Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 21

21
Dinasoedd y Lefiaid
1Daeth pennau-teuluoedd y Lefiaid at yr offeiriad Eleasar, at Josua fab Nun, ac at bennau-teuluoedd llwythau'r Israeliaid, 2a dweud wrthynt yn Seilo yng ngwlad Canaan, “Gorchmynnodd yr ARGLWYDD drwy Moses roi dinasoedd i ni i fyw ynddynt, a hefyd eu porfeydd ar gyfer ein hanifeiliaid.” 3Yna, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoddodd yr Israeliaid o'u hetifeddiaeth hwy y dinasoedd a nodir isod a'u porfeydd i'r Lefiaid.
4Pan ddisgynnodd y coelbren ar deuluoedd y Cohathiaid, cafodd y Lefiaid a hanoedd o Aaron yr offeiriad dair dinas ar ddeg trwy'r coelbren gan lwythau Jwda, Simeon a Benjamin. 5Cafodd gweddill y Cohathiaid ddeg dinas trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Effraim, llwyth Dan, a hanner llwyth Manasse. 6Cafodd y Gersoniaid dair dinas ar ddeg yn Basan trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Issachar, llwyth Aser, llwyth Nafftali a hanner llwyth Manasse. 7Cafodd y Merariaid ddeuddeg dinas, yn ôl eu teuluoedd, gan lwythau Reuben, Gad a Sabulon. 8Rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a'u porfeydd i'r Lefiaid trwy'r coelbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
9Rhoesant y dinasoedd a enwir yma gan lwythau Jwda a Simeon 10i'r Lefiaid o deuluoedd y Cohathiaid a hanoedd o Aaron, gan mai arnynt hwy y disgynnodd y coelbren cyntaf. 11Rhoesant iddynt Ciriath-arba (Arba oedd tad Anac), sef Hebron ym mynydd-dir Jwda, a'r porfeydd o'i hamgylch. 12Ond rhoesant dir y ddinas a'i phentrefi yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.
13I ddisgynyddion Aaron yr offeiriad rhoesant Hebron, dinas noddfa i leiddiaid, hefyd Libna, 14Jattir, Estemoa, 15Holon, Debir, 16Ain, Jutta a Beth-semes, bob un â'i phorfeydd: naw dinas gan y ddau lwyth hynny. 17Ac o lwyth Benjamin rhoesant Gibeon, Geba, 18Anathoth, ac Almon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas. 19Cafodd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, dair dinas ar ddeg a'u porfeydd. 20Gan lwyth Effraim y cafodd gweddill y Lefiaid o linach Cohath eu dinasoedd trwy goelbren, yn ôl teuluoedd y Cohathiaid. 21Rhoesant Sichem, dinas noddfa i leiddiaid ym mynydd-dir Effraim, hefyd Geser, 22Cibsaim a Beth-horon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas. 23O lwyth Dan yr oedd Eltece, Gibbethon, 24Ajalon a Gath-rimmon, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas. 25O hanner llwyth Manasse yr oedd Taanach a Gath-rimmon a'u porfeydd: dwy ddinas. 26Cafodd gweddill teuluoedd y Cohathiaid ddeg dinas i gyd, a'u porfeydd.
27Gan hanner llwyth Manasse cafodd y Gersoniaid o blith teuluoedd y Lefiaid Golan, dinas noddfa i leiddiaid yn Basan, a hefyd Beestera, bob un â'i phorfeydd: dwy ddinas. 28O lwyth Issachar cafwyd Cison, Daberath, 29Jarmuth ac En-gannim, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas. 30O lwyth Aser cafwyd Misal, Abdon, 31Helcath a Rehob, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas. 32O lwyth Nafftali cafwyd Cedes, dinas noddfa i leiddiaid yn Galilea, a hefyd Hammoth-dor a Cartan, bob un â'i phorfeydd: tair dinas. 33Yr oedd gan y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, dair dinas ar ddeg i gyd, a'u porfeydd.
34Gan lwyth Sabulon cafodd gweddill y Lefiaid a hanoedd o Merari, yn ôl eu teuluoedd, Jocneam, Carta, 35Dimna a Nahalal, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas. 36O lwyth Reuben cafwyd Beser, Jahas, 37Cedemoth a Meffaath, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas. 38O lwyth Gad cafwyd Ramoth, dinas noddfa i leiddiaid, yn Gilead, hefyd Mahanaim, 39Hesbon a Jaser, bob un â'i phorfeydd: pedair dinas i gyd. 40Nifer y dinasoedd a gafodd y Merariaid, sef gweddill teuluoedd y Lefiaid, oedd deuddeg dinas i gyd, trwy'r coelbren yn ôl eu teuluoedd. 41Yr oedd nifer dinasoedd y Lefiaid oddi mewn i diriogaeth yr Israeliaid yn wyth a deugain o ddinasoedd a'u porfeydd. 42Yr oedd gan bob un o'r dinasoedd hyn ei phorfeydd o'i hamgylch; dyna'r drefn gyda phob un o'r dinasoedd hyn.
Israel yn Meddiannu'r Wlad
43Rhoddodd yr ARGLWYDD i Israel yr holl wlad a addawodd i'w hynafiaid. Wedi iddynt ei meddiannu ac ymsefydlu ynddi, 44rhoddodd yr ARGLWYDD ddiogelwch iddynt ar bob tu, yn union fel yr addawodd i'w hynafiaid; ni allodd yr un o'u gelynion eu gwrthsefyll, oherwydd rhoddodd yr ARGLWYDD hwy oll yn eu dwylo. 45Ni fethodd un o'r holl bethau da a addawodd yr ARGLWYDD i dŷ Israel; daeth y cwbl i ben.

Dewis Presennol:

Josua 21: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda