S. Luc 16
16
1A dywedodd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ddyn goludog, yr hwn oedd a chanddo ddisdain: a hwn a gyhuddwyd wrtho megis yn gwasgaru ei feddiannau ef. 2Ac wedi ei alw ef, dywedodd wrtho, Pa beth yw hyn a glywaf am danat? Dyro gyfrif o’th ddisdeiniaeth, canys ni elli fod mwy yn ddisdain. 3Ac ynddo ei hun y dywedodd y distain, Pa beth a wnaf gan fod fy arglwydd yn dwyn y ddisdeiniaeth oddi arnaf? Cloddio ni allaf; cardotta sydd gywilyddus genyf. 4Gwn pa beth a wnaf, fel pan y’m symmudir o’r ddisdeiniaeth, y derbyniont fi i’w tai. 5Ac wedi galw atto bob un o ddyledwyr ei arglwydd, dywedodd wrth y cyntaf. Pa faint sydd arnat i’m harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can bath o olew. 6Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, a chan eistedd, ar frys ysgrifena, “Deg a deugain.” 7Gwedi’n wrth un arall y dywedodd, A thydi, pa faint sydd arnat? Ac efe a ddywedodd, Can cor o wenith. Dywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, ac ysgrifena, “Pedwar ugain.” 8A chanmolodd yr arglwydd y distain anghyfiawn mai yn gall y gwnelsai; canys meibion y byd hwn ydynt gallach na meibion y goleuni, am eu cenhedlaeth. 9Ac Myfi, wrthych y dywedaf, Gwnewch i’ch hunain gyfeillion o’r mammon anghyfiawn, fel pan ddiffygio, y derbyniont chwi i’r tragywyddol bebyll. 10Y ffyddlawn yn y lleiaf, mewn llawer hefyd ffyddlawn yw; a’r hwn yn y lleiaf yn anghyfiawn, mewn llawer hefyd anghyfiawn yw. 11Os, gan hyny, yn y mammon anghyfiawn nad oeddych ffyddlawn, pwy a ymddiried i chwi y gwir olud? 12Ac os yn yr eiddo arall nad oeddych ffyddlawn, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun? 13Nid oes gwas a ddichon wasanaethu dau arglwydd, canys un ai y naill a gasa ac y llall a gâr efe, neu wrth y naill yr ymlyn ac y llall a ddirmyga efe; ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.
14A chlywed y pethau hyn oll yr oedd y Pharisheaid, a hwy yn ariangar, a gwatwarasant Ef. 15A dywedodd wrthynt, Chwychwi yw y rhai yn cyfiawnhau eich hunain ger bron dynion, ond Duw a ŵyr eich calonnau; canys yr hyn y sydd ymhlith dynion yn uchel, ffiaidd yw ger bron Duw. 16Y Gyfraith a’r Prophwydi, hyd Ioan yr oeddynt; er y pryd hwnw, teyrnas Dduw a efengylir, ac i mewn iddi hi y mae pob dyn yn ymwthio; 17ac haws yw myned o’r nef a’r ddaear heibio nag i un tipyn o’r Gyfraith syrthio. 18Pob un y sy’n gollwng ymaith ei wraig, ac yn priodi un arall, godinebu y mae; a’r hwn a briodo un a ollyngwyd ymaith oddi wrth ŵr, godinebu y mae.
19Yr oedd rhyw ddyn goludog, ac ymwisgai â phorphor a lliain main, yn ymhyfrydu beunydd yn ysplenydd. 20Ac rhyw ddyn tlawd, a’i enw Lazarus, a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd, 21ac yn chwennychu cael ei borthi â’r pethau a syrthient oddi ar fwrdd y dyn goludog; ond hyd yn oed y cwn a ddaethant ac a lyfasant ei gornwydydd ef. 22A bu i’r dyn tlawd farw, a’i ddwyn ymaith gan yr angylion i fynwes Abraham: a bu farw hefyd y goludog, a claddwyd ef. 23Ac yn Hades gan godi ei lygaid, ac yntau mewn arteithiau, gwelai Abraham o hirbell a Lazarus yn ei fynwes. 24Ac efe, gan lefain, a ddywedodd, O Dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod, canys poenir fi yn y fflam hon. 25A dywedodd Abraham, Fy mhlentyn, cofia y derbyniaist dy bethau da yn dy fywyd; a Lazarus, yr un ffunud, y pethau drwg; ond yn awr y diddenir ef, a thydi a boenir. 26Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi, gagendor mawr a sicrhawyd, fel y bo i’r rhai a ewyllysiant dramwy oddi yma attoch, fod heb y gallu; ac oddi yna attom ni na chroesont. 27A dywedodd, Gofynaf, gan hyny, i ti ei ddanfon ef i dŷ fy nhad, 28canys y mae i mi bump o frodyr, fel y tystiolaetho iddynt, rhag iddynt hwy hefyd ddyfod i’r lle hwn o artaith. 29A dywedodd Abraham, y mae ganddynt Mosheh a’r Prophwydi, gwrandawant arnynt hwy. 30Ac efe a ddywedodd, Nage, y tad Abraham, eithr os rhyw un oddi wrth y meirw a aiff attynt, edifarhant. 31A dywedodd Abraham wrtho, Os ar Mosheh a’r Prophwydi na wrandawant, hyd yn oed ped o feirw y cyfodai rhyw un ni pherswadir mo honynt.
Dewis Presennol:
S. Luc 16: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.