Salmau 29
29
SALM 29
Mawrhydi’r Arglwydd
Gwalchmai 74.74.D
1-4Molwch, dduwiau, yn ddi-daw
Enw’r Arglwydd.
Plygwch iddo ef pan ddaw
Mewn sancteiddrwydd.
Mae ei lais uwch cenllif gref
Yn taranu.
Duw’r gogoniant ydyw ef
Sy’n llefaru.
5-6Mawr a nerthol lef yw hon:
Dryllia’r cedrwydd.
Dryllio cedrwydd Lebanon
Y mae’r Arglwydd.
Gwna i fynydd Lebanon
Ac un Sirion
Neidio a llamu ger ei fron
Fel dau eidion.
7-9Fflachia’i lais fel mellt ar daith,
Ac mae’n peri
I anialwch Cades faith
Grynu ac ofni.
Mae’r ewigod cyn eu pryd
Oll yn llydnu.
Yn ei deml mae’r bobl i gyd
Yn mawrygu.
10-11Eistedd y mae’r Arglwydd Dduw
Uwch y dyfroedd
Ar ei orsedd. Brenin yw
Yn oes oesoedd.
Rhodded ef i’w bobl byth mwy
Nerth a mawredd!
A bendithied hefyd hwy
 thangnefedd!
Dewis Presennol:
Salmau 29: SCN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Gwynn ap Gwilym 2008