Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Baruch 1

1
Rhagarweiniad
1Dyma eiriau'r llyfr a ysgrifennodd Baruch fab Nereia, fab Maaseia, fab Sedeceia, fab Asadeia, fab Chelcias, ym Mabilon 2yn y bumed flwyddyn, a'r seithfed dydd o'r mis, yr adeg y goresgynnodd y Caldeaid Jerwsalem a'i llosgi. 3Darllenodd Baruch eiriau'r llyfr hwn yng nghlyw Jechoneia, mab Joachim brenin Jwda, ac yng nghlyw pawb o'r bobl a ddaeth i'w glywed: 4y rhai mawr, y rhai o linach frenhinol, yr henuriaid, a phawb o'r bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf—pawb yn wir oedd yn byw ar lan Afon Swd ym Mabilon. 5Mewn galar ac ympryd, ymroesant i weddïo gerbron yr Arglwydd; 6casglasant arian hefyd, pob un yn ôl ei allu, 7a'i anfon i Jerwsalem at yr offeiriad Joachim fab Chelcias, fab Salum, ac at yr offeiriaid eraill, ac at yr holl bobl a gafwyd gydag ef yn Jerwsalem. 8Dyma'r pryd y cymerodd Baruch lestri tŷ'r Arglwydd, a oedd wedi eu dwyn o'r deml, i'w dychwelyd i wlad Jwda, ar y degfed dydd o fis Sifan. 9Y rhain oedd y llestri arian yr oedd Sedeceia fab Joseia brenin Jwda wedi eu gwneud ar ôl i Nebuchadnesar brenin Babilon gaethgludo Jechoneia, a'r tywysogion a'r carcharorion a'r mawrion a phobl y wlad, o Jerwsalem, a'u dwyn i Fabilon.
Y Neges i Jerwsalem
10Dywedasant: “Dyma ni'n anfon atoch arian. Prynwch â'r arian boethoffrymau ac aberthau dros bechod, ac arogldarth; darparwch offrwm o rawn a'i offrymu ar allor yr Arglwydd ein Duw ni. 11A gweddïwch dros fywyd Nebuchadnesar brenin Babilon, a thros fywyd Belsassar ei fab ef, ar i'w dyddiau fod fel dyddiau'r nefoedd ar y ddaear. 12Yna fe rydd yr Arglwydd i ni nerth, a golau i'n llygaid, a chawn fyw dan nawdd Nebuchadnesar brenin Babilon a than nawdd Belsassar ei fab. Rhown iddynt wasanaeth am gyfnod maith, a chael ffafr yn eu golwg. 13Gweddïwch hefyd ar yr Arglwydd ein Duw drosom ni, oherwydd i ni bechu yn ei erbyn; ac nid yw llid yr Arglwydd a'i ddicter wedi troi ymaith oddi wrthym hyd y dydd hwn.
14“Yr ydych i ddarllen y llyfr hwn a anfonwn atoch, a gwneud eich cyffes yn nhŷ'r Arglwydd ar ddydd gŵyl ac ar ddyddiau penodedig, 15a dweud: ‘I'r Arglwydd ein Duw y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wyneb hyd y dydd hwn, i bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem, 16i'n brenhinoedd a'n llywodraethwyr a'n hoffeiriaid a'n proffwydi, ac i'n hynafiaid. 17Oherwydd pechasom yn erbyn yr Arglwydd, 18a buom yn anufudd iddo; ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ôl y gorchmynion a osododd yr Arglwydd ger ein bron. 19O'r dydd y dygodd yr Arglwydd ein hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw, buom yn anufudd i'r Arglwydd ein Duw ac yn esgeulus, heb wrando ar ei lais. 20A glynodd wrthym hyd heddiw y drygau a'r felltith y gorchmynnodd yr Arglwydd i'w was Moses eu cyhoeddi ar y dydd y dygodd ein hynafiaid allan o'r Aifft er mwyn rhoi i ni wlad yn llifeirio o laeth a mêl. 21Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, a glywir yn holl eiriau'r proffwydi a anfonodd atom; 22ond dilyn a wnaethom bob un ei ffordd ei hun, yn ôl mympwy ei galon ddrygionus, a gwasanaethu duwiau eraill, a gwneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw.’ ”

Dewis Presennol:

Baruch 1: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda