Iöb 26
26
XXVI.
1Yna yr attebodd Iöb, a dywedodd,
2 # 26:2 atteb i Bildad. Pa wedd y cynnorthwyaist ti y diffygiol o nerth,
Y cynneliaist fraich y diffygiol o gadernid!
3Pa wedd y cynghoraist y diffygiol o ddoethineb,
Ac yr hyspysaist ddysbwyll yn ehelaeth!
4I bwy yr adroddaist ti ymadrodd?
# 26:4 lle cafodd efe gymmaint o ddoethineb? Ac anadl pwy a ddaeth allan o honot?
5 # 26:5 Iöb yn dangos fod dylanwad Duw yn cyrhaeddyd ym mhellach nag y dywedodd Bildad. Y gwyllion a ddychrynir oddi tanodd,
Y dyfroedd a’u trigolion;
6Noeth (yw) annwn ger Ei fron Ef,
Ac nid (oes) orchudd i ddifancoll;
7(Ef), yr Hwn sy’n taenu ’r gogledd ar wagder,
Yr Hwn sy’n crogi ’r ddaear ar ddiddym;
8Yr Hwn sy’n cau i fynu ddyfroedd yn Ei gymmylau duon,
Ac ni holltir y cwmmwl tanynt hwy;
9Yr Hwn sy’n cadw (rhagom) wyneb Ei orsedd-fainge,
Gan ddarledu arni hi Ei gwmmwl;
10Terfyn crwn a roddodd Efe ar wyneb y dyfroedd,
Hyd berffeithrwydd, ar y goleuni#26:10 Tyb yr hên oesoedd oedd fod y dyfroedd yn amgylchu ’r byd, a bod y cyfan tu draw iddynt yn dywyll. ynghŷda ’r tywyllwch;
11Colofnau ’r nefoedd ŷnt yn crynu,
Ac mewn syndod, rhag Ei sèniad Ef;
12Trwy Ei nerth y cynhyrfa Efe y dyfroedd,
# Gwel 9:13. Ac yn Ei ddoethineb y tarawodd Efe Rahab;
13Trwy Ei anadl Ef y nefoedd (a ânt) yn ddisgleirdeb,
Trywana Ei law Ef y sarph#26:13 Y sergynnulliad a elwir y “Ddraig.” Tybid ei bod hi weithiau yn gorchuddio, ac yn attal goleuni, yr Haul. fföedig:
14 # 26:14 y mwyaf allanol a’r amlyccaf o weithredoedd a gallu Duw yn unig o lewn cyrhaedd ein gwybodaeth ni. Wele, hyn (ydynt) eithafion Ei ffyrdd Ef;
A’r fath hustyng o air yw’r hyn a glywsom;
Ond taran Ei gadernid Ef — pwy a’i deall?
Dewis Presennol:
Iöb 26: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.