Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actæ 9

9
Pen. ix.
Ymchoeliait Saul ir ffydd. Ei alwedigaeth ir Apostoliaeth. Maint ei wynfyt y ddylyn ei swyð. Pa weð y diangoð rac brade yr Iuðeō. Ei vynediat at yr Apostoliō. Llwyddiaint yr Eccles. Petr yn iachay Eneas, Yn cyvody Tabitha. Yn troi llaweroedd at Christ. Ac yn lletuya yn‐tuy barker:
1AC Saul eto yn #9:1 * ffroenichwythy bygythiae a’ lladdfa yn erbyn discipulon yr Arglwydd, aeth at yr Archoffeiriat, 2ac archodd lythyrae ganthaw ir Damasco at y Synagogae, a chaffaei ef neb rei oedd or ffordd #9:2 honno (ai yn wyr ai yn wragedd) vod iddo y dwyn hwy yn rhwym i Gaerusalem. 3Ac mal ydd oedd ef yn #9:3 * siwrneioymddaith, e ðarvu val y dynesaawdd ef ar Ddamasco, yn ddisyvyt y llewychawdd oei amgylch ’olauni or nef, 4Ac ef a gwympodd #9:4 ir llawrar y ddaiar, ac a glywodd lef, yn dywedyt wrthaw, Saul, Saul, paam im erlydi? 5Ac ef a ddyvot, Pwy ytwyt Arglwydd? A’r Arglwydd a ddyvot, Mi yw Iesu yr hwn a erlydi di: #9:5 * anhawddcalet yw yty wingo yn erbyn y swmbylæ. 6Efe yno ac yn echrynedic ac #9:6 * mewn irdangyn synn, a ddyvot, Arglwydd, Pa beth a vynny i imi ei wneythyd? A’r Arglwydd a ddyuot wrthaw, #9:6 CwynCyvot a does ir dinas, ac e ddywedir yty pa beth vydd #9:6 * raiddir yty ei wneythyd. 7A’r gwyr oedd yn cydymddeith ffordd ac ef, a safasant wedy sanny, gan glywet y llef, ac eb yddwynt welet #9:7 vndynnebun. 8Ac Saul a gyvodes o yar y ddaiar, ac a gores ei lygaid, ac ny welawð ef vndyn. Yno yr #9:8 * twysesont ef erbynarwenesant ef erwydd ei law, ac ei ducesont y Damasco. 9Ac yno y bu dri‐die eb #9:9 ei olwcwelet, ac eb bwyta nac yfet. 10Ac ydd oeð #9:10 * rrywnep discipul yn Damasco ’r y elwit Ananias, ac wrthaw y dyvot yr Arglwydd drwy weledigaeth, Ananias, ac ef a ddyvot, Wele, d’yma vi Arglwydd. 11Yno y dyuot yr Arglwydd wrthaw, #9:11 * Cwyn cychwynCyvot, a’ cherða ir heol y elwir Vnion, a’ chais yn‐tuy Iudas vn aei enw Saul o ddinas Tarsus: can ys wele y mae ef yn gweddiaw. 12(Ac ef a welai drwy weledigaeth ’wr a enwit Ananias yn dyvot y mewn attaw, ac yn dody ei ddwylaw arnaw, y gahel o honaw ei ’olwc. 13Yno ydd atebawdd Ananias, Arglwydd, ys clywais gan lawer am y gwr hwnw, vaint y #9:13 * drygaedrwc a wnaeth ef ith sainct yn Caerusalem. 14Ac cyd a hyny y mae ganthaw yma awturtat gan yr Archoffeiriait, y rwymo pawp y ’alwo ar dy Enw. 15Yno y dyvot yr Arglwydd wrthaw. Dos ymaith, can ys mae ef yn llestr etholedic y mi, y ddwyn vy Enw rac bron y Cenetloedd, a’ Brenhinedd a’ phlant yr Israel. 16Can ys mi a ddangosaf iddaw, pa veint bethae #9:16 orvyddvydd dir iddaw ei goðef ermwyn vy Enw. 17Yno Ananias aeth ymaith, ac aeth y mewn ir tuy, ac a osodes ei ddwylo arnaw, ac a ddyvot, Brawd Saul, yr Arglwydd am danvonawdd ( ys ef Iesu yr hwn a ymddangoses yty ar y ffordd wrth ddyvot) #9:17 * val. &c.y dderbyn o hanot dy ’olwc, ac ith gyflawner or Yspryt glan. 18Ac yn y man y syrthiawð y wrth ei lygait megis #9:18 cengan ac yn ebrwydd y derbyniawdd ei ’olwc, ac y cyvododd ac y batyddiwyt, 19ac y cymerawdd vwyt, ac y cryfhaodd. Velly y bu Saul dalm o ddiddyae gyd a’r discipulon oedd yn Damasco. 20Ac yn #9:20 ebohir, eb oludd, yn ddysyfyt, yn ehegrddiannot y precethawdd ef Christ yn y Synagogae, #9:20 * tawmae ef ytoeð map Dew: 21a’ chwithaw a wnaeth ar pawp ei clybu, a’ dywedyt, Anid hwn yw ef, y oedd yn destryw yr ei ’alwent ar yr Enw hwn yn‐Gaerusalem, ac a ddaeth yma er mwyn hyn ys ef ei y dwyn hwy yn rhwym at yr Archoffeiriait. 22Eithyr Saul a gynnyddodd vwy‐vwy o nerth, ac a wradwyddawdd yr Iuddaeon oedd yn preswiliaw yn Damasco, gan gadaruhay may hwn ytoedd y Christ. 23Ac yn ol cyflawny llawer o ddyddiae, y cyd ymgyggorawdd yr Iuddaeon, cr ei ladd ef. 24Eithyr y #9:24 * bradcynllwyn hwy a wybu Saul: ac vvy a ddysgwiliesont y pyrth ddydd a’ nos, yvv ladd ef. 25Yno yr discipulō y cymersont ef o hyd nos, ac ei danvonesont trwy r’ #9:25 vagwyrmur, ac ei gellyngesont y lawr mewn cawell. 26A’ gwedy dyvot Saul i Gaerusalem, y #9:26 * darparoddprofawð e ymwascy a’r discipulon: ac ydd oeðent oll yn y ofny ef, gan #9:26 vot eb gredyancredy y vot ef yn ðiscipul. 27Ac Barnabas y cymerawdd ef, ac ei duc at yr Apostolon, ac vanagawdd yddwynt #9:27 * p’oddpa vodd y gwelsai ef yr Arglwydd ar y ffordd, a’ bod iddo lavaru wrthaw, ac mor hyderus y llavaresei ef yn Damasco yn Enw yr Iesu. 28Ac ydd oedd ef yn #9:28 * myned y mewn ac allancyd tramwy ac wynt yn‐Caerusalem, 29ac a lavarodd yn eon yn Enw yr Arglwydd Iesu, ac ef a gympwyllawdd ac a #9:29 ymresynoðymddadleawdd a’r #9:29 * GroecwyrGroecieit: ac wyntvvy a geisiesont y ladd ef. 30A’ phan wybu y broder, vvy y ducesont ef i Cesareia, ac ei danvonesont ymaith y Tarsus. 31Yno yð oeð yr Ecclesidd yn cael heddwch trwy ’r oll Iudaia, a’ Galilaia, a’ Samareia, ac ei hadailiadwyt, gan yddwynt #9:31 ymarwainrodiaw yn ofn yr Arglwyð, ac ei #9:31 * amylhawytlliosocwyt trwy ddiddanwch yr Yspryt glan. 32Ac e ddarvu, val ydd oedd Petr yn gorymddaith trwy ’r oll vvledydd, e ðaeth hefeit at y sainct oeð yn trigiaw yn Lydda. 33Ac yno y cauas #9:33 ryw wrneb dyn a enwit Aaineas, y vesei yn gorwedd yn ei wely wyth blynedd, ac oedd yn glaf o’r parlys. 34Ac Petr a ddyvot wrthaw, Aineas, yr Iesu Christ ’sy ith iachau: cyvot a’ gwna dy wely. Ac ef a gyvodes yn ebrwydd. 35#9:35 * A’phawpAc oll oedd yn preswyliaw yn Lydda ac Saron, y gwelsant ef, ac ymchwelesont #9:35 atar yr Arglwydd: 36Ac ydd oedd hefyt yn Ioppa ryw discipules aei henw Tabitha (yr hon wrth hi deongl #9:36 * elwir, ytywy ðywedir Dorcas) hon oedd yn gyflawn o weithredoeð da, ac o eleesenae ’r ei wnelei hi. 37Ac e ddarvu y dyðiae hyny, bod iddi glefychy a’ marw: a’ gwedy yðwynt hei golchi, vvy dodesont hi mewn goruchystavell. 38Ac erwyð bot Lydda yn gyfagos #9:38 ati Ioppa, a’ chlywed o’r discipulon vot Petr yno, wy ðanvonesont atto ddau wr, gan ddeisyf nad oedei ðyuot atynt. 39Yno y cyvodes Petr ac yd aeth y gyd ac wynt: ac wedy ei ddyvot, wy ei dygesont ir oruch ystavell, lle ydd oedd yr oll wragedd‐gweddwon yn sefyll #9:39 * yn ei emyloei amgylch yn wylaw, ac yn dangos y peisiae a’r gwiscoedd, a wnaethai Dorcas, tra ytoeð hi y gyd ac wynt. 40Yno Petr y rhoes hwy oll y maes, ac #9:40 a benlinoeddestyngawdd ar ei liniae, ac a weddiawdd, ac a ymchwelawadd at y corph, ac a ddyvot, Tabitha, cyvot. Ac yhi a agores ei llygait, ac wedi y gwelas hi Petr, ydd eisteddawdd. 41Yno y rrodes ef y llaw iðhei, ac hei #9:41 * derchavoðcyvodes i vynydd: ac ef a elwis y sainct a’r gwrageð‐gweðwon, ac ef y adverodd hi yn vyw. 42Ac e a wybuwyt dros oll Ioppa, a’ llawer a gredesont yn yr Arglwydd. 43Ac e ddarvu, yd pan oedd yddaw drigaw lawer o ddyddiae yn Ioppa, gyd ac vn Simon #9:43 tanner.barker.

Dewis Presennol:

Yr Actæ 9: SBY1567

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda