Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 13

13
Dameg yr Heuwr
1Y diwrnod hwnnw aeth yr Iesu allan o’r tŷ ac eistedd ar lan y llyn. 2Casglodd cymaint o bobl o’i gwmpas fel yr aeth i gwch, eistedd yno, a’r dyrfa i gyd yn dal i sefyll ar y traeth. 3Fe ddywedodd lawer o bethau wrthyn nhw ar ddamhegion.
Meddai: “Fe aeth heuwr allan i hau. 4Wrth iddo hau, syrthiodd peth o’r had ar ochr y ffordd, a daeth yr adar a’i fwyta. 5Syrthiodd peth arall ar dir creigiog lle roedd y pridd yn brin. Eginodd hwnnw ar unwaith am nad oedd iddo ddyfnder daear, 6ond llosgwyd ef yn dost pan gododd yr haul, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd. 7Disgynnodd peth arall i ganol drain, tyfodd y drain a’i dagu. 8Ond fe syrthiodd peth o’r had ar dir da, a rhoi cnwd, un ganwaith cymaint ag a heuwyd, un arall drigain gwaith cymaint, ac un arall eto ddengwaith ar hugain cymaint. 9Os oes gennych glustiau, gwrandewch.”
10Ar hynny, dyma’i ddisgyblion ato a gofyn, “Pam rwyt ti’n siarad â nhw ar ddamhegion?”
11Atebodd yntau, “I chi y rhoddwyd cyfrinach teyrnas Nefoedd, ond nid iddyn nhw. 12Pan fo gan ddyn rywbeth, fe gaiff ychwaneg, a bydd ganddo fwy na digon: ond am hwnnw sy heb ddim, fe gyll ef hyd yn oed yr hyn sy ganddo. 13Dyna pam rydw i’n siarad â nhw ar ddamhegion, am eu bod nhw’n edrych ond heb weld, ac yn gwrando ond heb glywed na deall. 14Yn eu hanes nhw mae proffwydoliaeth Eseia wedi dod yn wir:
‘Fe glywch ac fe glywch, ond ddeëllwch chi ddim;
Fe edrychwch ac fe edrychwch, ond welwch chi ddim.
15Mae calonnau’r bobl hyn wedi mynd yn ddideimlad;
Ac maen nhw wedi mynd yn drwm eu clyw,
A’u llygaid nhw wedi’u cau.
Onibai am hynny, pwy a ŵyr na fyddai eu llygaid nhw’n gweld,
A’u clustiau nhw’n clywed,
A’u calonnau nhw’n deall,
Ac y bydden nhw’n troi i mi gael eu hiacháu nhw.’
16“Ond mor ddedwydd ydych chi gyda llygaid sy’n gweld a chlustiau sy’n clywed! 17Credwch fi, fe hiraethodd llawer o broffwydi a dynion da am gael gweld y pethau a welwch chi, ond heb eu gweld, a chael clywed y pethau a glywch chi, ond heb eu clywed.
18“Nawr, mi esboniaf ddameg yr heuwr ichi. 19Pob dyn sy’n clywed y neges am y Deyrnas ond heb ei deall, mae’r un drwg yn dod ac yn cipio’r hyn sy wedi ei hau yn ei galon. Hwnnw yw’r had sy wedi ei hau ar ymyl y ffordd. 20Mae’r had sy’n disgyn ar y tir creigiog yn ddarlun o’r dyn sy’n clywed y gair ac yn ei dderbyn ar unwaith yn llawen; 21ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo’i hunan, a thros dro mae’n dal ati, ac yna, pan ddêl amser caled neu erledigaeth o achos y gair, mae’n syrthio ymaith ar fyr dro. 22Am yr had sy’n disgyn i ganol drain hwnnw yw’r dyn sy’n clywed y gair, ond bod gofalon bywyd a swyn hudolus cyfoeth yn ei dagu, ac ni rydd ffrwyth. 23Ond am yr had sy’n disgyn ar dir da, hwnnw yw’r dyn sy’n clywed y gair ac yn ei ddeall. Mae’n dwyn ffrwyth — canwaith cymaint ag a heuwyd, neu drigain gwaith, neu ddeng waith ar hugain.”
Y da a’r drwg yn cyd-dyfu
24Dyma ddameg arall a osododd ef o’u blaenau: “Mae teyrnas Nefoedd fel hyn. Dyna ddyn yn hau had da yn ei gae, 25gelyn iddo’n dod tra roedd pawb yn cysgu, hau chwyn yn gymysg â’r gwenith, ac yna yn ei gwadnu hi. 26Pan dyfodd yr egin a llenwi yn eu brig, fe ddaeth y chwyn i’r golwg hefyd. 27Dyma weision y ffermwr ato, ac medden nhw wrtho, ‘Syr, had da a heuaist ti yn dy gae, onid e? O ble y daeth y chwyn yna ynteu?’ 28‘Gwaith gelyn ydy hyn,’ meddai yntau wrthyn nhw. ‘Wyt ti am i ni fynd a chodi’r chwyn, ynteu?’ meddai’r gweision. 29‘Na,’ atebodd yntau, ‘rhag ofn ichi, wrth godi’r chwyn, dynnu’r gwenith i fyny yr un pryd. 30Gadewch i’r ddau gyd-dyfu nes daw’r cynhaeaf; ac amser cynhaeaf fe ddyweda i wrth y medelwyr, “Cesglwch y chwyn i ddechrau a rhwymwch nhw’n fwndeli i’w llosgi, yna dowch â’r gwenith i f’ysgubor i” ’.”
Dechrau’n ychydig, gorffen yn llawer
31Dyma ddameg arall eto a roddodd ef o’u blaenau: “Mae teyrnas Nefoedd yn debyg i hedyn mwstard y mae dyn yn ei gymryd a’i hau yn ei gae. 32Mae hwn yn llai na’r holl hadau eraill, ond wedi iddo dyfu, mae’n fwy na’r llysiau; mae’n tyfu’n bren digon mawr i adar ddod i nythu yn ei gangau.”
33Fe ddywedodd y ddameg hon wrthyn nhw hefyd: “Mae teyrnas Nefoedd yn debyg i furum, wedi’i gymryd gan wraig tŷ a’i guddio mewn hanner canpwys o flawd nes bod y cwbl wedi codi.”
34Ar ddamhegion y dysgodd yr Iesu yr holl bethau hyn i’r tyrfaoedd; yn wir, ddysgodd ef ddim iddyn nhw ond mewn dameg; 35felly y daeth y gair hyn o eiddo’r proffwyd yn wir:
“Fe agoraf fy ngwefusau mewn damhegion,
Fe lefaraf bethau a fu’n guddiedig er pan grewyd y byd.”
Egluro dameg y gwenith a’r chwyn
36Yna, fe anfonodd y bobl ymaith, ac aeth i’r tŷ. Daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Esbonia i ni y ddameg am y chwyn yn y cae.”
37“Yr hwn sy’n hau’r had da,” atebodd yntau, “yw Mab y Dyn. 38Y cae yw’r byd. Mae’r had da’n sefyll am y rhai sy’n perthyn i’r Deyrnas, y chwyn am y rhai sy’n perthyn i’r un drwg. 39Y gelyn a heuodd y chwyn yw’r diafol. Y cynhaeaf yw diwedd amser. Y medelwyr yw’r angylion. 40Yn union fel y casglwyd y chwyn ynghyd a’u llosgi, felly y bydd yn niwedd amser. 41Fe fydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion allan a nhwythau’n casglu o’r Deyrnas bopeth sy’n gwneud niwed iddi a phawb sy’n gwneud drygioni, 42ac yn eu taflu nhw i’r ffwrnais danllyd, lle bydd wylofain ac ysgyrnygu dannedd. 43Yna bydd y rhai da’n disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Os oes gennych glustiau, gwrandewch!”
Rhagor o ddarluniau o’r Deyrnas
44“Mae teyrnas Nefoedd yn debyg i drysor wedi ei gladdu mewn cae. Dyna ddyn yn dod o hyd iddo ac yn ei gladdu eilwaith; yn ei lawenydd i ffwrdd ag ef, gwerthu popeth sy ganddo, a phrynu’r cae hwnnw.
45“Dyma ichi ddarlun arall o deyrnas Nefoedd; marsiandwr yn chwilio am berlau hardd, 46yn dod o hyd i un o werth arbennig iawn, yn mynd a gwerthu popeth oedd ganddo, a phrynu hwnnw.
47“Neu eto, mae teyrnas Nefoedd yn debyg i rwyd wedi’i bwrw i’r môr a physgod o bob math yn cael eu dal ynddi. 48Wedi iddi lenwi, mae’r pysgotwyr yn ei thynnu hi i’r lan, yn eistedd, yn casglu’r rhai da i gasgenni a thaflu’r rhai diwerth i ffwrdd. 49Fel’na y bydd hi pan ddaw amser i ben; yr angylion yn mynd allan, didoli’r rhai drwg oddi wrth y rhai da, 50a’u taflu nhw i’r ffwrnais danllyd, lle bydd wylofain ac ysgyrnygu dannedd.
51“Ydych chi wedi amgyffred hyn oll?” meddai ef.
“Ydym,” medden nhw.
52“Felly,” meddai wrthyn nhw, “pob un o athrawon y Gyfraith fydd yn dod yn ddisgybl yn nheyrnas Nefoedd, mae ef fel penteulu sy’n tynnu o’i stôr bethau newydd a hen.”
Dim anrhydedd i broffwyd
53Wedi i’r Iesu orffen y damhegion hyn, fe aeth oddi yno a daeth i fro ei febyd. 54Yno fe ddysgodd y bobl yn eu synagog nhw eu hunain. Mewn syndod medden nhw, “O ble y cafodd hwn y fath ddoethineb a’r fath allu gwyrthiol? 55Onid mab y saer ydy e? Onid Mair ydy enw’i fam, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas ydy enwau ’i frodyr? 56Ac onid ydi’i chwiorydd i gyd yn byw yma yn ein plith ni? O ble y daeth hyn oll iddo ef?”
57Roedden nhw’n gwrthod ei gredu. Am hynny meddai ef, “Fe gaiff proffwyd anrhydedd ymhobman ond yn ei fro ei hun ac yn ei gartref ei hun.”
58Ni wnaeth lawer o wyrthiau yno, nid oedd ganddyn nhw ffydd.

Dewis Presennol:

Mathew 13: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda