S. Ioan 5
5
1Wedi’r pethau hyn yr oedd gwyl yr Iwddewon, ac aeth yr Iesu i fynu i Ierwshalem.
2Ac y mae yn Ierwshalem, wrth borth y defaid lyn a elwir yn Hebraeg Bethesda, ag iddo bum cyntor. 3Yn y rhai hyn y gorweddai lliaws o’r cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion. 5Ac yr oedd rhyw ddyn yno, wedi bod namyn dwy flynedd ddeugain yn ei glefyd. 6Yr Iesu yn gweled hwn yn gorwedd, ac yn gwybod mai am amser maith bellach ei fod felly, a ddywedodd wrtho, A ewyllysi di fyned yn iach? 7Iddo yr attebodd y claf, Arglwydd, nid oes genyf ddyn i’m bwrw i’r llyn pan gynhyrfer y dwfr; ond tra y deuaf fi, arall a ddisgyn o’m blaen i. 8Wrtho y dywedodd yr Iesu, Cyfod, cymmer i fynu dy orwedd-beth, a rhodia. 9Ac yn uniawn yr iachawyd y dyn, a chymmerodd i fynu ei orwedd-beth, a rhodiodd.
10A’r Sabbath ydoedd y dydd hwnw. Gan hyny, dywedodd yr Iwddewon wrth yr hwn a iachesid, Y Sabbath yw, ac nid yw gyfreithlawn i ti gymmeryd i fynu dy orwedd-beth. 11Ac efe a attebodd iddynt, Yr Hwn a’m gwnaeth yn iach, Efe a ddywedodd wrthyf, “Cymmer i fynu dy orwedd-beth a rhodia.” 12Gofynasant iddo, Pwy yw y dyn a ddywedodd wrthyt, “Cymmer i fynu a rhodia.” 13A’r hwn a iachesid ni wyddai pwy ydoedd, canys yr Iesu a giliasai, gan fod tyrfa yn y fan. 14Wedi hyny, yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, a dywedodd wrtho, Wele, iachawyd di; na phecha mwyach, rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd i ti. 15Aeth y dyn ymaith, a mynegodd i’r Iwddewon mai’r Iesu yw’r Hwn a’i gwnaeth ef yn iach. 16Ac o achos hyn erlidiodd yr Iwddewon yr Iesu, gan mai’r pethau hyn a wnelsai ar y Sabbath. 17A’r Iesu a attebodd iddynt, Fy Nhad sydd hyd yn hyn yn gweithio, ac Myfi wyf yn gweithio. 18O achos hyn, gan hyny, mwy y ceisiai yr Iwddewon Ei ladd Ef, oherwydd Iddo nid yn unig dorri’r Sabbath, eithr hefyd alw Duw yn Dad Iddo, gan wneuthur Ei hun yn gystal a Duw. 19Gan hyny, yr attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Ni all y Mab wneuthur dim o Hono Ei hun, oddieithr yr hyn a welo Efe y Tad yn ei wneuthur, canys pa bethau bynnag y mae Efe yn eu gwneuthur, y Mab hefyd yr un ffunud a’u gwna. 20Canys y mae’r Tad yn caru’r Mab, ac yn dangos Iddo bob peth y mae Efe yn ei wneuthur; a gweithredoedd mwy na’r rhai hyn a ddengys Efe Iddo, fel y bo i chwi ryfeddu. 21Canys fel y mae’r Tad yn cyfodi’r meirw ac yn eu bywhau, felly y Mab hefyd a fywha y rhai a fynno: 22canys nid yw’r Tad yn barnu neb, 23eithr pob barn a roddes Efe i’r Mab, fel y bo i bawb anrhydeddu’r Mab fel yr anrhydeddant y Tad. Yr hwn nad yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad, yr Hwn a’i danfonodd Ef. 24Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Y neb sy’n clywed Fy ngair, ac yn credu i’r Hwn a’m danfonodd, ganddo y mae bywyd tragywyddol, ac i farn ni ddaw, eithr wedi myned trosodd y mae o farwolaeth i’r bywyd. 25Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae, pan fydd i’r meirw glywed llais Mab Duw, a’r rhai a glywsant fyddant byw. 26Canys fel y mae gan y Tad fywyd Ynddo Ei hun, felly i’r Mab hefyd y rhoddes i fod a bywyd Ynddo Ei hun; 27ac awdurdod a roddes Efe Iddo i wneuthur barn, gan mai Mab y Dyn yw. 28Na ryfeddwch wrth hyn, Dyfod y mae’r awr yn yr hon y bydd i bawb y sydd yn y beddau glywed Ei lais Ef, a deuant allan; 29y rhai a wnaethant yr hyn sy dda, i adgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant yr hyn sy ddrwg, i adgyfodiad barn. 30Ni allaf Fi wneuthur dim o Honof Fy hun; fel yr wyf yn clywed, yr wyf yn barnu; ac Fy marn sydd gyfiawn, canys nid wyf yn ceisio Fy ewyllys Fy hun, eithr ewyllys yr Hwn a’m danfonodd. 31Os Myfi wyf yn tystiolaethu am Danaf Fy hun, Fy nhystiolaeth nid yw wir. 32Arall sydd yn tystiolaethu am Danaf, a gwn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae Efe yn ei thystiolaethu am Danaf. 33Chwi a ddanfonasoch at Ioan, a thystiolaethodd efe i’r gwirionedd. 34Ond Myfi, nid gan ddyn y derbyniaf dystiolaeth; eithr y pethau hyn a ddywedais fel y’ch gwareder chwi. 35Efe oedd y llusern yn llosgi ac yn disgleirio; a chwychwi oeddych ewyllysgar i orfoleddu am amser yn ei oleuni ef. 36Ond Genyf Fi y mae tystiolaeth fwy nag Ioan, canys y gweithredoedd y rhai a roddes y Tad i Mi i’w gorphen, y gweithredoedd eu hunain, y rhai yr wyf yn eu gwneuthur, sy’n tystiolaethu am Danaf mai y Tad a’m danfonodd. 37Ac y Tad, yr Hwn a’m danfonodd, Efe a dystiolaethodd: nac Ei lais Ef a glywsoch erioed, nac Ei wedd a welsoch; 38a’i air Ef nid yw genych yn aros ynoch, canys yr Hwn a ddanfonodd Efe, Iddo Ef chwychwi nid ydych yn credu. 39Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys chwi a feddyliwch mai ynddynt hwy y mae bywyd tragywyddol i chwi; a hwynt-hwy yw y rhai sy’n tystiolaethu am Danaf; 40ac nid ewyllysiwch ddyfod Attaf, fel y caffoch fywyd. 41Gogoniant oddiwrth ddynion nid wyf yn ei dderbyn; 42eithr eich adnabod chwi yr wyf, nad yw cariad Duw genych ynoch eich hunain. 43Myfi a ddaethum yn enw Fy Nhad, ac nid ydych yn Fy nerbyn: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnw a dderbyniwch. 44Pa fodd y gellwch chwi gredu, yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac y gogoniant y sydd oddiwrth Dduw yn unig nid ydych yn ei geisio? 45Na thybiwch mai Myfi a’ch cyhuddaf wrth y Tad: y mae yr hwn yn eich cyhuddo, Mosheh, yn yr hwn yr ydych chwi yn gobeithio. 46Canys pe credech Mosheh, credech Finnau, canys am Danaf efe a ysgrifenodd; 47ond os i’w ysgrifeniadau ef na chredwch, pa fodd i’m geiriau I y credwch?
Dewis Presennol:
S. Ioan 5: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.