S. Luc 18
18
1A dywedodd ddammeg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo o honynt yn wastad, 2a pheidio â llwfrhau, gan ddywedyd, Rhyw farnwr oedd mewn rhyw ddinas; Duw nid ofnai efe, a dyn ni pharchai. 3Ac rhyw wraig weddw oedd yn y ddinas honno, a deuai atto, gan ddywedyd, Gwna gyfiawnder i mi oddiwrth fy ngwrth-ymgyfreithiwr. 4Ac nid ewyllysiai efe am ryw amser; ond wedi hyny, dywedodd ynddo ei hun, Er mai Duw nid ofnaf, a dyn ni pharchaf, 5etto o herwydd peri blinder i mi gan y weddw hon, gwnaf gyfiawnder iddi, rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m baeddu. 6A dywedodd yr Arglwydd, Clywch pa beth y mae’r barnwr anghyfiawn yn ei ddweud. 7A Duw, oni wna Efe gyfiawnder Ei etholedigion y sy’n llefain Arno ddydd a nos, ac Efe yn hir-ymarhous tuag attynt? 8Dywedaf wrthych, y gwna Efe eu cyfiawnder ar frys. Eithr, Mab y Dyn, pan ddelo, a gaiff Efe ffydd ar y ddaear?
9A dywedodd wrth rai a ymddiriedent ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac na wnaent ddim o bawb arall, 10y ddammeg hon, Dau ddyn a aethant i fynu i’r deml i weddïo, y naill yn Pharishead a’r llall yn dreth-gymmerwr. 11Y Pharishead yn ei sefyll, hyn, rhyngddo ac ef ei hun, a weddïodd efe, O Dduw, diolchaf i Ti am nad wyf fel y lleill o ddynion, rheibusion, anghyfiawnion, godinebwyr, neu fel y treth-gymmerwr hwn. 12Ymprydio yr wyf ddwy waith yn yr wythnos, degymmu yr wyf y cwbl a ennillaf. 13A’r treth-gymmerwr, yn sefyll o hirbell, nid ewyllysiai hyd yn oed godi ei lygaid tua’r nef, eithr curai ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, cymmoder Di â mi, y pechadur. 14Dywedaf wrthych, Aeth hwn i wared i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau rhagor y llall; canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir, ac a ostyngo ei hun a ddyrchefir.
15A dygasant Atto eu plant bychain hefyd, fel y cyffyrddai â hwynt; a chan weled o’i ddisgyblion, dwrdiasant hwynt; 16ond yr Iesu a’u galwodd Atto, gan ddywedyd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod Attaf, canys i’r cyfryw rai y perthyn teyrnas Dduw. 17Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag na dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn, nid a efe er dim i mewn iddi.
18A gofynodd rhyw un Iddo, llywodraethwr, gan ddywedyd, Athraw da, wedi gwneuthur pa beth, y byddaf a bywyd tragywyddol yn etifeddiaeth i mi? 19Ac wrtho, y dywedodd yr Iesu, Paham y’m gelwi Fi yn dda? Nid oes neb yn dda oddieithr un, sef Duw. 20Y gorchymynion a wyddost, “Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na ddwg au-dystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam.” 21Ac efe a ddywedodd, Y pethau hyn oll a gedwais o’m hieuengctid. 22Ac wedi clywed hyny, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Etto un peth sydd i ti yn ddiffygiol: yr oll, cymmaint ag a feddi, gwerth a rhanna ef i dlodion, a byddi a chenyt drysor yn y nef; a thyred, canlyn Fi. 23Ac efe, wedi clywed y pethau hyn, yn dra-athrist yr aeth, canys yr oedd yn oludog iawn. 24A chan ei weled ef, yr Iesu a ddywedodd, Mor anhawdd y bydd i’r rhai sydd a golud ganddynt, 25fyned i mewn i deyrnas Dduw: canys haws yw myned o gamel i mewn trwy grau nodwydd ddur, na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw. 26A dywedodd y rhai a glywsant, A phwy all fod yn gadwedig? 27Ac Efe a ddywedodd, Y pethau ammhosibl gyda dynion, posibl ydynt gyda Duw. 28A dywedodd Petr, Wele, nyni wedi gadael ein heiddo, a’th ganlynasom. 29Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Nid oes neb a adawodd dŷ, neu wraig, neu frodyr, neu rieni, neu blant, o achos teyrnas Dduw, 30yr hwn ni dderbyn lawer cymmaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.
31Ac wedi cymmeryd y deuddeg Atto, dywedodd wrthynt, Wele, myned i fynu i Ierwshalem yr ydym, a chwblheir yr holl bethau a ysgrifenwyd trwy’r prophwydi, i Fab y Dyn, 32canys traddodir Ef i’r cenhedloedd, a gwatworir Ef, 33a sareir Ef, a phoerir Arno; ac ar ol Ei fflan-gellu y lladdant Ef, ac y trydydd dydd yr adgyfyd Efe. 34A hwy ni ddeallent ddim o’r pethau hyn, ac yr oedd yr ymadrodd hwn yn guddiedig oddi wrthynt, ac ni chanfyddent y pethau a ddywedwyd.
35A bu, wrth nesau o Hono at Iericho, rhyw ddyn dall a eisteddai yn ymyl y ffordd yn cardotta: 36ac wedi clywed tyrfa yn myned heibio, gofynodd pa beth oedd hyn. 37A mynegasant iddo, Iesu y Natsaread sy’n myned heibio. 38A llefodd efe, gan ddywedyd, Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf. 39Ac y rhai yn myned o’r blaen a’i dwrdiasant i dewi; ond efe, llawer mwy y gwaeddodd, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 40A chan sefyll, yr Iesu a orchymynodd ei ddwyn ef Atto; ac wedi nesau o hono, gofynodd, Pa beth yr ewyllysi ei wneuthur Genyf i ti? 41Ac efe a ddywedodd, Arglwydd, ail-weled o honof. 42A dywedodd yr Iesu wrtho, Ail-wêl, dy ffydd a’th iachaodd. 43Ac allan o law yr ail-welodd efe, a chanlynodd Ef dan ogoneddu Duw: a’r holl bobl, gan weled, a roisant fawl i Dduw.
Dewis Presennol:
S. Luc 18: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.