Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Ioan 7

7
1Ac ar ol y pethau hyn, rhodiodd yr Iesu yn Galilea, canys nid ewyllysiai rodio yn Iwdea, canys ei geisio yr oedd yr Iwddewon, i’w ladd Ef. 2Ac agos oedd gwyl yr Iwddewon, sef Gwyl y Pebyll. 3Gan hyny, dywedodd Ei frodyr Wrtho, Dos drosodd oddiyma, a chilia i Iwdea, fel y bo i’th ddisgyblion hefyd weled Dy weithredoedd y rhai yr wyt yn eu gwneuthur: 4canys nid yw neb yn gwneuthur dim yn y dirgel, ac yntau yn ceisio bod yn gyhoedd. 5Os y pethau hyn a wnai, amlyga Dy hun i’r byd; canys nid oedd hyd yn oed Ei frodyr yn credu Ynddo. 6Gan hyny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Fy amser I ni ddaeth etto; ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. 7Ni all y byd eich casau chwi; ond Myfi a gasa, gan Fy mod I yn tystiolaethu am dano fod ei weithredoedd yn ddrwg. 8Ewch chwi i fynu i’r wyl; Myfi nid wyf etto yn myned i fynu i’r wyl hon, gan nad yw Fy amser I etto wedi ei gyflawni. 9Ac wedi dywedyd y pethau hyn wrthynt, arhosodd yn Galilea.
10A phan aethai Ei frodyr i fynu i’r wyl, yna Efe hefyd a aeth i fynu, nid yn amlwg, eithr fel yn ddirgel. 11Yr Iwddewon, gan hyny, a’i ceisient Ef yn yr wyl, a dywedasant, Pa le y mae’r dyn hwnw? 12A’r murmur am Dano oedd fawr yn y torfeydd: rhai a ddywedent, Dyn da yw; ac eraill a ddywedent, Nage, eithr ar gyfeiliorn yr arwain Efe y dyrfa. 13Nid oedd neb, beth bynnag, yn llefaru yn eglur am Dano oherwydd ofn yr Iwddewon.
14A’r wyl, weithian, yn ei chanol, aeth yr Iesu i fynu i’r deml, ac yr oedd yn dysgu. 15Gan hyny, rhyfeddodd yr Iwddewon, gan ddywedyd, Pa fodd y mae Hwn yn medru ar lythyrenau, heb ddysgu o Hono? 16Iddynt, gan hyny, yr attebodd yr Iesu, a dywedodd, Fy nysgad I nid yw Fy eiddo Fi, eithr eiddo yr Hwn a’m danfonodd. 17Os ewyllysia neb wneuthur Ei ewyllys Ef, caiff wybod am y dysgad, pa un ai o Dduw y mae, ai Myfi o Honof Fy hun wyf yn llefaru. 18Yr hwn sy’n llefaru o hono ei hun, ei ogoniant ef ei hun a gais efe; ond yr hwn sy’n ceisio gogoniant yr hwn a’i danfonodd ef, hwn sydd wir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef. 19Oni fu i Mosheh roddi i chwi y Gyfraith, ac nid oes un o honoch yn gwneuthur y Gyfraith? 20Paham y ceisiwch Fy lladd I? Attebodd y dyrfa, Cythraul sydd Genyt: pwy sy’n ceisio Dy ladd Di? 21Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Un weithred a wnaethum, a’r oll o honoch sy’n rhyfeddu. 22O achos hyn y bu i Mosheh roddi i chwi yr amdorriad (nid gan mai o Mosheh y mae, eithr o’r tadau), ac ar Sabbath yr amdorrwch ar ddyn. 23Os amdorriad a dderbyn dyn ar Sabbath, fel na thorrer Cyfraith Mosheh, ai wrthyf Fi y llidiwch am mai yr holl ddyn a wnaethum yn iach ar y Sabbath. 24Na fernwch yn ol y golwg, eithr y gyfiawn farn bernwch.
25Gan hyny y dywedodd rhai o’r Ierwshalemitiaid, Onid Hwn yw’r un a geisient Ei ladd? 26Ac wele, yn gyhoedd y llefara, ac Wrtho ni ddywedant ddim. Ysgatfydd a ŵyr y pennaethiaid yn wir mai Hwn yw’r Crist? 27Eithr Hwn, gwyddom o ba le y mae; ond y Crist, pan ddelo, nid oes neb yn gwybod o ba le y mae. 28Gan hyny, y gwaeddodd yr Iesu, pan yn dysgu yn y deml, a chan ddywedyd, Yn gystal Myfi a adwaenoch, a gwyddoch o ba le yr wyf: ac nid o Honof Fy hun y daethum, eithr gwir yw’r Hwn a’m danfonodd, yr Hwn nid ydych chwi yn Ei adnabod: 29Myfi a’i hadwaen, canys oddiwrtho Ef yr wyf, ac Efe a’m danfonodd I. 30Ceisiasant, gan hyny, Ei ddal Ef; ac ni osododd neb ei law Arno, canys ni ddaethai Ei awr etto. 31Ac o’r dyrfa, llawer a gredasant Ynddo, a dywedasant, Y Crist, pan ddelo, ai mwy o arwyddion a wna Efe na’r rhai y mae Hwn wedi eu gwneuthur? 32A chlywodd y Pharisheaid y dyrfa yn murmur y pethau hyn am Dano; a danfonodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid swyddogion, fel y dalient Ef. 33Gan hyny, dywedodd yr Iesu, Etto am ychydig amser ynghyda chwi yr wyf, a chiliaf at yr Hwn a’m danfonodd. 34Ceisiwch Fi, ac ni’m cewch: a lle yr wyf Fi, chwychwi ni ellwch ddyfod. 35Gan hyny y dywedodd yr Iwddewon wrth eu gilydd, I ba le y mae Hwn ar fedr myned, gan mai nyni na chawn Ef? Ai at y rhai ar wasgar ymhlith y Groegiaid y mae Efe ar fedr myned a dysgu’r Groegiaid? 36Pa beth yw’r gair hwn a ddywedodd Efe, “Ceisiwch Fi, ac ni’m cewch,” a “Lle yr wyf Fi, chwychwi ni ellwch ddyfod?”
37Ac ar y dydd diweddaf, y dydd mawr o’r wyl, safodd yr Iesu, a gwaeddodd, gan ddywedyd, Os oes ar neb syched, deued Attaf, ac yfed. 38Yr hwn sydd yn credu Ynof, fel y dywedodd yr Ysgrythyr, “O’i groth ef y rhed afonydd o ddwfr byw.” 39A hyn a ddywedodd Efe am yr Yspryd, yr Hwn yr oedd y rhai a gredasant Ynddo ar fedr Ei dderbyn; canys nid oedd yr Yspryd wedi ei roddi etto, am nad oedd yr Iesu etto wedi Ei ogoneddu. 40Rhai o’r dyrfa, gan hyny, wedi clywed y geiriau hyn, a ddywedasant, Hwn yw’r Prophwyd yn wir. 41Eraill a ddywedasant, Hwn yw’r Crist. Ond rhai a ddywedasant, Nage, canys ai o Galilea y mae Crist yn dyfod? 42Onid yw’r Ysgrythyr wedi dweud mai o had Dafydd, ac o Bethlehem, y pentref lle yr oedd Dafydd, y mae’r Crist yn dyfod? 43Ymraniad, gan hyny, a wnaed yn y dyrfa o’i blegid Ef. 44A rhai o honynt a ewyllysient Ei ddal Ef; ond ni osododd neb ei ddwylaw Arno.
45Gan hyny y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid. Ac wrthynt y dywedasant hwy, Paham na ddaethoch ag Ef? 46Attebodd y swyddogion, Ni lefarodd dyn erioed yn y fath fodd. 47Gan hyny, atteb iddynt a wnaeth y Pharisheaid, A ydych chwithau hefyd wedi myned ar gyfeiliorn? 48A fu i neb o’r pennaethiaid gredu Ynddo, neu o’r Pharisheaid? 49Eithr y dyrfa hon, yr hon ni ŵyr y Gyfraith, melldigedig ydynt. 50Dywedodd Nicodemus wrthynt (yr hwn a ddaeth Atto o’r blaen, ac yntau yn un o honynt), 51A ydyw ein Cyfraith yn barnu dyn oni chlywo yn gyntaf ganddo, a gwybod pa beth a wnaeth efe? 52Attebasant, a dywedasant wrtho, A thydi ai o Galilea yr wyt? Chwilia a gwel mai o Galilea nid oes prophwyd yn cyfodi. 53[Ac aethant, bob un i’w dŷ ei hun.

Dewis Presennol:

S. Ioan 7: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda