Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 61

61
SALM LXI
Exaudi Deus.
Y mae yn dymuno ar Dduw ei achub rhag ei erlidwyr, a’i gadarnhau yn ei dyrnas, drwy addo mawl tragwyddol.
1Erglyw (o Dduw) fy llefain i,
ac ar fy ngweddi gwrando:
2Rhof lef o eitha’r ddaiar gron,
a’m calon yn llysmeirio.
Dwg fi i dollgraig uwch na mi,
ac iddi bydd i’m derbyn.
3Cans craig o obaith, twr difost,
y’m fuost rhag y gelyn.
4O fewn dy Babell y bydd byth,
fy nrigfan dilyth dedwydd:
A’m holl ymddiried a fyn fod
ynghysgod dy adenydd.
5Sef tydi Dduw clywaist yn glau,
fy addunedau puraidd:
Rhoist etifeddiaeth i bob rhai
a ofnai dy enw sanctaidd.
6Rhoi oes i’r brenin: nid oes ferr:
fo fydd fyw lawer blwyddyn.
7(Duw) gar dy fron y trig yn hir,
dod nawdd a gwir iw ganlyn.
8A thrwy y rhai’n y molaf fi
dy enw di yn dragywydd.
Ac felly peri i mi gwplau
fy addunedau beunydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 61: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda