Marc 3
3
Iacháu’r dyn â llaw ddiffrwyth
1Dro arall pan aeth i’r synagog roedd yno ddyn â’i law wedi gwywo. 2Roedd eu llygaid i gyd arno i weld a fyddai yn ei wella ar y Dydd Gorffwys — er mwyn dod â chyhuddiad yn ei erbyn. 3Dywedodd yntau wrth y dyn â’r llaw wedi gwywo, “Tyrd i’r canol.”
4Yna gofynnodd iddyn nhw, “A ddylid gwneud da neu ddrwg ar y Dydd Gorffwys, achub bywyd ynteu ladd?”
Aeth pawb yn fud. 5Edrychodd yn ddig arnyn nhw, a chan ofidio’n ddwys oherwydd eu bod mor ddi-deimlad dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.”
Dyma yntau’n ei hestyn, a daeth ei grym hi yn ôl. 6Aeth y Phariseaid allan a dechrau cynllunio ar unwaith gyda phleidwyr Herod sut i gael gwared ohono.
Tyrfaoedd ar lan y môr
7Ciliodd yr Iesu gyda’i ddisgyblion tua’r môr, ac wedi clywed am yr hyn a wnâi daeth tyrfa fawr ato o Galilea a Jwdea 8a Jerwsalem ac Idiwmea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon. 9Dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch yn barod iddo oherwydd y dyrfa, rhag iddyn nhw ei lethu. 10Roedd wedi gwella cymaint nes bod y cleifion i gyd yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef. 11A phan oedd yr ysbrydion aflan yn ei weld, roedden nhw’n syrthio o’i flaen a gweiddi, “Ti yw Mab Duw”; 12ond roedd ef yn eu siarsio nhw’n daer i beidio â’i gyhoeddi ar led.
Galw’r deuddeg
13Yna aeth i fyny i’r mynydd, a galwodd ato’r rhai a fynnai a dyma nhw’n dod. 14Penododd ddeuddeg i fod gydag ef, i’w danfon i gyhoeddi’r Newyddion Da ac 15awdurdod ganddyn nhw i fwrw allan y cythreuliaid. 16Y cyntaf oedd Simon y rhoddodd yr enw Pedr iddo, 17yna Iago mab Sebedeus ac Ioan ei frawd — y rhoddodd iddyn nhw yr enw Boanerges, sef Meibion y Daran; 18yna Andreas a Philip a Bartholomeus a Mathew a Thomas ac Iago fab Alffeus a Thadeus a Simon, y Canaanead, 19a Jwdas Iscariot a drodd yn fradwr iddo.
Yr Iesu a Beelsebwl
20Aeth yr Iesu i mewn i dŷ, ac ar unwaith ymgasglodd y fath dyrfa fel na fedren nhw gael cyfle i gael pryd o fwyd. 21Pan glywodd ei deulu dyma nhw’n mynd i’w gyrchu, oherwydd roedd pobl yn dweud, “Y mae wedi colli arno’i hunan.”
22A dywedodd athrawon y Gyfraith a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, “Y mae Beelsebwl ynddo,” a hefyd, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae’n bwrw allan yr ysbrydion drwg.”
23Fe alwodd yr Iesu nhw ato, a siarad â nhw mewn damhegion, “Sut y gall Satan fwrw allan Satan? 24Os bydd teyrnas wedi ymrannu ni all honno sefyll, 25ac os bydd teulu wedi ymrannu ni all hwnnw sefyll. 26Os cododd Satan yn ei erbyn ei hun, ymrannodd yntau, ac ni all sefyll, a dyna ddiwedd arno. 27Ni all neb fynd i mewn i dŷ rhywun cryf a dwyn ei ddodrefn heb iddo’n gyntaf rwymo’r un cryf. Yna gall ysbeilio’i dŷ ef. 28Rwy’n dweud wrthych yn bendant, maddeuir i ddynion bob pechod a chabledd, 29ond ni fydd maddeuant byth i’r sawl a gablo’n erbyn yr Ysbryd Glân. Euog yw ef o bechod am byth.”
30Roedd ef yn dweud hyn wrthyn nhw am iddyn nhw ddweud, “Mae ysbryd aflan ynddo ef.”
Ei dylwyth eto
31Yna daeth ei fam a’i frodyr gan sefyll y tu allan a danfon neges yn ei alw atyn nhw. 32Eisteddai tyrfa o’i gwmpas, a medden nhw wrtho, “Y mae dy fam a’th frodyr y tu allan yn gofyn amdanat.”
33Atebodd yntau, “Pwy yw fy mam i, a phwy yw fy mrodyr i?”
34Gan edrych ar y rhai a eisteddai’n gylch o’i gwmpas dywedodd, “Dyma fy mam i a’m brodyr i. 35Pwy bynnag a wnêl ewyllys Duw hwnnw sy’n frawd i mi, a chwaer a mam.”
Dewis Presennol:
Marc 3: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971