Y Salmau 50
50
SALM L
Deus deorum.
Prophwydoliaeth am alwedigaeth y cenhedloedd, ac na fyn Duw aberth ond diolchgarwch, yn erbyn y rhai arferant Ceremoniau o flaen gair Duw.
1Duw y duwiau, yr Arglwydd cu,
gan lefaru a alwodd,
O godiad haul hyd fachlud hwn,
yr hollfyd crwn cyffrodd.
2O fryn Sion y daeth Duw naf,
hon sydd berffeithiaf ddinas,
Mewn tegwch a goleuni mawr,
a llewych gwawr o’i gwmpas.
3Doed rhagddo’n Duw, na fid fel mud,
o’i flaen fflam danllud ysed:
A mawr dymestloedd iw gylch ef,
pan ddel o nef i wared.
4Geilw ef am y nefoedd fry,
a’r ddaiar obry isom,
I gael baru ei bobloedd ef,
fal hyn rhydd lef am danom.
5O cesglwch attaf fi fy saint,
y rhai drwy ryddfraint brydferth:
A wnaethan ammod a myfi,
a’i rhwymo hi drwy aberth.
6A phan ddangoso mintai nef
ei farnau ef yn union,
Sef Duw fydd yn barnu ei hun,
yr unic gun sydd gyfion.
7Clyw di fy mhobl, traethaf yn ffraeth
dystiolaeth yn dy erbyn,
Dithau Israel: ac iawn yw,
Duw, sef dy Dduw a’th ofyn.
8Ni chai di am yr ebyrth tau,
na’th boeth offrymau gerydd:
Nac am na baent hwy gar fy mron,
y cyfryw roddion beunydd.
9Ni chymeraf o’th dy un llo,
na hyfr a fo’n dy gorlan,
10Mi biau’r da’n y maes sy’n gwau
ar fil o frynniau allan.
11Pob aderyn erbyn ei ben,
a adwen ar y mynydd.
Pob da maesydd, y lle y maen,
y maent o’m blaen i beunydd.
12Nid rhaid ym’ ddangos i ti hyn,
pe delai newyn arnaf,
Ac yn eiddo fi yr holl fyd,
a’i dda i gyd yn llownaf.
13A’i cig y teirw fydd fy mwyd? na thyb:
nid wyd ond angall:
Ai gwaed hyfrod fydd fy niod?
dysg o newydd ddeall.
14Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,
a thal yr offrwm pennaf:
Cân ei fawl ef: a dod ar led
d’adduned i’r Goruchaf:
15Galw arnaf yn dy ddydd blin,
yno cai fi’n waredydd.
Yno y ceni i mi glod
am droi y rhod mor ddedwydd.
16Duw wrth yr enwir dywaid hyn:
ai ti perthyn fy neddfau?
Paham y cym’ri di, na’m clod,
na’m hamod yn dy enau?
17Sef, cas fu gennyt ti iawn ddysg
ac addysg ni chymeraist:
A’m geiriau i (fel araith ffol)
i gyd o’th ol a deflaist.
18A phan welaist leidr rhedaist
a rhwydaist ran oddiwrtho:
Ac os gordderchwr brwnt af lan,
mynnaist ti gyfran gantho.
19Gollyngaist di dy safn yn rhydd
yn efrydd ar ddrygioni:
A’th dafod a lithrai ym mhell
at ddichell a phob gwegi.
20Eisteddaist di, dwedaist ar gam
ar fab dy fam er enllib.
21Pan wnaethost hyn, ni’th gosbais di,
a thybiaist fi’n gyffelib.
Ond hwy na hyn tewi ni wnaf,
mi a’th geryddaf bellach
Mi a ddangosaf dy holl ddrwg
o flaen dy olwg hayach.
22Gwrandewch: a pheidiwch tra foch byw
a gollwng Duw yn angof:
Pan ni bo neb i’ch gwared chwi,
rhag ofn i mi eich rhwygo.
23Yr hwn a ’abertho ’i mi fawl
yw’r sawl a’m gogonedda,
I’r neb a drefno’i ffordd yn wiw
gwir iechyd Duw a ddysgaf.
Dewis Presennol:
Y Salmau 50: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017