Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iöb 17

17
XVII.
1Fy anadl a ddistrywiwyd,
Fy nyddiau a ddiffoddwyd,
Y beddau (sydd) i mi.
2Yn ddïau gwawdwŷr (sydd) gyda mi,
Ac ar eu gwrthwynebiad yr erys fy llygad.
3 # 17:3 Nid oes gobaith i neb ond Duw wneuthur hyn drosof Dyro (wystl) i lawr, attolwg, bydd feichiau drosof fi gyda Thi!
— Pwy (yw) efe a dery ei law yn fy llaw i? —
4Canys eu calon #17:4 Eliphaz a’r lleillhwynt Ti a orchuddiaist rhag deall,
Am hynny ni #17:4 ni chânt fy ngorchfyguddyrchefi Di hwynt.
5I’r anrhaith y bradychodd (un) gyfeillion,
— Llygaid ei feibion ef a ballant, —
6Ac a’m gosododd yn ddïareb i’r bobl,
Un i boeri i’w wyneb wyf fi,
7Fel y pallodd fy llygad gan dristwch,
Ac (y mae) fy aelodau oll fel cysgod.
8 # 17:8 er synnu o’r rhai duwiol, hwy a ânt rhagddynt yn eu duwioldeb. Synnu a wna’r rhai uniawn am hyn,
A’r diniweid yn erbyn y drygionus a ymddeffry,
9Ac fe ddeil y cyfiawn ei ffordd,
A’r glân ei ddwylaw a chwannega gryfder.
10 # 17:10 Eliphaz &c. Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch, attolwg,
Ac ni châf ganfod yn eich plith (wr) doeth.
11Fy nyddiau a aeth heibio,
Fy amcanion a dorrwyd ymaith, (Sef) meddiannau fy nghalon.
12 # Gwel 5:17-26. Y nos hwy a wnaethant yn ddydd,
# 17:12 i ddangos ynfydrwydd ei gyfeillion wrth beri iddo ddisgwyl am ddyddiau gwell (Ië) goleuni yn nês na gwyneb tywyllwch!
13Os gobeithiaf, annwn (yw) fy nhŷ,
Yn y tywyllwch y taenaf fy ngwely,
14At y bedd yr wyf yn galw “Fy nhad tydi,”
At y pryf “Fy mam” a “Fy chwaer:”
15Gan hynny, pa le yn awr (y mae) fy ngobeithion,
Ië, fy ngobeithion pwy a’u gwel? —
16I drosolion annwn yr ânt hwy i lawr,
# 17:16 sef, efe a’i obeithion Yn ddïau, ynghŷd i’r llwch y disgynwn ni.

Dewis Presennol:

Iöb 17: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda