Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 65

65
SALM LXV
Te decet hymnus.
Y ffyddloniaid yn diolch i Dduw, am eu dewis a’i llywodraethu hwy, ac am ei fendithion i’r ddaiar.
1I ti (o Dduw) y gweddai mawl
yn y sancteiddiawl Sion,
I ti y telir drwy holl gred,
bob gwir adduned calon.
2Pawb sydd yn pwyso attad ti,
a wrendy weddi dostur,
Ac attad ti y daw pob cnawd,
er mwyn gollwngdawd llafur.
3Pethau trowsion, a geiriau mawr,
myfi i’r llawr bwriasant,
Ond tydi Dduw, rhoi am gamwedd
drugaredd a maddeuant.
4Dy etholedig dedwydd yw
caiff nesnes fyw i’th Babell,
Trig i’th gynteddau, ac i’th lys,
a’th sanctaidd weddus gangell.
5Duw’n ceidwad attebi i ni
o’th ofni i’th gyfiownedd,
Holl obaith wyd drwy’r ddaiar hon,
a’r mor cynhyrfdon rhyfedd.
6Hwn a siccrhâ bob uchel fryn
â’i wregys yn gadernyd.
7Hwn a ostega’r mor, a’r don,
a rhuad eigion enbyd.
8A holl breswylwyr eithaf byd
sy’n ofni’ gyd d’arwyddion,
I ti gan forau a chan hwyr,
y canant laswyr ffyddlon.
9Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,
afon Duw llanwyd drosti,
Darperaist lifddyfr rhyd ei llawr
iw thramawr gyfoethogi.
10Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,
a’i chwysau’r wyd iw gostwng.
A’i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,
iw chnwd rhoi fendith deilwng.
11Coroni’r ydwyd ti fal hyn
y flwyddyn â’th ddaioni,
Y ffordd hyn a’r modd (Duw fy ner)
diferaist frasder arni.
12Ef a ddifera ffrwyth dy serch
ar bob rhyw lannerch ddyrys,
Pob mynydd sych yn uchder gwlâd
o ffrwyth dy rad y dengys.
13Drwy dy fendith y gwastad dir
a guddir oll â defaid,
Crechwennant, canant bawb ynghyd,
a’r wlâd ac ŷd ei llonaid.

Dewis Presennol:

Y Salmau 65: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda