Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actau 10

10
1Ac yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd, gŵr defosiynol, 2ac yn ofni Duw, ynghyda’i holl dŷ, yn gwneuthur elusenau lawer i’r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol. 3A gwelodd mewn gweledigaeth, yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn atto, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius. 4Ac efe, wedi craffu arno a myned yn ofnus, a ddywedodd, Pa beth sydd, Arglwydd? A dywedodd yntau wrtho, Dy weddïau a’th elusenau a ddaethant i fynu yn goffadwriaeth ger bron Duw. 5Ac yn awr danfon wŷr i Ioppa, a gyr am un Shimon, yr hwn a gyfenwir Petr; 6efe a lettya gydag un Shimon, barcer, yr hwn sydd a’i dŷ wrth y môr. 7A phan ymadawodd yr angel a lefarai wrtho, wedi galw dau o’r gweinidogion, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef, 8ac wedi mynegi iddynt bob peth, danfonodd hwynt i Ioppa.
9A thrannoeth pan ymdeithient hwy, ac yn neshau at y ddinas, esgynodd Petr i ben y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr, 10a daeth arno chwant bwyd, ac ewyllysiai fwytta; 11a thra y parottoent hwy, daeth arno lewyg; a gwelai y nef yn agoryd, a disgyn o ryw lestr, fel llen-lliain fawr, yn cael wrth bedair congl ei ollwng i lawr ar y ddaear, 12yn yr hwn yr oedd holl bedwar-carnolion ac ymlusgiaid y ddaear, ac ehediaid y nef. 13A daeth llef atto, Cyfod, Petr, lladd a bwytta. 14A Petr a ddywedodd, Nid er dim, Arglwydd, canys ni fwytteais erioed ddim cyffredin ac aflan. 15A llef a fu etto yr ail waith wrtho, Y pethau y bu i Dduw eu glanhau, na wna di yn gyffredin. 16A hyn a wnaed dair gwaith; ac yn uniawn y cymmerwyd i fynu y llestr i’r nef.
17A phan ynddo ei hun yr ammheuai Petr pa beth ysgatfydd oedd y weledigaeth a welsai, wele, y gwŷr a ddanfonasid gan Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Shimon, 18a safasant wrth y drws; ac wedi galw o honynt, gofynent a oedd Shimon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lletrya yno. 19A Petr yn meddwl am y weledigaeth, wrtho y dywedodd yr Yspryd, Wele, tri wŷr a’th geisiant: 20eithr cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt heb ammeu dim, canys Myfi a ddanfonais hwynt. 21Ac wedi disgyn o Petr at y gwŷr, dywedodd, Wele, myfi yw’r hwn a geisiwch: pa beth yw’r achos am yr hwn yr ydych yma? 22A hwy a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac a thystiolaeth iddo gan holl genedl yr Iwddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i ddanfon am danat i’w dŷ, ac i glywed ymadroddion genyt. 23Wedi galw hwynt, gan hyny, i mewn, llettyodd hwynt. A thrannoeth, wedi cyfodi o hono, aeth allan ynghyda hwynt; a rhai o’r brodyr o Ioppa a aethant gydag ef.
24A thrannoeth y daethant i mewn i Cesarea; a Cornelius oedd yn disgwyl am danynt, wedi galw ynghyd ei geraint a’i gyfeillion cyfrinachol. 25A bu wrth ddyfod i mewn o Petr, Cornelius, wedi cyfarfod ag ef a syrthio wrth ei draed, a’i haddolodd ef. 26Ond Petr a’i cyfododd ef i fynu, gan ddywedyd, Cyfod; minnau hefyd fy hun, dyn wyf. 27A chan ymddiddan ag ef, yr aeth i mewn, a chanfu lawer wedi dyfod ynghyd, 28a dywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlawn yw i ŵr o Iwddew ymgyssylltu neu ddyfod at alltud: ac i mi Duw a ddangosodd na alwn neb rhyw ddyn yn gyffredin neu yn aflan: 29o ba herwydd hefyd, heb ddim gwrthddywedyd, y daethum pan ddanfonwyd am danaf. 30A Cornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod, hyd yr awr hon, yr oeddwn yn cadw gweddi y nawfed awr yn fy nhŷ, ac wele, gŵr a safodd ger fy mron, mewn gwisg ddisglaer, 31a dywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi, a’th elusenau sydd mewn coffadwriaeth ger bron Duw. 32Danfon, gan hyny, i Ioppa, a galw am Shimon, yr hwn a gyfenwir Petr; efe a lettya yn nhŷ Shimon, barcer, yn ymyl y môr. 33Yr awr honno, gan hyny, y danfonais attat; a thydi, da y gwnaethost wrth ddyfod. Yn awr, gan hyny, nyni oll ydym bresennol ger bron Duw, i glywed yr holl bethau a orchymynwyd i ti gan yr Arglwydd.
34Ac wedi agoryd ei enau, Petr a ddywedodd, Mewn gwirionedd y canfyddaf nad ydyw Duw dderbyniwr gwyneb; 35eithr ym mhob cenedl yr hwn sydd yn Ei ofni Ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, cymmeradwy Ganddo Ef ydyw. 36Y Gair, yr hwn a ddanfonodd Efe at feibion Israel, gan efengylu heddwch trwy Iesu Grist (Efe yw Arglwydd pawb), 37chwi a wyddoch y Gair a fu trwy holl Iwdea, wedi dechreu o Hono o Galilea wedi y bedydd a bregethodd Ioan, 38Iesu o Natsareth, y modd yr enneiniodd Duw Ef â’r Yspryd Glân ac â gallu, yr Hwn a dramwyodd gan wneuthur daioni ac iachau yr holl rai a orthrymmid gan ddiafol, canys Duw oedd gydag Ef. 39Ac nyni ydym dystion o’r holl bethau a wnaeth Efe yngwlad yr Iwddewon ac yn Ierwshalem; yr Hwn hefyd a laddasant, gan Ei grogi ar bren. 40Hwn, Duw a’i cyfododd y trydydd dydd, 41ac a’i rhoddes i fod yn amlwg, nid i’r holl bobl, eithr i dystion a rag-ordeiniwyd gan Dduw, sef i ni, y rhai a gydfwyttasom ac a gydyfasom ag Ef wedi adgyfodi o Hono o feirw: 42a gorchymynodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu mai Hwn yw’r Hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. 43I Hwn y mae’r holl brophwydi yn tystiolaethu fod maddeuant pechodau i’w gael trwy Ei enw Ef gan bob un sy’n credu Ynddo.
44A thra y llefarai Petr yr ymadroddion hyn, syrthiodd yr Yspryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y Gair; 45a synnodd y rhai o’r amdorriad a oeddynt yn credu, cynnifer ag a ddaethent gyda Petr, gan ddywedyd, Ar y cenhedloedd hefyd y mae rhodd yr Yspryd Glân wedi ei thywallt allan; 46canys clywent hwynt yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. 47Yna yr attebodd Petr, Ai lluddias dwfr a all neb fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a gawsant yr Yspryd Glân fel ninnau? 48A gorchymynodd eu bedyddio yn enw Iesu Grist. Yna y gofynasant iddo aros am ennyd o ddyddiau.

Dewis Presennol:

Yr Actau 10: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda