Yr Actau 12
12
1Ac ynghylch y pryd hwnw yr estynodd Herod frenhin ei ddwylaw i ddrygu rhai o’r eglwys; 2a lladdodd Iago, brawd Ioan, â’r cleddyf. 3A chan weled mai da oedd gan yr Iwddewon, ychwanegodd ddala Petr hefyd; a dyddiau y bara croyw ydoedd hi; 4yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yngharchar, gan ei draddodi at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw, gan ewyllysio, ar ol y Pasg, ei ddwyn ef at y bobl. 5Petr, gan hyny, a gedwid yn y carchar, ond gweddi oedd yn cael ei gwneud yn ddyfal gan yr eglwys at Dduw am dano ef. 6A phan yr oedd Herod ar fedr ei ddwyn ef ymlaen, y nos honno yr oedd Petr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a cheidwaid o flaen y drws a gadwent y carchar. 7Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y gell; a chan darawo ystlys Petr, deffrodd efe ef, gan ddywedyd, Cyfod ar frys; a syrthiodd ei gadwyni oddi am ei ddwylaw. 8A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a dod dy sandalau dan dy draed. A gwnaeth efe felly. A dywedodd wrtho, Bwrw dy gochl am danat, a chanlyn fi. 9Ac wedi myned allan, canlynai, ac ni wyddai mai gwir oedd yr hyn a wnaed gan yr angel, ond tybiai mai gweledigaeth a welai efe. 10Ac wedi myned heibio’r wyliadwriaeth gyntaf a’r ail, daethant at y porth haiarn y sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn o’i waith ei hun a ymagorodd iddynt; ac wedi dyfod allan, aethant ymlaen hyd un heol, ac yn uniawn yr ymadawodd yr angel ag ef. 11A Petr, wedi dyfod atto ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir y danfonodd yr Arglwydd allan ei angel, ac y’m cymmerodd o law Herod, ac o holl ddisgwyliad pobl yr Iwddewon. 12Ac wedi ystyried, daeth i dŷ Mair, mam Ioan yr hwn a gyfenwid Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu ynghyd ac yn gweddïo. 13Ac efe wedi curo drws y porth, daeth morwynig i atteb, a’i henw Rhode; 14ac wedi adnabod llais Petr, o’i llawenydd nid agorodd y porth, ond wedi rhedeg i mewn mynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth. 15A hwy a ddywedasant wrthi, Allan o’th bwyll yr wyt; a hithau a daerai mai felly yr oedd; a hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw. 16A Petr a barhaodd yn curo; ac wedi agoryd o honynt, gwelsant ef a synnasant. 17Ac wedi amneidio arnynt â’i law i dewi, mynegodd iddynt pa wedd y bu i’r Arglwydd ei ddwyn ef allan o’r carchar; a dywedodd, Mynegwch i Iago, a’r brodyr, y pethau hyn. Ac wedi myned allan, yr aeth i le arall. 18A phan yr oedd hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth ysgatfydd a ddaethai o Petr. 19A Herod wedi chwilio am dano ac heb ei gael ef, ac wedi holi’r ceidwaid, a orchymynodd eu dwyn ymaith; ac wedi dyfod i wared o Iwdea i Cesarea, arhosodd yno.
20Ac yr oedd efe yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Turus a Tsidon; ac ag un fryd y daethant atto; ac wedi ynnill Blastus, ystafellydd y brenhin, deisyfiasant heddwch, o herwydd y cynhelid eu gwlad o wlad y brenhin. 21Ac ar ddydd nodedig, Herod wedi ymwisgo â gwisg frenhinol, 22ac yn eistedd ar y frawd-faingc, a areithiodd wrthynt; a’r bobl a floeddiodd, Eiddo Duw yw’r llais, ac nid eiddo dyn. 23Ac allan o law y tarawodd angel yr Arglwydd ef, am na roisai y gogoniant i Dduw; a chan bryfed yn ei ysu, trengodd.
24A gair Duw a gynnyddodd ac a liosogwyd.
25A Barnabas a Shawl a ddychwelasant o Ierwshalem, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, gan gymmeryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc.
Dewis Presennol:
Yr Actau 12: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.