Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 11

11
Penbleth Ioan Fedyddiwr
1Wedi gorffen rhoi’r cyfarwyddiadau hyn i’w ddeuddeg disgybl, aeth Iesu oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu trefi.
2Fe glywodd Ioan yn y carchar beth oedd Crist yn ei wneud, a dyma fe’n anfon, drwy ei ddisgyblion, 3i ofyn iddo, “Ai Ti yw’r un a oedd i ddod, neu ydym ni i ddisgwyl rhywun arall?”
4Atebodd Iesu, “Ewch a dywedwch wrth Ioan beth glywch chi a beth welwch chi; 5mae’r deillion yn gweld eto, y cloffion yn cerdded, a gwahangleifion yn cael eu gwella, y rhai byddar yn clywed, a meirw’n dod yn fyw, y tlodion yn cael clywed y Newyddion Da. 6A dedwydd yw’r dyn nad yw’n fy nghael i yn faen tramgwydd.”
Iesu am Ioan
7Pan oedd y rhain ar eu ffordd yn ôl, dechreuodd Iesu sôn wrth y bobl am Ioan: “Beth a obeithiech chi ei weld wrth fynd i’r anialwch? Corsen yn cael ei siglo gan wynt? Na? 8Beth felly yr aethoch allan i’w weld? Dyn wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn sicr i chi, mewn plasau brenhinoedd y gwelwch chi wisgoedd felly. 9Ond i weld beth yr aethoch chi allan? Proffwyd? Ie’n wir, a llawer mwy na phroffwyd. 10Dyma’r hwn y dywed yr Ysgrythur amdano,
‘Dyma fy negesydd a anfonaf o’th flaen di
Ac fe baratoa dy ffordd o’th flaen.’
11Credwch fi: ni anwyd neb erioed mwy na Ioan Fedyddiwr, ac eto, mae’r lleiaf yn nheyrnas Nefoedd yn fwy nag ef.
12“O’r amser y daeth Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, mae teyrnas Nefoedd wedi dioddef gormes ac mae gormeswyr yn cymryd meddiant ohoni. 13Oblegid hyd nes y daeth Ioan, sôn am bethau i ddod roedd y proffwydi i gyd, a’r Gyfraith, 14a phe baech chi ond yn derbyn hynny, Ioan yw’r Eleias oedd i ddod. 15Os oes clustiau gennych, gwrandewch.”
Neb yn plesio
16“I beth, felly, y mae’r genhedlaeth hon yn debyg? Tebyg i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn gweiddi ar ei gilydd,
17‘Canasom y pibau, a chithau’n gwrthod dawnsio.’
‘Canasom ganiadau trist, a chithau’n gwrthod wylo.’
18Dyna Ioan yn dod heb na bwyta nac yfed, ac medden nhw, ‘Mae’r cythraul yn hwn.’ 19Dyma Fab y Dyn yn dod yn bwyta ac yn yfed, ac medden nhw, ‘Welwch chi hwn? Yn bwyta ac yn yfed, ffrind casglwyr trethi a throseddwyr.’ Ond profwyd doethineb yn iawn drwy ei gweithredoedd.”
Condemnio dinasyddion diedifar
20Yna dechreuodd geryddu y trefi lle gwnaeth y rhan fwyaf o’i wyrthiau, am nad oedden nhw wedi newid eu ffordd o fyw.
21“Gwae di, Chorasin!” meddai, “Gwae di, Bethsaida! Petai’r gwyrthiau wnaed ynoch chi wedi eu gwneud yn Nhyrus a Sidon, fe fydden nhw wedi edifarhau ers talwm mewn sachliain a lludw. 22Credwch fi, fe fydd hi’n well ar Tyrus a Sidon yn nydd y farn nag arnoch chi. 23A thithau, Capernaum, wyt ti am gael dy ddyrchafu i’r entrychion? Na, fe gei di dy ddarostwng i’r dyfnderoedd. Oherwydd petai’r gwyrthiau wnaed ynot ti wedi eu gwneud yn Sodom, fe fyddai Sodom yn sefyll hyd heddiw. 24Credwch fi, fe fydd hi’n well ar dir Sodom yn nydd y farn nag arnat ti.”
Diolch a gwahodd
25Yr adeg honno y llefarodd Iesu fel hyn: “Rydw i’n diolch i ti, Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio’r pethau hyn oddi wrth y doeth a’r deallus, a’u datguddio i rai syml. 26Ie, O! Dad, hyn oedd dy ddymuniad di. 27Mae fy Nhad wedi ymddiried popeth i mi, a does neb yn adnabod y Mab ond y Tad, na neb chwaith yn adnabod y Tad ond y Mab, a phwy bynnag y mae’r Mab yn dewis ei ddatguddio iddo.
28“Dewch ataf fi, bawb sy wedi blino ac o dan ei bwn, ac fe rof orffwys ichi. 29Cymerwch fy iau arnoch eich hun, a dysgwch gennyf; addfwyn a gostyngedig o galon ydw i, ac fe gaiff eich eneidiau orffwys. 30Mae fy iau i yn esmwyth, a’m baich yn ysgafn.”

Dewis Presennol:

Mathew 11: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda