Salmau 52
52
SALM 52
Sicrwydd yn Nuw
Eirinwg 98.98.D
1-4aŴr grymus, paham yr ymffrosti
Mewn drwg, a defnyddio dy rym
Yn erbyn y duwiol, a’th dafod
Fel ellyn, yn finiog a llym?
Ti fradwr, fe geri ddrygioni
Yn fwy na daioni o hyd,
A chelwydd yn fwy na gwirionedd,
Ac enllib yw d’eiriau i gyd.
4b-7Am fod dy holl iaith yn dwyllodrus,
Dy dynnu i lawr a wna Duw,
Dy gipio o’th gartref cyffyrddus,
A’th rwygo o dir y rhai byw.
A’r cyfiawn a wêl ac a ofna,
Gan chwerthin, a dweud, “Dyma’r dyn
Na roddodd ei ffydd yn yr Arglwydd,
Ond yn ei drysorau ei hun”.
8-9Ond fi, byddaf fel olewydden
Yn iraidd yng ngardd tŷ fy Nuw;
Ac yn ei ffyddlondeb y rhoddaf
Fy hyder tra byddaf i byw.
Diolchaf am byth iti, Arglwydd,
Am bopeth a wnaethost i mi.
Cyhoeddaf dy enw – da ydyw –
Ymysg y rhai ffyddlon i ti.
Dewis Presennol:
Salmau 52: SCN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Gwynn ap Gwilym 2008