Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 8

8
Gweledigaeth o Ffrwythau Haf
1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma fasgedaid o ffrwythau haf#8:1 Hebraeg, qayits., 2a gofynnodd ef, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Basgedaid o ffrwythau haf#8:2 Hebraeg, qayits..” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,
“Daeth y diwedd#8:2 Hebraeg, qets. ar fy mhobl Israel;
nid af heibio iddynt byth eto.
3Bydd cantorion y deml yn galarnadu yn y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW,
“bod y cyrff mor niferus
fel y teflir hwy'n ddisôn ym mhob man.”
Tynged Israel
4Gwrandewch hyn, chwi sy'n sathru'r anghenus
ac yn difa tlodion y wlad,
5ac yn dweud, “Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu,
inni gael gwerthu ŷd;
a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth,
inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl,
inni gael twyllo â chloriannau anghywir,
6inni gael prynu'r tlawd am arian
a'r anghenus am bâr o sandalau,
a gwerthu ysgubion yr ŷd?”
7Tyngodd yr ARGLWYDD i falchder Jacob,
“Ni allaf fyth anghofio'u gweithredoedd.
8Onid am hyn y cryna'r ddaear
nes y galara'i holl drigolion,
ac y cwyd i gyd fel y Neil,
a dygyfor a gostwng fel afon yr Aifft?”
9“Y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW,
“gwnaf i'r haul fachlud am hanner dydd,
a thywyllaf y ddaear gefn dydd golau.
10Trof eich gwyliau yn alaru
a'ch holl ganiadau yn wylofain;
rhof sachliain am eich llwynau
a moelni ar eich pennau.
Fe'i gwnaf yn debyg i alar am unig fab;
bydd ei ddiwedd yn ddiwrnod chwerw.
11“Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr Arglwydd DDUW,
“pan anfonaf newyn i'r wlad;
nid newyn am fara, na syched am ddŵr,
ond am glywed geiriau'r ARGLWYDD.
12Crwydrant o fôr i fôr
ac o'r gogledd i'r dwyrain;
ânt yn ôl ac ymlaen i geisio gair yr ARGLWYDD,
ond heb ei gael.
13“Yn y dydd hwnnw, bydd gwyryfon teg a gwŷr ifainc
yn llewygu o syched.
14Y rhai sy'n tyngu i Asima Samaria,
ac yn dweud, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Dan’,
neu, ‘Cyn wired â bod dy dduw#8:14 Felly Groeg. Hebraeg, ffordd. yn fyw, Beerseba’—
fe syrthiant oll heb godi byth mwy.”

Dewis Presennol:

Amos 8: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd