Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Luc 12

12
1Ac ymysg y pethau hyn, wedi ymgasglu ynghyd o fyrddiynau o’r dyrfa fel y sathrent y naill y llall, dechreuodd ddywedyd wrth Ei ddisgyblion, Yn gyntaf, ymogelwch rhag surdoes y Pharisheaid, yr hwn yw rhagrith. 2Ond nid oes dim wedi ei orchuddio, na ddatguddir; nac yn guddiedig, na wneir yn hysbys. 3Gan hyny, pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, yn y goleuni y clywir hwynt; a’r hyn a lefarasoch yn y glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai. 4A dywedaf wrthych chwi, Fy nghyfeillion, Nac ofnwch rhag y rhai sy’n lladd y corph, ac wedi hyny heb ganddynt ddim ychwaneg i’w wneuthur. 5Ond dangosaf i chwi pwy a ofnwch; ofnwch yr Hwn, ar ol y lladd, sydd a Chanddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ïe, meddaf i chwi, Hwnw ofnwch, 6Onid yw pump aderyn y tô yn cael eu gwerthu er dwy ffyrling; ac nid oes un o honynt wedi ei anghofio ger bron Duw. 7Eithr hyd yn oed gwallt eich pennau sydd oll yn gyfrifedig. Nac ofnwch, ar lawer o adar y tô yr ydych yn rhagori. 8A dywedaf wrthych,
Pob un a’m haddefo I ger bron dynion,
Mab y Dyn hefyd a’i haddef ef ger bron angylion Duw:
9A’r hwn a’m gwado yngwydd dynion,
A wedir yngwydd angylion Duw.
10A phob un a ddywaid air yn erbyn Mab y Dyn, maddeuir iddo;
Ond i’r hwn a gablodd yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir.
11A phan ddygont chwi o flaen y sunagogau a’r llywiawdwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd nac â pha beth yr amddiffynoch eich hunain, na pha beth a ddywedoch, 12canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno y pethau y mae rhaid eu dywedyd.
13A dywedodd rhyw un allan o’r dyrfa Wrtho, Athraw, dywaid wrth fy mrawd am rannu â mi yr etifeddiaeth. 14Ac Efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd I yn farnwr neu yn rhannwr arnoch? 15A dywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymgedwch rhag pob cybydd-dod; canys nid yn ei orlawnder y mae i neb ei fywyd, oddiwrth ei feddiannau. 16A dywedodd ddammeg wrthynt, gan ddywedyd, I ryw ddyn goludog y cnydiodd ei dir yn dda: 17ac ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pa beth a wnaf, canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau ynghyd? 18A dywedodd, Hyn a wnaf; tynnaf i lawr fy ysguboriau i, ac rhai mwy a adeiladaf, a chasglaf ynghyd yno fy holl ŷd a’m da; 19a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt lawer o dda wedi ei roi i gadw am flynyddoedd lawer; ymorphwys, bwytta, yf, ymhyfryda. 20Ond dywedodd Duw wrtho, O ynfyd, y nos hon, dy enaid a ofynant oddiwrthyt; a’r pethau a barottoaist, eiddo pwy fyddant? 21Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac heb fod yn oludog tuag at Dduw.
22A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Am hyn y dywedaf wrthych, na phryderwch am eich einioes, beth a fwyttaoch; 23nac am eich corph, beth a wisgoch; canys yr einioes, mwy yw na’r ymborth, a’r corph na’r dillad. 24Ystyriwch y brain, nad ŷnt yn hau nac yn medi, i’r rhai nid oes ystordy nac ysgubor, a Duw a’u portha. Pa faint mwy yr ydych chwi yn well na’r ehediaid? 25A phwy o honoch, gan bryderu, a ddichon ychwanegu at ei faintioli gufydd? 26Os, gan hyny, y peth lleiaf na ellwch ei wneud, paham am y lleill y pryderwch? 27Ystyriwch y lili, y modd y tyfant: ni lafuriant, ac ni nyddant ddim; a dywedaf wrthych, Nid oedd hyd yn oed Shalomon, yn ei holl ogoniant, wedi ymwisgo fel un o’r rhai hyn. 28Ac os y llysieuyn yn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru i’r ffwrn y’i teflir, y mae Duw fel hyn yn ei ddilladu, pa faint mwy y dillada Efe chwi, O rai o ychydig ffydd? 29A chwychwi, na cheisiwch pa beth a fwyttaoch, a pha beth a yfoch; ac na fyddwch amheus; 30canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio; ac eich Tad chwi a ŵyr fod arnoch eisiau y pethau hyn: 31eithr ceisiwch Ei deyrnas Ef, a’r pethau hyn a roddir attoch. 32Nac ofna, braidd bychan, canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. 33Gwerthwch eich meddiannau, a rhoddwch elusen. Gwnewch i’ch hunain byrsau na heneiddiant, trysor na dderfydd yn y nefoedd, y lle nad yw lleidr yn nesau atto, na phryf yn llygru; 34canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.
35Bydded eich lwynau chwi wedi eu hamwregysu, a’ch llusernau yn llosgi, 36a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel wedi dyfod o hono a churo, y bo iddynt yn uniawn agor iddo. 37Gwyn eu byd y gweision hyny y rhai y bydd yr arglwydd ar ei ddyfodiad yn cael yn neffro; yn wir y dywedaf wrthych, Ymwregysa efe, a phar iddynt led-orwedd, a chan ddyfod y gwasanaetha arnynt. 38Ac os yn yr ail, ac os yn y drydedd wyliadwriaeth y delo, ac eu caffo felly, gwyn eu byd y gweision hyny. 39A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr yr oedd y lleidr ar ddyfod, effro fuasai, ac ni adawsai i’w dŷ gael ei gloddio trwodd. 40A chwithau, byddwch barod, canys yr awr na thybiwch y mae Mab y Dyn yn dyfod.
41A dywedodd Petr, Arglwydd, Ai wrthym ni y dywedi y ddammeg hon, neu wrth bawb hefyd? 42A dywedodd yr Arglwydd, Pwy, gan hyny, yw’r distain ffyddlawn, y pwyllog, yr hwn a esyd yr arglwydd ar ei deulu, i roddi eu cyfluniaeth yn ei bryd? 43Gwyn ei fyd y gwas hwnw, yr hwn, ar ei ddyfodiad, y bydd i’w arglwydd ei gael yn gwneuthur felly. 44Yn wir y dywedaf wrthych, Ar y cwbl y sydd eiddo y gesyd ef. 45Ond os dywaid y gwas hwnw yn ei galon, Oedi dyfod y mae fy arglwydd, a dechreu curo y gweision a’r morwynion, a bwytta ac yfed a meddwi, 46daw arglwydd y gwas hwnw mewn dydd na ddisgwyl efe, ac ar awr na ŵyr efe, ac ei dorri ef ar wahan a wna efe, a’i ran ef a esyd efe ynghyda’r anffyddloniaid. 47A’r gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd ac ni pharottôdd na gwneuthur yn ol ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod; 48ond yr hwn na wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig ffonnodiau; a phob un i’r hwn y rhoddwyd llawer, llawer a geisir oddi wrtho; a chyda’r hwn y rhoddasant lawer, mwy a ofynant ganddo.
49Tân y daethum i’w fwrw ar y ddaear, a pha beth a fynnaf os eisoes y cynneuwyd ef? 50Ond bedydd sydd Genyf i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw Arnaf hyd oni orphener! 51A dybygwch chwi mai heddwch y daethum i’w roddi ar y ddaear? Nage, meddaf i chwi, eithr ymranniad; 52canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri: 53rhennir hwynt tad yn erbyn mab, a mab yn erbyn tad; mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn ei mam; chwegr yn erbyn gwaudd, a gwaudd yn erbyn ei chwegr.
54A dywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmmwl yn y gorllewin, yn uniawn y dywedwch, Cawod sy’n dyfod; 55ac felly y digwydd: a phan weloch y deheu-wynt yn chwythu, dywedwch, Gwres poeth fydd, a digwydd y mae. 56Rhagrithwyr, gwynebpryd y ddaear a’r nef y medrwch ei ddeall; ond yr amser hwn pa fodd na fedrwch ei ddeall? 57A phaham nad ydych, ïe, o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn? 58Canys tra yr eli gyda’th wrthwynebwr ger bron llywodraethwr, ar y ffordd ymdrecha i fyned yn rhydd oddi wrtho, rhag ysgatfydd iddo dy lusgo at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’r swyddog dy daflu yngharchar. 59Dywedaf wrthyt, Ni ddeui ddim allan oddiyno nes, ïe, i’r hatling eithaf ei thalu genyt.

Dewis Presennol:

S. Luc 12: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda