Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actau 17

17
1Ac wedi tramwy trwy Amphipolis ac Apolonia, daethant i Thessalonica, 2lle yr oedd sunagog i’r Iwddewon. Ac yn ol arfer Paul, yr aeth efe i mewn attynt; 3a thri Sabbath yr ymresymmodd â hwynt allan o’r Ysgrythyrau, gan agoryd a dodi ger eu bronau yr oedd rhaid i Grist ddioddef a chyfodi o feirw, ac mai Hwn yw y Crist, yr Iesu, yr Hwn yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 4A rhai o honynt a berswadiwyd ac a gyssylltwyd â Paul a Silas, ac o’r Groegiaid defosiynol liaws mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydig. 5A’r Iwddewon yn eiddigus, ac wedi cymmeryd attynt o’r gwerinos ryw ddynion drwg, ac wedi casglu tyrfa, a gynnyrfasant y ddinas; ac wedi ymosod ar dŷ Iason, ceisient hwynt er mwyn eu dwyn at y bobl. 6A phan na chawsant hwynt, llusgasant Iason a rhai o’r brodyr ger bron llywodraethwyr y ddinas, gan floeddio, Y rhai sy’n troi’r byd a’i waelod i fynu, y rhai hyn a ddaethant yma hefyd; 7y rhai a dderbyniodd Iason; a’r rhai hyn oll, yn erbyn dedfrydau Cesar y gweithredant, gan ddywedyd mai brenhin arall sydd, Iesu. 8A chyffroisant y dyrfa a llywodraethwyr y ddinas, wrth glywed y pethau hyn. 9Ac wedi cael sicrwydd gan Iason a’r lleill, gollyngasant hwynt ymaith.
10A’r brodyr yn uniawn, liw nos, a ddanfonasant ymaith Paul a Silas i Berea; a hwy wedi bod yn sunagog yr Iwddewon, a aethant ymaith. 11A’r rhai hyn oedd foneddigeiddiach na’r rhai yn Thessalonica, gan dderbyn o honynt y Gair gyda phob parodrwydd, beunydd yn holi yr Ysgrythyrau a oedd y pethau hyn felly. 12Llawer, gan hyny, o honynt a gredasant, ac o’r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig. 13A phan wybu yr Iwddewon o Thessalonica y mynegid Gair Duw yn Berea, daethant yno hefyd, gan gynhyrfu a chythryblu y torfeydd. 14Ac yna, yn uniawn, y danfonodd y brodyr Paul ymaith, i fyned hyd at y môr; ac arhosodd Silas a Timotheus hefyd yno. 15A’r rhai a arweinient Paul, a aethant ag ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Timothëus ar ddyfod o honynt atto y cyntaf bossibl, aethant ymaith.
16Ac yn Athen, tra y disgwylid hwynt gan Paul, cynhyrfwyd ei yspryd ynddo wrth weled o hono y ddinas yn llawn o eulunod. 17Ymresymmodd, gan hyny, yn y sunagog, â’r Iwddewon a’r rhai defosiynol, ac yn y farchnad beunydd â’r rhai a gyfarfyddent ag ef. 18A rhai hefyd o’r philosophyddion Epicwraidd a Stoicaidd a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Pa beth a fynnai y siaradwr hwn ei ddywedyd? Ac eraill, Duwiau dieithr, debyg, a fynega efe, gan mai yr Iesu a’r adgyfodiad a efengylai efe. 19Ac wedi ei ddal ef, i’r Areopagus y dygasant ef, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod pa beth yw’r ddysg newydd hon a leferir genyt, 20canys rhyw bethau dieithr a ddygi i’n clustiau? Ewyllysiem, gan hyny, wybod pa beth yw meddwl y pethau hyn. 21(A’r Atheniaid oll, a’r dieithriaid yn ymdeithio yno, ar ddim arall ni threulient eu hamser ond i ddywedyd neu i glywed rhywbeth newydd.) 22A chan sefyll o Paul ynghanol yr Areopagus, dywedodd,
Atheniaid, ymhob peth y gwelaf eich bod yn dra-chrefyddol; 23canys wrth fyned heibio ac edrych ar wrthddrychau eich addoliad, cefais hefyd allor yn yr hon yr argraphasid I Dduw Anhyspys; yr hyn, gan hyny, yr ydych, heb ei adnabod, yn ei addoli, hyny yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 24Y Duw a wnaeth y byd a phob peth sydd ynddo, Efe, gan mai ar y nef a’r ddaear y mae yn Arglwydd, nid mewn temlau o waith llaw y trig; 25ac nid â dwylaw dynol y gwasanaethir Ef, gan fod ag eisiau dim Arno, ac Efe yn rhoddi i bawb fywyd ac anadl a phob peth. 26A gwnaeth Efe o un bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear, wedi pennodi amseroedd appwyntiedig a therfynau eu preswylfod; 27i geisio o honynt Dduw, os ysgatfydd yr ymbalfalent am Dano ac Ei gael, ond er hyny heb fod o Hono ymhell oddiwrth bob un o honom; 28canys Ynddo Ef yr ydym yn byw ac yn ymsymmud ac yn bod, fel y bu i rai o’r poetau yn eich plith chwi ddywedyd, “Canys Ei hiliogaeth Ef hefyd ydym.” 29Gan fod o honom, gan hyny, yn hiliogaeth Duw, nis dylem feddwl mai i aur neu arian neu faen, cerfiad celfyddyd a dychymmyg dyn, y mae’r Duwdod yn debyg. 30Ar amseroedd yr anwybodaeth, gan hyny, ni sylwodd Duw, ond yn awr y gorchymyn Efe i ddynion, i bawb ymhob man, 31edifarhau, canys gosododd ddydd yn yr hwn y mae Efe ar fedr barnu’r byd mewn cyfiawnder trwy’r dyn a appwyntiodd Efe; a sicrwydd a roes Efe i bawb, gan Ei adgyfodi Ef o feirw.
32Ac wrth glywed am “Adgyfodiad y meirw,” rhai a watwarasant; ond eraill a ddywedasant, Clywn di am y peth hwn etto hefyd. 33Felly Paul a aeth allan o’u canol hwynt; 34ond rhai dynion a lynasant wrtho ac a gredasant, ymhlith y rhai yr oedd Dionusius yr Areopagiad, a gwraig a’i henw Damaris hefyd, ac eraill gyda hwynt.

Dewis Presennol:

Yr Actau 17: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda