Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 1

1
Llwythau Jwda a Simeon yn Dal Adoni Besec
1Wedi marw Josua, gofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, “Pwy ohonom sydd i fynd yn gyntaf yn erbyn y Canaaneaid i ymladd â hwy?” 2Atebodd yr ARGLWYDD, “Jwda sydd i fynd; yr wyf yn rhoi'r wlad yn ei law ef.” 3Dywedodd Jwda wrth ei frawd Simeon, “Tyrd gyda mi i'm tiriogaeth, er mwyn inni ymladd yn erbyn y Canaaneaid; ac mi ddof finnau gyda thi i'th diriogaeth di.” Ac fe aeth Simeon gydag ef. 4Wedi i Jwda fynd i fyny, rhoddodd yr ARGLWYDD y Canaaneaid a'r Peresiaid yn eu llaw, a lladdasant ddeng mil ohonynt yn Besec. 5Yno cawsant Adoni Besec ac ymladd ag ef, a lladd y Canaaneaid a'r Peresiaid. 6Ffodd Adoni Besec, ac erlidiasant ar ei ôl a'i ddal, a thorri bodiau ei ddwylo a'i draed i ffwrdd. 7Ac meddai Adoni Besec, “Bu deg a thrigain o frenhinoedd â bodiau eu dwylo a'u traed wedi eu torri iffwrdd yn lloffa am fwyd dan fy mwrdd; fel y gwneuthum i, felly y talodd Duw imi.” Daethant ag ef i Jerwsalem, a bu farw yno.
Llwyth Jwda yn Ennill Jerwsalem a Hebron
8Ymladdodd y Jwdeaid yn erbyn Jerwsalem a'i hennill, ac yna lladd y trigolion â'r cleddyf a llosgi'r ddinas. 9Wedyn aeth y Jwdeaid i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn byw yn y mynydd-dir a hefyd yn y Negef a'r Seffela. 10Aeth y Jwdeaid i ymladd â'r Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron—Ciriath-arba oedd enw Hebron gynt—a lladdasant Sesai, Ahiman a Talmai.
Othniel yn Ennill Debir
Jos. 15:13–19
11Oddi yno aethant yn erbyn trigolion Debir—Ciriath-seffer oedd enw Debir gynt. 12Dywedodd Caleb, “Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo.” 13Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo. 14Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, “Beth a fynni?” 15Atebodd hithau, “Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef; rho imi hefyd ffynhonnau dŵr.” Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.
Buddugoliaethau Llwythau Jwda a Benjamin
16Yr oedd disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, wedi dod i fyny gyda'r Jwdeaid o Ddinas y Palmwydd i anialwch Jwda, sydd yn Negef Arad, ac wedi mynd i fyw ymysg y bobl. 17Aeth Jwda gyda'i frawd Simeon a tharo'r Canaaneaid oedd yn byw yn Seffath, a difrodi'r ddinas a'i galw'n Horma#1:17 H.y., Difrod.. 18Enillodd Jwda Gasa, Ascalon ac Ecron, a'r diriogaeth o amgylch pob un. 19Yr oedd yr ARGLWYDD gyda Jwda, a meddiannodd y mynydd-dir, ond ni allodd ddisodli trigolion y gwastadedd am fod ganddynt gerbydau haearn. 20Rhoesant Hebron i Caleb fel yr oedd Moses wedi addo, a gyrrodd ef oddi yno dri o'r Anaciaid. 21Ond am y Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem, ni yrrodd y Benjaminiaid hwy allan; ac y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Benjaminiaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
Llwythau Effraim a Manasse yn Ennill Bethel
22Aeth tylwyth Joseff i fyny yn erbyn Bethel, a bu'r ARGLWYDD gyda hwy. 23Anfonodd tylwyth Joseff rai i wylio Bethel—Lus oedd enw'r ddinas gynt. 24Pan welodd y gwylwyr ddyn yn dod allan o'r ddinas, dywedasant wrtho, “Dangos inni sut i fynd i mewn i'r ddinas, a byddwn yn garedig wrthyt.” 25Dangosodd iddynt fynedfa i'r ddinas; trawsant hwythau'r ddinas â'r cleddyf, ond gollwng y gŵr a'i holl deulu yn rhydd. 26Aeth yntau i wlad yr Hethiaid ac adeiladu tref yno, a'i henwi'n Lus; a dyna'i henw hyd heddiw.
Pobl nas Disodlwyd gan yr Israeliaid
27Ni feddiannodd Manasse Beth-sean na Taanach a'u maestrefi, na disodli trigolion Dor, Ibleam, na Megido a'u maestrefi; daliodd y Canaaneaid eu tir yn y rhan honno o'r wlad. 28Ond pan gryfhaodd Israel, rhoesant y Canaaneaid dan lafur gorfod, heb eu disodli'n llwyr.
29Ni ddisodlodd Effraim y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser; bu'r Canaaneaid yn byw yn eu mysg yn Geser.
30Ni ddisodlodd Sabulon drigolion Citron na thrigolion Nahalol. Bu'r Canaaneaid yn byw yn eu mysg a than lafur gorfod.
31Ni ddisodlodd Aser drigolion Acco na thrigolion Sidon, nac Ahlab, Achsib, Helba, Affec na Rehob. 32Bu'r Aseriaid yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad am nad oeddent wedi eu disodli.
33Ni ddisodlodd Nafftali drigolion Beth-semes na thrigolion Beth-anath; buont yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad, a bu trigolion Beth-semes a Beth-anath dan lafur gorfod iddynt.
34Gwasgodd yr Amoriaid y Daniaid tua'r mynydd-dir oherwydd nid oeddent yn caniatáu iddynt ddod i lawr i'r gwastatir. 35Daliodd yr Amoriaid eu tir ym Mynydd Heres ac Ajalon a Saalbim, ond pwysodd tylwyth Joseff yn drymach arnynt ac aethant dan lafur gorfod. 36Yr oedd terfyn yr Amoriaid o riw Acrabbim, o Sela i fyny.

Dewis Presennol:

Barnwyr 1: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda