Iöb 35
35
XXXV.
1Yna yr attebodd Elihw, a dywedodd,
2Ai hyn a fernaist ti yn iawn,
(Sef) dywedyd o honot “Mwy fy nghyfiawnder i na’r eiddo Duw?”
3 # Gwel 34:9. Canys dywedaist “pa beth a lesâai i ti?
Pa beth a ynnillaf rhagor pe pechaswn?”
4Myfi a’th attebaf di âg ymadroddion,
A dy gyfeillion gyda thi:
5Edrych ar y nefoedd a gwêl,
Ardrema ar y cymmylau sy’n rhy #35:5 sef, i weithredoedd Iöb gyrhaedd, a chael dylanwad arno Ef.uchel i ti;
6Os pechi, pa beth a weithredi di iddo Ef?
Ac (os) aml fydd dy gamweddau, pa beth a wnei di Iddo?
7Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt ti yn ei roddi iddo Ef,
A pha beth y mae Efe yn ei gael ar dy law di?
8I #35:8 sef, â’i ddylanwad arno.ddyn, fel ti dy hun (y mae) dy gamwedd,
Ac i fab daearolyn dy gyfiawnder;
9O herwydd amldra gorthrymder y maent yn llefain,
Bloeddio y maent o herwydd braich y cedyrn,
10Ac ni ddywaid dyn “Pa le y mae Duw fy Ngwneuthurwr,
Yr Hwn sy’n rhoddi #35:10 diolchgarwch am achubiaeth allan o dywyllwch adfyd.caniadau yn y nos,
11Yr Hwn a’n #35:11 fel ag y dylem Ei glodfori Ef.dysgodd ni rhagor bwystfilod y ddaear,
A rhagor ehediaid y nefoedd a’n gwnaeth ni yn ddoethion?”
12 # 35:12 am na bu iddynt weddio arno Ef. Yna, llefain y maent hwy — ond nid erglyw Efe —
Rhag traha y rhai drwg:
13 # 35:13 sef y fath lefain di-weddi Dïau, ar wagedd ni wrendy Duw,
A’r Hollalluog nid ardrema arno.
14 #
23:8. Yn ddïau, er dywedyd o honot “nad wyt yn Ei ganfod Ef,”
Y ddadl (sydd) o’i flaen Ef, a disgwyl di wrtho Ef:
15 # 35:15 yn ol yr hyn a ddywedpwyd gan Iöb Ond yn awr am “na ofwyodd Ei lid Ef,”
Ac “nad yw Efe yn sylwi ar gamwedd yn ddirfawr,”
16Gan hynny, Iöb mewn oferedd a ledodd ei safn,
Heb wybodaeth yr amlhäodd efe ymadroddion.
Dewis Presennol:
Iöb 35: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.