Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 3

3
Hosea a'r Wraig Anffyddlon
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos eto, câr wraig a gerir gan arall ac sy'n odinebwraig, fel y câr yr ARGLWYDD blant Israel er iddynt droi at dduwiau eraill a hoffi teisennau grawnwin.” 2Felly, fe'i prynais am bymtheg darn arian, a homer a hanner o haidd. 3Dywedais wrthi, “Aros amdanaf am ddyddiau lawer, heb buteinio na'th roi dy hun i neb; felly y gwnaf finnau i ti.” 4Oherwydd am ddyddiau lawer yr erys plant Israel heb frenin na thywysog, heb offrwm na cholofn, heb effod na theraffim. 5Wedi hyn, bydd plant Israel yn troi eto i geisio'r ARGLWYDD eu Duw a Dafydd eu brenin, ac yn troi mewn braw yn y dyddiau diwethaf at yr ARGLWYDD ac at ei ddaioni.

Dewis Presennol:

Hosea 3: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda