Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 150

150
1Molwch yr ARGLWYDD.
Molwch Dduw yn ei gysegr,
molwch ef yn ei ffurfafen gadarn.
2Molwch ef am ei weithredoedd nerthol,
molwch ef am ei holl fawredd.
3Molwch ef â sain utgorn,
molwch ef â nabl a thelyn.
4Molwch ef â thympan a dawns,
molwch ef â llinynnau a phibau.
5Molwch ef â sŵn symbalau,
molwch ef â symbalau uchel.
6Bydded i bopeth byw foliannu'r ARGLWYDD.
Molwch yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Y Salmau 150: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda