Gweledigeth 19
19
Pen. xix.
1 Roi moliant y Ddew am varnu ’r putein, ac am ddial gwaed ei weision. 10 Ny vynn yr Angel ei addoli. 17 #Galw ’r ehediait a’r adar i’r lladdfa.
1AC yn ol hyn, mi glyweis lleis #19:1 * mawrywchel gan dyrva vawr yny nef, yn dwedyd, Hallelu‐iah, iechyd a’ gogoniant, ac anrrydedd, a’ gallu y vo yr Arglwydd yn Dyw ni.
2Cans cywir a’ chyfiawn ydynt y varney ef: cans ef y varnoedd y byttein vawr, yr hon y lygroedd y ddayar ae godineb, ac y ddialoedd gwaed y weison y gollvvyd gan y llaw hi.
3Ac eilwaith hwy ddwedasant, Hallelu‐iah: ac y mwg hi y #19:3 ‡ escennoð gododddrychafoedd yn dragywydd.
4Ar pedwar arygen o henafied, ar pedwar enifel y syrthiasant y lavvr, ac addolasant Ddyw, oedd yn eistedd ar yr eisteddle, dan ddwedyd, Amen, Hallelu‐iah:
5A’ lleis y ddoeth allan o’r eisteddle, yn dwedyd, Molianwch yn Dyw ni, y holl weision, ar rrei ydych yny ofni ef bychein a’ mawrion.
6Ac mi glyweis lleis mal tyrva vawr, a’ mal lleis llawer o ddyfroedd, ac mal lleis taraney cedyrn, yn dwedyd Hallelu‐iah: can ys yn Arglwydd Ddyw hollalluawc a deyrnasoedd.
7Gwnawn yn llawen a llawenychwn, a ’rroddwn gogoniant yddo ef: achos dyfod priodas yr Oen, ae wreic ef y ymbarattoedd.
8A’ chanattay y wneithpwyd yði, ymwisco a #19:8 * byssollien‐mein #19:8 ‡ ’lanpur a’ dysclaer: can ys y llien‐mein ydiw cyfiawnder y Saint.
9Ac ef y ddwad wrthyf, Esgrivenna, Bendigedic ynt y rrei y elwyr y #19:9 * swperwledd priodas yr Oen. Ac ef y ddwad wrthyf, Y geiriey hyn y Ddyw ydynt gywir.
10Ac mi syrtheis gair bron y draed ef, y addoli ef: ac ef y ddwad wrthyf, #19:10 ‡ Ymogel, ymochel, gogel.Gwyl rrac gwneythur hynny: yr wyfi yn gydwasnaethwr a thi, ac vn oth vrodyr, ysydd gantynt testolaeth y Iesu, addola Ddyw: can ys tustolaeth y Iesu ydiw ysbryd y bryffodolaeth.
11Ac mi weleis y nef yn agored, a’ syna march gwyn, ar vn y eisteddoedd arno, y elwid, Fyddlawn a’ chowir, ac y mae ef yn barny ac yn ymlað yn gyfiawnder.
12Ae lygeid ef oeddent mal flam dan, ac #19:12 ‡ amar y ben ef oeddent llawer o #19:12 * daleithieugoraney: ac yr ydoedd gantho enw yn escrivenedic, yr hwn ny #19:12 * wyddiatadnaby neb ond ef y hun.
13Ac ef y ddillattawd a gwisc gwedy #19:13 ‡ throchitaro mewn gwaed, ae enw ef y elwir GAIR DYW.
14A’r llyeddvvyr oeddent yny nef, y ddilinasont ef ar veirch gwnion, gwedy ymwisco a llien‐mein gwyn #19:14 ‡ a’ phurglan
15Ac oy eney ef yr aeth allan cleddey llym, y #19:15 * y ladddaro ac ef, yr #19:15 cenedloedd: can ys ef y rriola hwynt a gwialen hayarn, #19:15 * cans, o bleit,ac ef yw yr hwn y sydd yn sathry y #19:15 ‡ pwll gwin, y winfawinwasc #19:15 * cynddareðddigofent, a’ llid Dyw hollalluawc.
16Ac y mae gantho #19:16 ‡ aryny wisc, ac ar y vorddwyd enw escrivenedic, BRENIN Y BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD YR ARGLWYDDI.
17Ac mi weleis Angel yn sefyll yny’r haul, ac yn llefen a lleis ywchel, dan ddwedyd wrth yr holl adar oeðent yn #19:17 * hedfanhedec trwy ganol y nef, Dowch, ac ymgynyllwch ynghyd at #19:17 swper y Dyw mawr,
18Mal y galloch vwytta cig Brenhinoedd, a’ chig pen captenied, a chig gvvyr cedyrn a’ chig meirch, ar rrei ydynt yn eiste arnynt, a chig gvvyr rryddion a’r ceithon, a’ bychein a’ mawrion.
19 Ac mi weleis yr #19:19 * bwystvilenifel, a brenhinoedd y ddayar, ae rryfelwyr gwedy ymgynyll ynghyd y ryfely yny erbyn ef, oedd yn eiste ar y march ac yn erbyn y vilwyr.
20Ond yr #19:20 ‡ bestfilenifel y ddalwyd, ar proffwyd falst ynghyd ac ef yr hwn y wnaeth gwrthiey gair y vron ef, trwyr rrein y siomoedd ef hwynt y dderbynasant nod #19:20 ‡ y bestfilyr enifel, ar rrei addolasant y ddelw ef, Y ddoy #19:20 * hynyma y vwriwyd yn vyw yr pwll tan yn llosgi a brymstan.
21A’ #19:21 * lleillrelyw y las a chleddey’r vn ys ydd yn eistedd ar y march, yr hwn gleddey ’sy yn dyvot allan oe eney, ar holl adar y lenwid yn llawn oe cic hvvy.
Dewis Presennol:
Gweledigeth 19: SBY1567
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2018