Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actau 21

21
1A phan fu i ni hwylio ymaith, wedi ymrwygo oddi wrthynt, ag uniawn-gyrch y daethom i Cos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara. 2Ac wedi cael llong yn myned trosodd i Phenice, wedi dringo iddi, hwyliasom ymaith. 3Ac wedi cael golwg ar Cuprus a’i gadael ar y llaw aswy, hwyliasom i Suria, a thiriasom yn Turus, canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho ei llwyth. 4Ac wedi cael y disgyblion, arhosasom yno saith niwrnod; a hwy a ddywedasant i Paul, trwy yr Yspryd, beidio a myned i fynu i Ierwshalem. 5A phan fu i ni gyflawni’r dyddiau, wedi myned allan aethom ein ffordd, yn cael ein hebrwng gan bawb, ynghyda’r gwragedd a’r plant, hyd tu allan i’r ddinas; ac wedi dodi ein gliniau ar y traeth, 6ar ol gweddïo, canasom yn iach i’n gilydd, a dringasom i’r llong, a hwythau a ddychwelasant i’w cartref.
7A nyni, wedi gorphen hwylio o Turus, a ddaethom i Ptolemais; ac wedi cyfarch y brodyr, arhosasom un diwrnod gyda hwynt; 8a thrannoeth, wedi dyfod allan, daethom i Cesarea; ac wedi myned i mewn i dŷ Philip yr efengyl-wr, ac yntau yn un o’r saith, arhosasom gydag ef. 9Ac i hwn yr oedd pedair merch, morwynion, prophwydesau. 10Ac wrth aros o honom ddyddiau lawer, daeth i wared o Iwdea, ryw brophwyd a’i enw Agabus. 11Ac wedi dyfod attom a chymmeryd gwregys Paul, a rhwymo ei draed ei hun ac ei ddwylaw, dywedodd, Hyn a ddywaid yr Yspryd Glân, Y gŵr, eiddo yr hwn yw’r gwregys hwn, fel hyn y rhwym yr Iwddewon ef yn Ierwshalem, a thraddodant ef i ddwylaw’r cenhedloedd. 12A phan glywsom y pethau hyn, deisyfiasom, nyni a’r rhai oedd o’r fan hefyd, arno beidio a myned i fynu i Ierwshalem. 13Yna yr attebodd Paul, Pa beth a wnewch yn gwylo ac yn torri fy nghalon? Canys myfi, nid yn unig i’m rhwymo, eithr i farw hefyd yn Ierwshalem, yr wyf barod, tros enw yr Arglwydd Iesu. 14A chan na chymmerai ei berswadio, peidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.
15Ac ar ol y dyddiau hyn, wedi casglu ein beichiau, aethom i fynu i Ierwshalem; 16a daeth hefyd gyda ni rai o’r disgyblion o Cesarea, yn dwyn gyda hwynt yr hwn y llettyem gydag ef, un Mnasom o Cuprus, disgybl er’s y dechreuad.
17Ac wedi dyfod o honom i Ierwshalem, gyda llawenydd y derbyniodd y brodyr ni. 18A thrannoeth yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago, a’r holl henuriaid oeddynt bresennol. 19Ac wedi eu cyfarch, mynegodd, bob yn un, bob un o’r pethau a wnaeth Duw ymhlith y cenhedloedd trwy ei weinidogaeth. 20A hwy, wedi clywed, a ogoneddent Dduw; a dywedasant wrtho, Gweli, frawd pa sawl myrddiwn sydd ymhlith yr Iwddewon, o’r rhai a gredasant, a phawb o honynt, selog dros y Gyfraith ydynt. 21Ac hyspyswyd iddynt am danat mai ymadawiad â Mosheh a ddysgi i’r holl Iwddewon y sydd ymhlith y cenhedloedd, gan ddywedyd iddynt beidio ag amdorri ar eu plant, na rhodio yn y defodau. 22Pa beth, gan hyny, sydd? Beth bynnag a fyddo, clywant y daethost. 23Hyn, gan hyny, gwna, yr hwn a ddywedwn wrthyt, y mae genym bedwar dyn a chanddynt adduned arnynt eu hunain. 24Y rhai hyn cymmer attat, a glanhaer di ynghyda hwynt, a gwna’r draul drostynt fel yr eilliont eu pennau, a gwybydd pawb mai o’r pethau a hyspyswyd iddynt am danat, nid oes dim un yn bod, eithr rhodio yr wyt ti dy hun gan gadw’r Gyfraith. 25Ond am y cenhedloedd a gredasant nyni a orchymynasom, gan farnu ymgadw o honynt oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eulunod, a gwaed, a’r peth tagedig, a phuteindra. 26Yna Paul, wedi cymmeryd y dynion atto, trannoeth, wedi ei lanhau ynghyda hwynt, yr aeth i mewn i’r deml, gan hyspysu cyflawniad dyddiau’r glanhad, nes yr offrymmid yr offrwm dros bob un o honynt.
27A phan oedd y saith niwrnod ar fedr eu cyflawni, yr Iwddewon o Asia, wedi ei weled yn y deml, a derfysgasant yr holl dyrfa, 28a dodasant eu dwylaw arno, dan waeddi, Gwŷr Israeliaid, cynnorthwywch. Hwn yw’r dyn sydd yn dysgu pawb ymhob man yn erbyn y bobl a’r Gyfraith a’r lle hwn; ac, heblaw hyny, Groegiaid a ddug efe i mewn i’r deml, ac halogodd y lle sanctaidd hwn. 29Canys cyn hyny gwelsent Trophimus yr Ephesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn a dybient y dug Paul ef i mewn i’r deml. 30A chynhyrfwyd y ddinas oll, a bu cyd-rediad y bobl. Ac wedi cymmeryd gafael ar Paul, llusgasant ef i’r tu allan o’r deml; ac yn uniawn y cauwyd y drysau. 31Ac a hwy yn ceisio ei ladd ef, aeth gair i fynu at filwriad y fyddin fod yr oll o Ierwshalem mewn terfysg; 32ac efe allan o law, wedi cymmeryd atto filwyr a chanwriad, a redodd i wared attynt; a hwy, gan weled y milwriad a’r milwyr, a beidiasant a churo Paul. 33Yna, wedi nesau o hono, y milwriad a ymaflodd ynddo ac a orchymynodd ei rwymo ef â dwy gadwyn, ac a ymofynodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethai: 34a rhai a lefent un peth, ac eraill beth arall, yn y dyrfa; a chan na allai wybod sicrwydd o herwydd y cythrwfl, gorchymynodd ei ddwyn i’r castell. 35A phan yr oedd efe ar y grisiau, digwyddodd ei gludo gan y milwyr o achos trais y dyrfa, 36canys canlynai lliaws y bobl dan waeddi, Ymaith ag ef.
37A phan ar fedr ei ddwyn i mewn i’r castell, Paul a ddywedodd wrth y milwriad, A ganiatteir i mi ddywedyd peth wrthyt? Ac efe a ddywedodd, Ai Groeg a fedri? 38Nid tydi, gan hyny, yw’r Aiphtiwr, yr hwn cyn y dyddiau hyn a gyfododd derfysg, ac a ddug allan i’r anialwch bedair mil o ddynion o’r llofruddion? 39A dywedodd Paul, Myfi wyf Iwddew, o Tarsus yn Cilicia, dinesydd o ddinas nid anenwog, a deisyfiaf arnat, ganiattau i mi lefaru wrth y bobl. 40Ac wedi caniattau o hono, Paul, gan sefyll ar y grisiau, a amneidiodd â’i law ar y bobl; a distawrwydd mawr wedi ei wneuthur, llefarodd yn iaith yr Hebreaid, gan ddywedyd,

Dewis Presennol:

Yr Actau 21: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda