Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 4

4
Duw yn Rhoi Gallu i Moses
1Yna atebodd Moses, “Ni fyddant yn fy nghredu nac yn gwrando arnaf, ond byddant yn dweud, ‘Nid yw'r ARGLWYDD wedi ymddangos i ti.’ ” 2Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Beth sydd gennyt yn dy law?” Atebodd yntau, “Gwialen.” 3Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Tafl hi ar lawr.” Pan daflodd hi ar lawr, trodd yn sarff, a chiliodd Moses oddi wrthi. 4Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael yn ei chynffon.” Estynnodd yntau ei law a gafael ynddi, a throdd yn wialen yn ei law. 5“Gwna hyn,” meddai, “er mwyn iddynt gredu bod yr ARGLWYDD, Duw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob wedi ymddangos iti.” 6Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Rho dy law yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd ei law yn wahanglwyfus ac yn wyn fel yr eira. 7Yna dywedodd Duw, “Rho hi'n ôl yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ôl yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd mor iach â gweddill ei gorff. 8“Os na fyddant yn dy gredu nac yn ymateb i'r arwydd cyntaf,” meddai'r ARGLWYDD, “hwyrach y byddant yn ymateb i'r ail arwydd. 9Ond os na fyddant yn ymateb i'r naill arwydd na'r llall, nac yn gwrando arnat, cymer ddŵr o'r Neil a'i dywallt ar y sychdir, a bydd y dŵr a gymeri o'r afon Neil yn troi'n waed ar y tir sych.”
10Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “O f'Arglwydd, ni fûm erioed yn ŵr huawdl, nac yn y gorffennol nac er pan ddechreuaist lefaru wrth dy was; y mae fy lleferydd yn araf a'm tafod yn drwm.” 11Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD? 12Yn awr, dos, rhof help iti i lefaru, a'th ddysgu beth i'w ddweud.” 13Ond dywedodd ef, “O f'Arglwydd, anfon pwy bynnag arall a fynni.” 14Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, “Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld. 15Llefara di wrtho a gosod y geiriau yn ei enau, a rhof finnau help i'r ddau ohonoch i lefaru, a'ch dysgu beth i'w wneud. 16Bydd ef yn llefaru wrth y bobl ar dy ran; bydd ef fel genau iti, a byddi dithau fel Duw iddo yntau. 17Cymer y wialen hon yn dy law, oherwydd trwyddi hi y byddi'n gwneud yr arwyddion.”
Moses yn Dychwelyd i'r Aifft
18Dychwelodd Moses at Jethro ei dad-yng-nghyfraith a dweud wrtho, “Gad imi fynd yn ôl at fy mhobl sydd yn yr Aifft i weld a ydynt yn dal yn fyw.” Dywedodd Jethro wrtho, “Rhwydd hynt iti.” 19Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses yn Midian, “Dos yn ôl i'r Aifft, oherwydd y mae pawb oedd yn ceisio dy ladd bellach wedi marw.” 20Felly, cymerodd Moses ei wraig a'i feibion, a'u gosod ar asyn a mynd yn ôl i wlad yr Aifft, â gwialen Duw yn ei law. 21Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Wedi iti ddychwelyd i'r Aifft, rhaid iti wneud o flaen Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy allu; ond byddaf yn caledu ei galon ac ni fydd yn gollwng y bobl yn rhydd. 22Llefara wrth Pharo, ‘Dyma a ddywed yr ARGLWYDD: Israel yw fy mab cyntafanedig, 23ac yr wyf yn dweud wrthyt am ollwng fy mab yn rhydd er mwyn iddo f'addoli, ond gwrthodaist ei ollwng yn rhydd, felly fe laddaf dy fab cyntafanedig di.’ ”
24Mewn llety ar y ffordd, cyfarfu'r ARGLWYDD â Moses a cheisio'i ladd. 25Ond cymerodd Seffora gyllell finiog a thorri blaengroen ei mab a'i fwrw i gyffwrdd â thraed Moses, a dweud, “Yr wyt yn briod imi trwy waed.” 26Yna gadawodd yr ARGLWYDD lonydd iddo. Dyna'r adeg y dywedodd hi, “Yr wyt yn briod trwy waed oherwydd yr enwaedu.”
27Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Dos i'r anialwch i gyfarfod â Moses.” Aeth yntau, a chyfarfod ag ef wrth fynydd Duw a'i gusanu. 28Adroddodd Moses wrth Aaron y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'w ddweud, a'r holl arwyddion yr oedd wedi gorchymyn iddo eu gwneud. 29Yna aeth Moses ac Aaron i gynnull ynghyd holl henuriaid pobl Israel, 30a dywedodd Aaron wrthynt y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses; a gwnaeth yr arwyddion yng ngŵydd y bobl. 31Credodd y bobl, a phan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymweld â phobl Israel a'i fod wedi edrych ar eu hadfyd, bu iddynt ymgrymu i lawr ac addoli.

Dewis Presennol:

Exodus 4: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd