Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 6

6
1Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt, 2Weled o feibion DUW ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant. 3A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe: a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant. 4Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion DUW at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hynny iddynt: dyma’r cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
5A’r ARGLWYDD a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser. 6Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon. 7A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
8Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD.
9Dyma genedlaethau Noa: Noa oedd ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyda DUW y rhodiodd Noa. 10A Noa a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Jaffeth. 11A’r ddaear a lygrasid gerbron DUW; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd. 12A DUW a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear. 13A DUW a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyda’r ddaear.
14Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg. 15Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder. 16Gwna ffenestr i’r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi. 17Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga. 18Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac i’r arch yr ei di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi. 19Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant. 20O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i’w cadw yn fyw. 21A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau. 22Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai DUW iddo, felly y gwnaeth efe.

Dewis Presennol:

Genesis 6: BWMA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd