Iöb 41
41
XLI.
1A dynni di allan yr addanc â bach,
Ac â’r llinyn a ostyngi di ei dafod ef?
2A osodi di (dorch) frwyn ar ei drwyn ef,
Ac#41:2 Felly y cadwai y pysgodwŷr eu pysgod yn rhwym, ac yn fyw, yn yr afon nes yr aent adref. â modrwy (fettel) a dylli di ei ên?
3 # 41:3 er mwyn cael ei ollwng yn rhydd A amlhâ efe ymbilion â thi?
A lefara efe wrthyt yn dyner?
4A wna efe ammod â thi?
A gymmeri di ef yn was tragywyddol?
5A chwareui di âg ef fel â mân aderyn,
Ac #41:5 Passer, deliciæmeæ p uellæ &c. Catullus ii.a rwymi di ef i’th langcesau?
6Ai marchnatta uwch ei ben ef a wna ’r (pysgodwŷr) cymdeithasawg,
A’i gyfrannu ef rhwng y marsiandwŷr?
7A lenwi di ei groen ef â phiccellau,
A’i ben â physg-dryferau?
8Dyro dy law arno ef,
(A) chofio am ryfel ni wnei #41:8 bydd un waith yn digon.eilwaith:
9Wele #41:9 y neb a ymosodo arnoei obaith a geir yn gelwyddog;
Onid, hyd yn oed ar y golwg o hono, y cwymp efe?
10Nid (neb) mor ddewr ag a’i cynhyrfo ef,
# 41:10 pa faint llai y gall neb wrthsefyll Creawdwr yr anifail hwn? Gan hynny pwy (yw) efe a orsaif ger Fy mron I?
11Pwy a’m #41:11 sef, â rhoddion.rhagflaenodd I, fel y talwyf?
— (Yr hyn sy) dan yr holl nefoedd, eiddo Fi efe!
12Nid tewi a wnaf am ei aelodau ef,
Ac am enwogrwydd ei gryfdwr, a gweddeidd-dra ei gyfluniad:
13Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef?
At ddwy res ei enau ef pwy a ddaw?
14Dorau ei wyneb ef, pwy a’u hegyr?
Amgylchoedd ei ddannedd (ŷnt) ddychryn;
15Ardderchowgrwydd (yw) ei gryfion #41:15 h. y. ei genndariannau,
(Pob un) wedi ei chau arni â sêl gyfyng,
16Y naill yn y llall y cyssylltir hwy,
A’r gwŷnt ni ddaw rhyngddynt,
17Y naill wrth y llall y maent yn glynu,
Ymaflyd y maent ac nid ymwahanant:
18Ei disian ef a bair ddisgleirdeb y goleuni,
Ei lygaid (sydd) fel amrantau ’r wawr;
19Allan o’i safn ef, ffaglau sy’n dyfod,
Gwreichion tân sy’n ymddiangc,
20Allan o’i ffroenau ef y daw mŵg,
Fel (ped faent) bair a chwythid dani, a chrochân berwedig;
21Ei anadl, y glo a gynneu hi,
A fflam allan o’i safn ef sy’n dyfod;
22Yn ei wddf y trig cryfdwr,
Ac o’i flaen ef y dawnsia arswyd;
23Tagell ei gnawd ef sy’n glynu ynghŷd,
Fferf yw arno ef fel na syflo; 24Ei galon sydd fferf fel carreg,
A fferf yw fel maen isaf y #41:24 Y mae melinau gwynt a melinau dwfr yn anadnybyddus yn Arabia: melir yr ŷd mewn breuanau neu law-felinau bychain.freuan;
25Rhag ei ymgodiad ef y dychrynir gwroniaid,
Gan ddrylliadau (yspryd) hwy a ymgrwydrant:
26(Os) neshâ neb atto ef, ni ddeil y cleddyf,
Y waywffon, y bicell a’r llurig,
27Fel gwellt y cyfrif efe haiarn,
Ac fel pren pwdr bres;
28Nid peri iddo ffoi a wna hil y cawell saethau,
Yn sofl yr ymnewidia cerrig tafl iddo;
29Fel soflyn y cyfrifir clwpaod,
Ac efe a chwardd ar ben swn y gaflach:
30 # 41:30 ei fòl yn bigog fel ogddyrnu. Dano ef (y mae) pigau cragen,
Efe a #41:30 sef, pan orweddo.daena og-ddyrnu ar y llaid;
31Berwi fel crochan y gwna efe i’r dyfnder,
Y #41:31 gan beri iddo ewynumôr a wna efe fel crochan ennaint,
32Ar ei ol ef y #41:32 ar wyneb y dwfr.goleuir (ei) lwybr,
Cyfrifa (dyn) y dyfnder yn wallt llwyd:
33Nid (oes) ar y ddaear yr hyn a arglwyddiaetha arno ef,
(Ef), yr hwn a wnaethpwyd i fod heb arswyd;
34Ar bob dyrchafedig y #41:34 nid ofna efetremia efe,
Efe, y brenhin ar holl #41:34 bwystfilod gwancus.feibion balchder.
Dewis Presennol:
Iöb 41: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.