Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iöb 12

12
XII.
1Yna yr attebodd Iöb a dywedodd,
2 # 12:2 h. y. yr holl fyd Dïammeu mai chwychwi (yw) ’r bobl,
A chyda chwychwi y bydd marw doethineb.
3Gennyf finnau hefyd (y mae) deall fel chwithau,
Nid cael codwm (yr wyf) fi gennych chwi.
# 12:3 pwy na ŵyr yr hyn a ddywedasoch am Dduw? A chyda phwy nid (yw) ’r fath bethau a’r rhai hyn?
4Gwatworgerdd i’w gyfaill wyf fi. —
Un a alwodd ar Dduw ac Efe a’i hattebodd, —
Gwatworgerdd (yw) ’r cyfiawn, — a’r perffaith!
5 # 12:5 Llewyrch Iöb wedi diflannu Lamp ddirmygedig (wyf) i feddwl yr hwn sydd wrth ei fodd,
Yn barod i’r rhai gwegiawl o droed:
6Dïogel yw eu #gwel 1:3.pebyll i’r anrheithwŷr,
Ac hyder (sydd) i’r rhai sy’n cyffroi Duw,
# 12:6 Virg. Æn. 10:773. “Dextra mihi deus.” (Ië) i’r hwn sy’n dwyn ei dduw yn ei law!#12:6 yr hwn nid addola arall na nerth ei ddwylaw treisiwr.
7 # 12:7 Dylid cyssylltu yr adnod hon wrth ddiwedd y drydedd. Ond gofyn, attolwg, i’r bwystfilod, a hwy a’th ddysgant,
Ac i ehediaid y nefoedd, a hwy a ddywedant wrthyt,
8Neu llefara wrth y #12:8 yr ymlusgiaidddaear a hi a’th ddysg,
Ac fe ddywaid pysgod y môr i ti:
9Pwy na ŵyr ym mysg y rhai hyn oll
Mai llaw Iehofah a grëodd #12:9 y byd gweledighyn,
10Yr Hwn, yn Ei law Ef (y mae) einioes pob peth byw,
Ac anadl pob cnawd dyn.
11 # 12:11 Yn ol yr hên ddiareb hon y mae profiad Iöb yn dywedyd wrtho fod pob peth yn ymddibynu ar Dduw. “Onid y glust a brofa ymadroddion
Fel y mae taflod y genau yn archwaethu bwyd iddo?”
12Yn y penwyniaid (y mae) doethineb,
Ac hir ddyddiau (ydynt) ddeall.
13Gydag Ef (y mae) doethineb a chadernid,
Ganddo Ef (y mae) cynghor a deall;
14Wele, Efe a ddistrywia — ac nid adeiledir,
Efe a gau ar wr — ac ni ryddhêir ef;
15Wele, Efe a ettyl ddyfroedd — a sych ydynt,
Efe a’u denfyn allan — a hwy a ddadymchwelant y ddaear;
16Gydag Ef (y mae) nerth a doethineb,
Iddo Ef (y perthyn) y camarweiniedig a’r camarweinydd;
17Yr Hwn sy’n gyrru Cynghorwŷr yn anrhaith,
A Barnwŷr y mae Efe yn eu hynfydu;
18Cystwyedigaeth Brenhinoedd Efe a ddettyd,
Ac a rwym gadwyn am eu llwynau;
19Yr Hwn sy’n gyrru Offeiriaid yn anrhaith,
A Phendefigion Efe a ddadymchwel;
20Yr Hwn sy’n dwyn ymaith leferydd Ymddiriededigion,
A barn Henuriaid Efe a gymmer i ffwrdd;
21Yr Hwn sy’n tywallt dirmyg ar Dywysogion,
A gwregys y Cedyrn Efe a laccia;
22Yr Hwn sy’n datguddio pethau Dyfnion allan o dywyllwch,
Ac yn dwyn allan i’r goleuni Gysgod angeuaidd;
23Yr Hwn sy’n mawrhâu Cenhedloedd, ac a’u distrywia,
Yr Hwn sy’n ehangu ar Genhedloedd, ac a’u harwain ymaith;
24Yr Hwn sy’n dwyn ymaith synwyr Pennaethiaid pobl y ddaear,
Ac a wna iddynt gyfeiliorni mewn anialwch heb ffordd, —
25Palfalu a wnant hwy mewn tywyllwch, ac heb oleuni,
Ac Efe a wna iddynt gyfeiliorni fel meddwŷn.

Dewis Presennol:

Iöb 12: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda