad ofnech yr awdurdod? Gwna yr hyn sydd dda, a chai fawl ganddo, canys gweinidog Duw yw i ti er daioni; 4ond os yr hyn sydd ddrwg a wnei, ofna, canys nid yn ofer y cleddyf a wisg efe, canys gweinidog Duw yw, dialydd llid i’r hwn sy’n gwneuthur drwg. 5Gan hyny, y mae rhaid ymddarostwng, nid yn unig o herwydd y llid, eithr hefyd o herwydd cydwybod: 6canys o achos hyn y telwch deyrnged hefyd, canys gwasanaethwyr Duw ydynt, yn ddyfal-ofalu am y peth hwn. 7Telwch i bawb eu dyledion; i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus, deyrnged; i’r hwn y mae toll, doll; i’r hwn y mae ofn, ofn; i’r hwn y mae anrhydedd, anrhydedd.
8I neb na fyddwch mewn dyled o ddim oddieithr o garu eich gilydd, canys yr hwn sy’n caru arall, y Gyfraith a gyflawnodd efe; 9canys hyn, “Ni odinebi, Ni leddi, Ni ladrattai, Ni thrachwanti,” ac os oes rhyw orchymyn arall, yn yr ymadrodd hwn y crynhoir, “Car dy gymmydog fel ti dy hun.” 10Cariad ni wna i’w gymmydog ddrwg; cyflawnder y Gyfraith, gan hyny, yw cariad.
11A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i chwi i ddeffroi o gwsg, canys yn awr nes yw ein hiachawdwriaeth ni na phan gredasom. 12Y nos a gerddodd ym mhell, a’r dydd a nesaodd; diosgwn, gan hyny, weithredoedd y tywyllwch, a rhoddwn am danom arfau y goleuni. 13Fel yn y dydd, rhodiwn yn weddus, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen; 14eithr rhoddwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist; a rhag-ddarbod dros y cnawd, er ei chwantau ef, na wnewch.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 13: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.