Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Tobit 3

3
Gweddi Tobit
1Daeth trallod mawr arnaf, gan beri imi ochneidio ac wylo, ac yn fy nghyfyngder dechreuais weddïo fel hyn: 2“Cyfiawn wyt ti, Arglwydd, a chyfiawn yw dy holl weithredoedd; trugarog wyt, a chywir yn dy holl ffyrdd; ti sy'n barnu'r byd. 3Cofia fi yn awr, Arglwydd, ac edrych arnaf. Paid â'm cosbi am y pechodau ac am y camweddau diarwybod yr wyf fi a'm hynafiaid yn euog ohonynt. 4Yr wyf wedi pechu ger dy fron ac wedi anwybyddu dy orchmynion. Traddodaist ni, felly, i anrhaith a chaethiwed a marwolaeth, ac i fod yn ddihareb ac yn destun siarad a chyff gwawd i'r holl genhedloedd y gwasgeraist ni i'w plith. 5Yn wir, cywir yw dy aml farnedigaethau wrth fynnu rhoi cosb arnaf am fy mhechodau, oherwydd nid ydym wedi cadw dy orchmynion na rhodio'n gywir yn dy olwg di. 6Yn awr, felly, gwna â mi yn ôl dy ddymuniad. Gorchymyn gymryd fy ysbryd oddi wrthyf, imi gael fy ngollwng yn rhydd oddi ar wyneb y ddaear a'm troi yn bridd; oherwydd marw sydd fuddiol i mi, nid byw, am i mi glywed geiriau o sen celwyddog, er mawr ofid imi. Arglwydd, rho orchymyn i mi gael rhyddhad o'r cyfyngder hwn; gad imi ddianc i'r orffwysfa dragwyddol, a phaid â throi dy wyneb oddi wrthyf, Arglwydd. Oherwydd gwell i mi farw na chael bywyd o flinder mawr a gwrando ar y fath sen.”
Gofid Sara, a'i Gweddi
7Y diwrnod hwnnw digwyddodd i Sara, merch Ragwel, o Ecbatana yn Media orfod gwrando ar sen gan un o forynion ei thad. 8Yn awr yr oedd hi wedi ei rhoi mewn priodas i saith gŵr yn eu tro, ond fe'u lladdwyd bob un gan Asmodeus, yr ysbryd drwg, cyn iddynt gael cydorwedd â hi fel sy'n briodol i ŵr a gwraig. Ond dywedodd y forwyn wrthi, “Ti yw llofrudd dy wŷr. Er gwaethaf dy roi mewn priodas i saith o wŷr bellach, ni chefaist enw'r un ohonynt. 9Pam yr wyt ti'n ein cosbi ni am fod dy wŷr wedi marw? Dos i gadw cwmni â hwy. Gobeithio na welwn na mab na merch i ti byth.”
10Bu hyn yn ofid calon iddi y diwrnod hwnnw. Yn ei dagrau aeth i fyny i oruwchystafell ei thad gyda'r bwriad o'i chrogi ei hun. Ond dechreuodd ailfeddwl a dweud, “Ni chânt fyth fwrw sen ar fy nhad a dweud wrtho, ‘Un ferch, a honno'n annwyl, oedd i ti, ond fe'i crogodd ei hun o achos ei helbulon.’ Byddai'r fath weithred yn ddigon i ddwyn fy nhad oedrannus i'r bedd o dristwch. Mwy buddiol i mi fydd peidio â'm crogi fy hun, ond gweddïo ar i'r Arglwydd ganiatáu imi farw, rhag imi ddioddef sen byth eto yn ystod fy mywyd.” 11Aeth ar unwaith at y ffenestr, â'i dwylo ar led, a gweddïo fel hyn: “Bendigedig wyt ti, Dduw trugarog, a bendigedig fydd dy enw yn oes oesoedd; bydded i'th holl greadigaeth dy fendithio am byth. 12Dyma fi wedi codi fy ngolwg a'm llygaid tuag atat; 13gorchymyn fy ngollwng o'r ddaear, imi beidio â dioddef y fath sen byth eto. 14Gwyddost, Arglwydd, fy mod yn lân o unrhyw aflendid gyda gŵr; 15nid wyf wedi halogi fy enw i nac enw fy nhad yn nhir fy nghaethiwed. Myfi yw unig ferch fy nhad; nid oes ganddo blentyn arall i fod yn etifedd iddo, na brawd wrth law, na pherthynas i mi fy nghadw fy hun i fod yn wraig iddo. Eisoes yr wyf wedi colli saith gŵr; pa bwrpas, felly, sydd i mi ddal i fyw? Ond, os nad yw'n rhyngu bodd i ti ganiatáu i mi farw, Arglwydd, tro dy sylw trugarog at y sen a fwriwyd arnaf.”
Duw yn Gwrando Gweddïau Tobit a Sara
16Ar yr union adeg honno, fe glywyd gweddi'r ddau gan Dduw yn ei ogoniant, 17ac anfonwyd Raffael i adfer y ddau: adfer Tobit, trwy symud y smotiau gwyn oddi ar ei lygaid, iddo gael gweld goleuni Duw â'i lygaid; ac adfer Sara, merch Ragwel, trwy ei rhoi hi'n wraig i Tobias fab Tobit, a'i rhyddhau o afael Asmodeus, yr ysbryd drwg, oherwydd Tobias oedd biau'r hawl arni o flaen pawb arall a oedd am ei phriodi. Aeth Tobit yn ôl i'w dŷ o'r cyntedd, ac ar yr un pryd yn union daeth Sara, merch Ragwel, hithau i lawr o'r oruwchystafell.

Dewis Presennol:

Tobit 3: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd