Salmau 47
47
SALM 47
Duw’n frenin ar y cenhedloedd
Garthowen 87.87.D
1-4Curwch ddwylo yr holl bobloedd,
Rhowch wrogaeth lon i Dduw,
Cans ofnadwy yw’r Goruchaf,
Brenin yr holl ddaear yw.
Fe ddarostwng bobloedd lawer
A chenhedloedd danom ni,
A rhoes inni ein hetifeddiaeth,
Balchder Jacob ydyw hi.
5-9Yn sŵn llawen ffanffer utgyrn,
Yn sŵn bloedd, esgynnodd Duw.
Canwch fawl i Dduw ein brenin,
Brenin yr holl ddaear yw.
Gyda phlant Duw Abram unodd
Tywysogion yr holl fyd
Ger ei orsedd; ef a’u piau,
Ac mae’n uwch na hwy i gyd.
Dewis Presennol:
Salmau 47: SCN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Gwynn ap Gwilym 2008