Yr Actau 9
9
1A Shawl, etto yn chwythu bwgwth a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, wedi myned at yr archoffeiriad, 2a ddeisyfiodd ganddo lythyrau i Damascus, at y sunagogau, fel os cai rai o’r ffordd honno, na gwŷr na gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Ierwshalem. 3Ac wrth fyned o hono, bu iddo nesau i Damascus, ac yn ddisymmwth y llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef: 4ac wedi syrthio ar y ddaear, clywodd lais yn dywedyd wrtho, Shawl, Shawl, paham mai Myfi a erlidi? 5A dywedodd efe, Pwy wyt, Arglwydd? Ac Efe a ddywedodd, Myfi wyf Iesu, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid. 6Eithr cyfod, a dos i’r ddinas, a dywedir wrthyt pa beth y mae rhaid i ti ei wneuthur. 7A’r dynion oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud, yn clywed y llais yn wir, ond heb weled neb. 8A chyfododd Shawl oddiar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai ddim; a chan ei dywys erbyn ei law, dygasant ef i mewn i Damascus; 9ac yr oedd efe dridiau heb weled, ac ni fwyttaodd nac yfed.
10Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Damascus a’i enw Ananias; ac wrtho, mewn gweledigaeth, y dywedodd yr Arglwydd, Ananias; ac efe a ddywedodd, Wele, myfi, Arglwydd. 11A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Uniawn, a chais yn nhŷ Iwdas Shawl wrth ei enw, o Tarsus; canys wele, gweddïo y mae, a gwelodd ŵr, 12Ananias wrth ei enw, wedi dyfod i mewn a dodi arno ei ddwylaw fel y gwelai eilwaith. 13Ac attebodd Ananias, Arglwydd, clywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint yn Ierwshalem; 14ac yma y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr archoffeiriad, i rwymo pawb sy’n galw ar Dy enw. 15Ac wrtho y dywedodd yr Arglwydd, Dos, canys llestr etholedig i Mi yw hwn, i ddwyn Fy enw ger bron cenhedloedd a brenhinoedd, a meibion Israel. 16Canys Myfi a ddangosaf iddo faint o bethau y mae rhaid iddo eu dioddef er mwyn Fy enw. 17Ac aeth Ananias ymaith, ac aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi arno ei ddwylaw, dywedodd, Shawl frawd, yr Arglwydd a’m danfonodd, Iesu yr Hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost, fel y gwelych eilwaith ac y’th lanwer â’r Yspryd Glân. 18Ac yn uniawn y syrthiodd oddiwrth ei lygaid fel pe bai cen, a gwelodd efe eilwaith; 19ac wedi cyfodi, bedyddiwyd ef; ac wedi cymmeryd bwyd cryfhaodd.
Ac yr oedd efe gyda’r disgyblion oedd yn Damascus dalm o ddyddiau. 20Ac yn uniawn yn y sunagogau y pregethodd efe yr Iesu, mai Efe yw Mab Duw. 21A synnodd yr holl rai a glywent, a dywedasant, Onid hwn yw’r dyn a anrheithiai yn Ierwshalem y rhai a alwent ar yr enw hwn; ac yma, er mwyn hyn y daeth, fel y dygai hwynt yn rhwym ger bron yr archoffeiriaid? 22A Shawl a gynnyddai fwy-fwy o nerth, ac a ddyrysai yr Iwddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan arddangos mai Hwn yw y Crist.
23A phan gyflawnwyd dyddiau lawer, cydymgynghorodd yr Iwddewon i’w ladd ef. 24Ac hysbyswyd eu cydfwriad i Shawl; a gwylient y pyrth ddydd a nos, fel y lladdent ef. 25A’r disgyblion a’i cymmerasant liw nos, a thrwy’r mur y gollyngasant ef i wared, gan ei ollwng i lawr mewn cawell.
26Ac wedi dyfod i Ierwshalem, ceisiai ymgyssylltu â’r disgyblion; a phawb a’i hofnent ef, gan na chredent ei fod yn ddisgybl. 27Ond Barnabas, gan ei gymmeryd ef, a’i dug at yr apostolion, a mynegodd iddynt pa fodd y bu iddo ar y ffordd weled yr Arglwydd, ac y llefarodd Efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y llefarai yn hyderus yn enw yr Iesu. 28Ac yr oedd efe gyda hwynt yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Ierwshalem, yn llefaru yn hyderus yn enw’r Arglwydd. 29A llefarai ac ymddadleuai yn erbyn yr Iwddewon Groegaidd; a hwy a geisiasant ei ladd ef. 30Ac wedi cael gwybodaeth o hyn, y brodyr a’i dygasant i wared i Cesarea, a danfonasant ef ymaith i Tarsus.
31Gan hyny, yn wir, yr eglwys trwy holl Iwdea a Galilea a Shamaria a gafodd heddwch, gydag adeiladaeth; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Yspryd Glân y lliosogid.
32A bu i Petr, pan yn tramwy trwy’r holl barthau, ddyfod i wared hefyd at y saint yn preswylio yn Luda; 33a chafodd yno ryw ddyn, Aineas wrth ei enw, er’s wyth mlynedd yn gorwedd ar orweddfa, yr hwn oedd glaf o’r parlys; 34ac wrtho y dywedodd Petr, Aineas, dy iachau y mae Iesu Grist: cyfod, a chyweiria dy wely i’th hun. Ac yn uniawn y cyfododd; 35ac ei weled ef a fu i bawb oedd yn preswylio yn Luda a Sharon, a hwy a ymchwelasant at yr Arglwydd.
36Ac yn Ioppa yr oedd rhyw ddisgybles a’i henw Tabitha, yr hwn o’i gyfieithu a elwir Dorcas; a hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusenau, y rhai a wnelai. 37A digwyddodd yn y dyddiau hyny iddi glafychu a marw; ac wedi ei golchi hi, dodasant hi mewn llofft. 38A chan fod Luda yn agos i Ioppa, y disgyblion wedi clywed fod Petr yno, a ddanfonasant ddau ŵr atto, gan ddeisyf arno, Nac oeda ddyfod trosodd hyd attom. 39Ac wedi cyfodi, Petr a aeth gyda hwynt; ac ar ei ddyfodiad dygasant ef i fynu i’r llofft; ac yn ei ymyl y safodd yr holl wragedd gweddwon yn gwylo ac yn dangos peisiau a chochlau, y rhai a wnaeth Dorcas tra’r ydoedd gyda hwynt. 40Ac wedi bwrw allan yr oll o honynt, a dodi ei liniau ar lawr, Petr a weddïodd; a chan droi at y corph, dywedodd, Tabitha, cyfod; a hi a agorodd ei llygaid; a chan weled Petr, cyfododd yn ei heistedd. 41Ac wedi rhoi iddi ei law, cyfododd efe hi i fynu; ac wedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, gosododd hi ger bron yn fyw. 42Ac hyspys yr aeth trwy holl Ioppa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd. 43A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Ioppa gydag un Shimon, barcer.
Dewis Presennol:
Yr Actau 9: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.