Yr Actau 28
28
1Ac wedi dyfod yn ddiangol, yna y gwybuant mai Melita a elwid yr ynys. 2A’r barbariaid a ddangosasant i ni ddyngarwch nid cyffredin; canys cynneuasant dân, a derbyniasant yr oll o honom, o herwydd y gwlaw cynrychiol, ac o herwydd yr oerfel. 3Ac wedi casglu o Paul ryw faint o friw-wydd, ac eu dodi ar y tân, gwyber wedi dyfod allan o achos y gwres, a lynodd wrth ei law ef. 4A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law, dywedasant wrth eu gilydd, Yn sicr llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, wedi ei achub o’r môr, cyfiawnder ni adawodd iddo fyw. 5Efe, gan hyny, wedi ysgwyd ymaith y bwystfil i’r tân, ni oddefodd ddim niweid. 6A hwy a ddisgwylient ei fod ar fedr chwyddo neu syrthio i lawr yn ddisymmwth yn farw; a phan am amser hir y disgwylient, ac y gwelent nad oedd dim niweid yn digwydd iddo, gan newid eu meddwl, dywedasant mai duw oedd efe.
7Ac yn agos i’r fan honno yr oedd tiroedd yn perthyn i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd, a thridiau y llettyodd ni yn garedig. 8A digwyddodd fod tad Publius, wedi ei ddala gan gryd a gwaedlif, yn cadw ei wely; at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, gan ddodi ei ddwylaw arno, yr iachaodd ef. 9A hyn wedi digwydd, y lleill hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chanddynt heintiau, a ddaethant atto ac a iachawyd; 10y rhai hefyd, â llawer o anrhegion yr anrhydeddasant ni; ac wrth fyned o honom ymaith, rhoisant yn y llong y pethau yn perthyn i’n hangenrheidiau.
11Ac wedi tri mis aethom ymaith mewn llong a auafasai yn yr ynys, un o Alexandria, a’i harwydd Dioscwroi. 12Ac wedi troi i mewn i Suracwsai, arhosasom yno dridiau. 13Ac oddi yno, wedi myned o amgylch, y daethom i Rhegium; ac ar ol un diwrnod deheu-wynt a gyfododd, ac yr ail ddydd daethom i Puteoli; 14lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod; ac felly i Rhufain y daethom. 15Ac oddi yno, y brodyr, wedi clywed am danom, a ddaethant i’n cyfarfod hyd Appii Fforum a Tres Tabernæ; a phan y’u gwelodd, Paul a ddiolchodd i Dduw ac a gymmerth galon.
16A phan ddaethom i Rhufain, caniattawyd i Paul aros wrtho ei hun, ynghyda’r milwr oedd yn ei gadw ef.
17A digwyddodd, ar ol tridiau, alw o hono ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iwddewon: ac wedi dyfod o honynt ynghyd, dywedodd wrthynt, Myfi, frodyr, heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y bobl na defodau ein tadau, yn garcharor y’m rhoddwyd o Ierwshalem i ddwylaw y Rhufeinwyr, 18y rhai, wedi fy holi, a fynnasant fy ngollwng yn rhydd, gan nad oedd dim achos angau ynof. 19Ond pan wrth-ddywedai yr Iwddewon, cymhellwyd fi i appelio at Cesar, nid fel pettai genyf ddim i gyhuddo fy nghenedl o hono. 20Am yr achos hwn, gan hyny, y deisyfiais arnoch weled ac ymddiddan â mi, canys o achos gobaith Israel yr wyf a’r gadwyn hon am danaf. 21A hwy a ddywedasant wrtho, Nyni, na llythyrau am danat ni chawsom o Iwdea, na neb o’r brodyr wedi dyfod yma, a fynegodd nac a lefarodd ddim drwg am danat. 22Ond dymunem glywed genyt ti pa beth yw dy feddwl, canys am y sect hon, hyspys yw i ni mai ymhob man y dywedir yn ei herbyn.
23Ac wedi gosod o honynt ddiwrnod iddo, daethant atto i’w letty, llawer o honynt; i’r rhai yr esponiodd efe, gan dystiolaethu teyrnas Dduw, a’u perswadio ynghylch yr Iesu, allan o Gyfraith Mosheh, a’r Prophwydi, o’r bore hyd yr hwyr. 24A rhai a gredasant y pethau a ddywedwyd a rhai ni chredasant. 25Ac yn anghyttun â’u gilydd, yr ymadawsant, wedi dywedyd o Paul un gair, sef, Da y bu i’r Yspryd Glân lefaru, trwy Eshaiah y prophwyd, 26wrth eich tadau, gan ddywedyd,
“Dos at y bobl hyn a dywaid,
A chlyw y clywch, ond ni ddeallwch;
A chan weled y gwelwch ac ni chanfyddwch;
27Canys brasawyd calon y bobl hyn,
Ac â’u clustiau yn drwm y clywsant,
Ac eu llygaid a gauasant,
Rhag gweled o honynt â’u llygaid,
Ac â’u clustiau glywed,
Ac â’u calon ddeall,
A dychwelyd o honynt,
Ac iachau o honof hwynt.”
28Bydded hysbys, gan hyny, i chwi, mai i’r cenhedloedd y danfonwyd yr iachawdwriaeth hon o eiddo Duw; a hwy a wrandawant.
30Ac arhosodd ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, a derbyniodd bawb a oedd yn dyfod i mewn atto, 31gan bregethu teyrnas Dduw, a dysgu’r pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyder yn ddirwystr.
Dewis Presennol:
Yr Actau 28: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.