Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Esdras 11

11
Y Bumed Weledigaeth yr Eryr
1Yr ail noson cefais freuddwyd, a gweld yn dod i fyny o'r môr eryr a chanddo ddeuddeg aden bluog a thri phen. 2Edrychais, a dyma'r eryr yn lledu ei adenydd dros yr holl ddaear; chwythodd holl wyntoedd y nefoedd arno ef, ac ymgasglodd y cymylau o'i gwmpas. 3Allan o'i adenydd ef gwelais wrth-adenydd yn tarddu, ond heb dyfu'n ddim ond adenydd bach a phitw. 4Yr oedd ei bennau yn gorffwys yn llonydd; yr oedd hyd yn oed y pen canol, er ei fod yn fwy na'r pennau eraill, yn gorffwys yn llonydd gyda hwy. 5Wrth imi edrych, dyma'r eryr yn hedfan ar ei adenydd i ennill arglwyddiaeth ar y ddaear a'i thrigolion. 6Gwelais fel y gwnaed popeth dan y nefoedd yn ddarostyngedig iddo; ac ni chafodd ei wrthwynebu gan unrhyw greadur ar wyneb y ddaear, naddo gan un. 7Edrychais, a dyma'r eryr yn sefyll ar ei ewinedd ac yn llefaru wrth ei adenydd fel hyn: 8“Peidiwch oll â chadw gwyliadwriaeth yr un pryd; cysgwch bob un yn ei le, a gwylio yn ei dro; 9ond y mae'r pennau i'w cadw hyd yn ddiwethaf.” 10Sylwais hefyd nad allan o'i bennau ef yr oedd y llais yn dod, ond o ganol ei gorff. 11Rhifais ei wrth-adenydd ef, a gweld bod wyth ohonynt.
12Wrth imi edrych, dyma un o'r adenydd ar y llaw dde yn codi ac yn teyrnasu dros yr holl ddaear. 13Ac yna daeth diwedd arni hi ac ar ei theyrnasiad; a diflannodd o'r golwg, ac ni welwyd ei lle mwyach. Yna cododd y nesaf, a bu hithau'n teyrnasu am amser hir. 14A phan oedd diwedd ei theyrnasiad yn agosáu, a hithau ar fin diflannu fel y gyntaf, 15dyma lais yn ei chlyw yn dweud: 16“Gwrando di, ti a fu'n rheoli'r ddaear cyhyd; y mae gennyf y neges hon i'w rhoi cyn iti ddechrau mynd o'r golwg. 17Ni chaiff neb o'th olynwyr deyrnasu am yr un hyd o amser â thi, nac yn wir am ei hanner.” 18Yna cododd y drydedd aden, ac arglwyddiaethu fel ei rhagflaenwyr, a diflannodd hithau. 19Felly bu pob un o'r adenydd yn arglwyddiaethu yn ei thro, ac yna eto aethant yn llwyr o'r golwg.
20Yna edrychais, ac ymhen amser dyma'r adenydd eraill, ar y llaw chwith#11:20 Felly rhai Fersiynau Ethiopeg. Lladin, ar y llaw dde. hwythau'n codi i gael arglwyddiaethu; yr oedd rhai ohonynt a gafodd wneud hynny, er nad heb ddiflannu ar unwaith o'r golwg, 21ond yr oedd eraill a gododd na chawsant deyrnasu o gwbl. 22A phan edrychais wedyn, nid oedd y deuddeg aden, na dwy o'r adenydd bychain, i'w gweld; 23nid oedd dim ar ôl ar gorff yr eryr ond y tri phen yn gorffwys yn llonydd, a chwech aden fechan. 24Wrth imi edrych, dyma ddwy o'r chwech aden fach yn ymddidoli oddi wrth y lleill ac yn aros o dan y pen ar y dde; arhosodd y pedair arall yn eu lle. 25Yna gwelais yr is-adenydd hyn yn cynllunio i'w dyrchafu eu hunain i gael teyrnasu. 26Dyma un ohonynt yn codi, ond diflannodd ar unwaith; 27gwnaeth yr ail yr un modd, ond diflannodd hon yn gyflymach na'r un o'i blaen. 28Yna, wrth imi edrych, gwelais y ddwy oedd ar ôl yn cyd-gynllunio i gael teyrnasu eu hunain. 29Ac wrth iddynt gynllunio, dyma un o'r pennau oedd yn gorffwyso—yr un yn y canol, oedd yn fwy na'r ddau arall—yn dechrau dihuno. 30Gwelais hefyd iddo uno'r ddau ben arall ag ef ei hun, 31a throi, ynghyd â'r pennau oedd gydag ef, a bwyta'r ddwy is-aden oedd yn cynllunio i gael teyrnasu. 32Darostyngodd y pen hwn yr holl ddaear iddo'i hun, ac arglwyddiaethu ar ei thrigolion â gormes mawr; ac yr oedd ei arglwyddiaeth fyd-eang ef yn rymusach nag eiddo'r holl adenydd a fu o'i flaen. 33Ar ôl hynny edrychais eto, ac yn sydyn dyma'r pen oedd yn y canol yn diflannu, yn union fel yr adenydd. 34Ond yr oedd dau ben yn aros, a buont hwythau'n teyrnasu dros y ddaear a'i thrigolion; 35ac wrth imi edrych, dyma'r pen ar y dde yn llyncu'r un ar y chwith.
36Yna clywais lais yn dweud wrthyf, “Edrych o'th flaen, ac ystyria'r hyn yr wyt yn ei weld.” 37Edrychais, a dyma rywbeth fel llew, wedi ei darfu o'r coed, yn rhuo; ac fe'i clywais yn llefaru wrth yr eryr â llais dyn, a dweud: 38“Gwrando, rwyf am siarad â thi. 39Y mae'r Goruchaf yn dweud wrthyt: ‘Onid ti yw'r unig un sy'n aros o'r pedwar bwystfil y perais iddynt deyrnasu ar fy myd, er mwyn dirwyn fy amserau i ben drwyddynt?’ 40Ti yw'r pedwerydd i ddod, ac yr wyt wedi trechu'r#11:40 Felly rhai Fersiynau. Lladin, Daeth y pedwerydd bwystfil a threchu'r. holl fwystfilod a aeth o'r blaen, gan arglwyddiaethu ar y byd â braw mawr ac ar yr holl ddaear â'r gormes llymaf. Cyhyd o amser y buost#11:40 Felly rhai Fersiynau. Lladin, y buont. fyw yn y byd trwy dwyll! 41Ac nid â gwirionedd y bernaist y ddaear. 42Buost yn gorthrymu'r addfwyn ac yn cam-drin yr heddychol; caseaist y rhai a ddywedai'r gwir, a charu celwyddwyr; dinistriaist gartrefi'r ffyniannus, a bwrw i lawr furiau rhai na wnaethant unrhyw ddrwg iti. 43Ond y mae dy draha wedi codi i fyny at y Goruchaf, a'th falchder at yr Hollalluog. 44Y mae'r Goruchaf wedi edrych yn ôl ar ei amserau; y maent wedi dod i ben, ac y mae ei oesoedd ef wedi eu cyflawni. 45Felly rhaid i ti, yr eryr, ddiflannu o'r golwg yn llwyr, ynghyd â'th adenydd ofnadwy, a'th is-adenydd ysgeler, dy bennau atgas, dy ewinedd creulon, a'th holl gorff diwerth. 46Felly, wedi ei gwaredu oddi wrth dy drais di, caiff yr holl ddaear adfywiad ac adnewyddiad; yna gall obeithio am farn ac am drugaredd yr Un a'i creodd.”

Dewis Presennol:

2 Esdras 11: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda